Glenn Delaney yn gadael fel prif hyfforddwr y Scarlets
- Cyhoeddwyd
Mae'r Scarlets wedi cyhoeddi bod eu prif hyfforddwr Glenn Delaney yn gadael y rhanbarth yn syth.
Daeth y cyhoeddiad lai nag awr wedi i'r tîm drechu'r Gweilch yng Nghwpan yr Enfys y Pro14.
Dim ond tair wythnos sydd ers i'r Scarlets gyhoeddi y byddai Delaney yn symud i fod yn gyfarwyddwr rygbi y tymor nesaf.
Mae cyn-fewnwr Cymru, Dwayne Peel eisoes wedi cytuno i ddychwelyd i'r rhanbarth fel prif hyfforddwr y tymor nesaf.
Bydd hyfforddwr yr olwyr, Dai Flanagan nawr yn gyfrifol am y garfan am weddill y tymor fel prif hyfforddwr dros dro.
Dywedodd Delaney fod y flwyddyn ddiwethaf dan amgylchiadau Covid-19 wedi bod yn "heriol tu hwnt" i'r rhanbarth.
"Dwi'n gwybod bod y clwb mewn dwylo gwych wrth symud ymlaen i'r tymor newydd a dwi ond dymuno'r gorau iddyn nhw," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2021