Teulu'n galw am beidio gwerthu Tŷ'r Cymry, Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a roddodd dŷ i Gaerdydd i fod yn ganolfan i hyrwyddo'r Gymraeg yn dweud eu bod yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i werthu'r adeilad.
Cafodd Tŷ'r Cymry ei roi "i Gymry Caerdydd" yn 1936 gan y ffermwr Lewis Williams o Fro Morgannwg er mwyn hybu'r iaith Gymraeg yn y ddinas.
Mae'r tŷ ar Heol Gordon, Y Rhath nawr yn nwylo ymddiriedolwyr, a'r disgwyl oedd y byddai'n cael ei werthu mewn ocsiwn wythnos nesa'.
Ond yn ôl yr asiant gwerthu, fydd hynny ddim nawr yn digwydd.
Mae 14 aelod o deulu Lewis Williams wedi ysgrifennu at yr ymddiriedolwyr yn gofyn iddyn nhw i ail-ystyried unrhyw gynlluniau pellach i werthu'r eiddo.
Ar ran y teulu dywedodd Owain Grant, gor-or ŵyr Lewis Williams, fod yr "iaith Gymraeg yn bwysig iawn" i'w dad-cu ac roedd e'n gefnogol tu hwnt i fudiadau fel yr Urdd.
Mae'n dweud fod y teulu yn benderfynol o sicrhau fod y tŷ yn aros fel "cofeb i waith a chefnogaeth Lewis Williams i'r iaith Gymraeg ac i Gymru".
'Y broblem heb ddiflannu'
Am dros 75 o flynyddoedd mae'r tŷ yn Heol Gordon wedi bod yn ganolfan i fudiadau diwylliannol a gwleidyddol gan gynnwys Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith, yr Urdd ac UCAC.
Mae Steve Blundell, cadeirydd cangen leol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, hefyd yn rhan o grŵp o ymgyrchwyr sy' wedi cyflwyno cynigion a chynlluniau posib ar gyfer dyfodol yr adeilad.
Maen nhw'n awyddus i weld ymgynghoriad yn digwydd i ystyried y dyfodol.
Dywedodd Mr Blundell ei fod yn teimlo "rhyddhad" fod y tŷ wedi ei dynnu oddi ar y farchnad am y tro, ond dyw'r "broblem heb ddiflannu", meddai.
Mae'n teimlo fod y penderfyniad i beidio gwerthu Tŷ'r Cymry ar y hyn o bryd yn gyfle i "brynu amser" ac i "gael pawb o gwmpas y bwrdd i ddiogelu dyfodol yr adeilad".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2020