Cyngor i beidio teithio ar ôl canfod craciau ar drenau GWR

  • Cyhoeddwyd
Dwsinau o drenau Hitachi 800 yn cael gwiriadau diogelwch brys yn nepo'r cwmni yn Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Dwsinau o drenau Hitachi 800 yn cael gwiriadau diogelwch brys yn nepo'r cwmni yn Abertawe

Mae rhai gwasanaethau rheilffordd ledled y DU - gan gynnwys yn ne Cymru - wedi cael eu canslo ar ôl i graciau gael eu darganfod mewn trenau cyflym.

Cafwyd hyd i'r craciau yn nhrenau Hitachi 800, sy'n cael eu defnyddio gan Great Western Railway (GWR), trenau rhwng Llundain a gogledd ddwyrain Lloegr, a Hull Trains.

Rhybuddiodd y gweithredwyr y byddai'n rhaid canslo gwasanaethau wrth ymchwilio i'r craciau.

Cynghorwyd teithwyr i wirio cyn teithio ac ystyried gohirio siwrneiau.

Mae'r holl wasanaethau cyflym GWR rhwng Llundain, Bryste, Caerdydd a Penzance wedi'u canslo ac mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i beidio â cheisio teithio heddiw.

Dywedodd GWR fod Hitachi yn ymchwilio, a bod modd i gwsmeriaid gael ad-daliad neu fwy o wybodaeth drwy fynd i gwr.com.

Mae Hitachi wedi dweud bod rhai o'r trenau bellach yn rhedeg unwaith eto, a'u bod yn gweithio'n gyflym i sicrhau bod y gweddill yn saff hefyd.

Dechreuodd y fflyd o drenau Hitachi 800 wasanaethu yn y DU yn 2017.

Pynciau cysylltiedig