Galw am ymweld yn aml ag anwyliaid ar ddiwedd oes

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Keith Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Keith Lewis: "Yr hyn sy'n rhwystredig yw na allwn wneud fawr ddim am y peth."

Dywed mab i ddynes sy'n cael gofal diwedd oes mewn cartref nyrsio ym Mro Morgannwg bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod teuluoedd yn cael ymweld yn gyson ag anwyliaid yn ystod eu dyddiau olaf.

Mae Keith Lewis a'i ddwy chwaer wedi cael gwybod na fydd hi'n bosib iddyn nhw ymweld yn gyson â'u mam Joyce sy'n 94 oed oherwydd pryderon Covid.

Dywed rheolwr gyfarwyddwr y grŵp sy'n berchen ar gartref gofal Springbank yn Y Barri ei fod yn deall rhwystredigaeth teuluoedd yn ystod cyfnod mor anodd ond bod yn rhaid iddo amddiffyn preswylwyr a'r staff rhag haint y coronafeirws.

Cafodd y teulu eu galw i'r cartref ddydd Llun diwethaf ar gyfer ymweliad a oedd yn cael ei gydnabod fel un diwedd oes wedi i'r staff ddweud bod cyflwr Mrs Lewis yn dirywio.

"Fe gafodd fy chwiorydd a fi 15 munud. Roedd yn rhaid i ni wisgo PPE llawn ond yr hyn sy'n ofnadwy yw ein bod wedi cael gwybod efallai na fydd modd i ni ymweld eto," meddai.

"Roedd hawl gennym fynd am un ymweliad diwedd oes ac o hyn ymlaen dim ond un person dynodedig sy'n cael ymweld - felly o'r tri ohonom dim ond un fydd yn cael mynd a hynny unwaith yr wythnos.

"Yr hyn sy'n rhwystredig yw na allwn wneud fawr ddim am y peth."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Keith Lewis, Joyce Lewis, wedi bod yn y cartref ers dwy flynedd wedi iddi gael strôc bum mlynedd yn ôl.

Cyn y feirws roedd aelodau'r teulu yn ymweld â hi bob dydd ac roedd Mr Lewis wedi prynu car arbennig i fynd â hi am dro.

"Be chi'n ddweud pan mae gennych ond 15 munud i ffarwelio â'ch mam? Dwi'n cofio dweud wrthi fy mod yn ei charu hi a bod angen iddi frwydro ond roedd hi'n cysgu'n achlysurol."

'Angen diogelu preswylwyr a staff'

Dywed Raam Joshi, rheolwr Grŵp Caron sy'n rhedeg y cartref, bod gan deuluoedd yr hawl i ymweld yn gyson cyn y pandemig ond bod y feirws wedi gwneud hynny'n amhosib.

Wrth alw teuluoedd ar gyfer ymweliad diwedd oes dywed bod perthnasau yn cael cyfle i dreulio ychydig o amser gydag anwyliaid wrth i'w bywyd ddirwyn i ben.

"Ry'n ni wedi ceisio sicrhau fod pawb yn cael ffarwelio am y tro olaf - mae yna benderfyniad clinigol yn cael ei wneud gan nyrs ac yna ry'n yn galw aelod o'r teulu," meddai.

"Rwy'n deall rhwystredigaeth teulu mai dim ond un ymweliad sy'n bosib ond rhaid i ni ystyried y risg o ddod â haint coronafeirws i'r cartref.

"Mae sicrhau yr un ymweliad yna yn golygu bod yna broses drwyadl iawn o bellhau cymdeithasol a phrofi."

Dywedodd hefyd fod 46 o breswylwyr yn y cartref ac nad oes modd cynnal mwy na saith ymweliad dyddiol.

Mae'r ymweliadau diwedd oes yn ychwanegol at yr ymweliadau hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Raam Joshi: "Ry'n wedi ceisio sicrhau fod pawb yn cael ffarwelio am y tro olaf"

Mae canllaw Llywodraeth Cymru yn nodi bod y penderfyniadau terfynol am ymweliadau yn cael eu gwneud gan y cartrefi eu hunain.

Dywed Mr Lewis bod yn rhaid i lywodraeth newydd Cymru weithredu ar frys er mwyn rhoi'r hawl i deuluoedd i ymweld ag anwyliaid sydd ar fin marw.

"Rhaid i lywodraeth newydd Cymru ddeddfu ar be ddylai ddigwydd ar derfyn bywyd - does dim pwynt gadael pethau i'r cartrefi nyrsio. Dydyn nhw ddim yn mynd i adael pobl mewn am eu bod ofn achosion llys."

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (hyd at yr wythnos sy'n cychwyn ar 26 Ebrill) yn dangos bod 22 achos positif o'r haint yng nghartrefi gofal Cymru - y nifer isaf ers i brofion cyson ailddechrau ym Medi. Yn Ionawr roedd y nifer ar ei uchaf yn 1,500.

Mae'r ffigyrau yn nodi hefyd bod un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid wedi ei chofnodi mewn cartref gofal wythnos ddiwethaf.

Pynciau cysylltiedig