Trenau: '78% yn cydymffurfio' ac yn gwisgo mwgwd

  • Cyhoeddwyd
mwgwdFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn honni fod 78% o ddefnyddwyr y rheilffyrdd yng Nghymru bellach yn cydymffurfio gyda'r ddeddf ac yn gwisgo mygydau ar drenau.

Mae gwisgo mwgwd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn orfodol yng Nghymru ers 27 Gorffennaf.

Ond roedd nifer wedi cwyno nad oedd hynny'n digwydd mewn gwirionedd.

Nawr mae ystadegau Trafnidiaeth Cymru yn awgrymu bod 78% o'u cwsmeriaid yn cydymffurfio ar drenau.

Ond yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid i gwsmeriaid nawr wisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal gaeedig gan gynnwys mewn gorsafoedd, ar blatfformau ac mewn meysydd parcio.

Mae TrC hefyd yn annog eu cwsmeriaid i wisgo eu gorchuddion wyneb yn gywir ac maen nhw'n darparu cyfarwyddiadau ychwanegol ar hyn.

Mae gan y rheini sydd wedi'u heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb yr opsiwn i gael eu hadnabod a'u helpu drwy gynllun Anableddau Cudd Laniard Blodau'r Haul.

Ers canol Awst mae TrC wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Trafnidiaeth Prydain i orfodi'r ddeddf, ac yn ystod wythnos gyntaf mis Medi cafodd bron 500 o bobl eu gwrthod am fethu â chydymffurfio â'r rheolau.