Galwadau i ailagor Tŷ’r Cymry yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau ar berchnogion Tŷ'r Cymry yng Nghaerdydd i beidio â gwerthu'r adeilad wedi iddo gau ym mis Medi.
Mae'r adeilad wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau ers iddo gael ei sefydlu yn 1936 - gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, yr Urdd, Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith a Chylch Meithrin Tŷ'r Cymry.
Mae un o gyn-denantiaid yr adeilad - Cymdeithas yr Iaith - bellach yn galw ar yr ymddiriedolwyr i gadw'r tŷ ar agor er mwyn ei ddatblygu i fod yn "ofod cymdeithasol newydd ar gyfer yr iaith yng Nghaerdydd".
Yn ôl Bethan Ruth, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith: "Mi fyddai cau'r lle yn gam yn ôl i'r Gymraeg yn y brifddinas."
Dywedodd ymddiriedolwyr Tŷ'r Cymry eu bod nhw'n "cydnabod pwysigrwydd yr adeilad i ddiwylliant cymuned Cymraeg Caerdydd", ond bod yr adeilad "wedi mynd yn adfail, ac nad oes cymorth ariannol digonol ar gael i barhau i redeg yr adeilad bellach".
"Mae hanes pwysig i Dŷ'r Cymry yn adferiad yr iaith yng Nghaerdydd, a does dim rheswm i hynny ddod i ben," meddai Ms Ruth.
"Dydyn ni ddim yn galw am gadw pethau fel maen nhw wedi bod - mae pob math o bosibiliadau, ac mae'n amlwg bod angen datblygu'r ganolfan a buddsoddi ynddi.
"Yn hytrach, rydyn ni'n galw ar y perchnogion i basio'r cyfrifoldeb ymlaen i griw newydd fyddai'n gallu ailsefydlu'r lle fel canolfan Gymraeg gyfoes ar gyfer Caerdydd yr unfed ganrif ar hugain."
Cafodd Tŷ'r Cymry ei roi "i Gymry Caerdydd" yn 1936 gan y ffermwr Lewis Williams o Fro Morgannwg er mwyn hybu'r iaith Gymraeg yn y ddinas.
Un sy'n cofio mynd i'r adeilad yn yr 1940au cynnar yw Gwilym Roberts o Gaerdydd.
"O'n i'n ddisgybl yn ysgol ramadeg y bechgyn Penarth ar y pryd," meddai.
"O'n i yn y chweched dosbarth, ac mi benderfynais fynd i ymuno a Thŷ'r Cymry, ac roedd Tŷ'r Cymry yn yr adeg yna yn llawn bywyd.
"Mi oedd yna ddau gyfarfod bob wythnos - un ar nos Sul ac un ar nos Fawrth - ac yn y cyfnod yna, Tŷ'r Cymry oedd yr unig le seciwlar yng Nghaerdydd ar gyfer y Cymry Cymraeg, ac roedd pobl ifanc yn dod o bob cwr o Gymru yno.
"Ddoth Tŷ'r Cymry mewn gwirionedd yn fiwro priodasau, achos mi wnaeth llawer iawn o aelodau Tŷ'r Cymry briodi.
"O'dd o'n lle llawn bwrlwm am flynyddoedd."
'Trist bod y cwbl ar ben'
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni gofio cyfraniad Tŷ'r Cymry i ddatblygiad yr iaith yng Nghaerdydd.
"Mae'n drist i feddwl bod y cwbl wedi dod i ben rŵan.
"Ond ar y llaw arall mae bywyd wedi symud yn ei flaen ac mae cymaint o bethau rŵan sy' 'di cymryd lle Tŷ'r Cymry."
Mae defnydd Tŷ'r Cymry wedi esblygu dros y blynyddoedd, o fod yn fan cyfarfod cymdeithasol i nifer o Gymry Caerdydd yn yr 1940au, i fod yn gartref i nifer o sefydliadau sydd wedi chwarae rhan amlwg yn niwylliant Cymraeg Caerdydd.
Roedd Wyn James yn arfer mynychu gwasanaethau Eglwys Efengylaidd Caerdydd yn Nhŷ'r Cymry yn yr 1980au.
Dywedodd Mr James bod y ganolfan wedi bod yn "lle pwysig iawn" o "safbwynt dysgwyr", "safbwynt y cylch meithrin", a hefyd "o safbwynt datblygu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond trwy Gymru gyfan mewn gwirionedd, trwy Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru".
"Mae'r lle wedi bod yn allweddol o safbwynt dechreuadau addysg ffurfiol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg," meddai.
"Beth fyddai rhywun yn gobeithio - hyd yn oed os yw'r tŷ presennol yn mynd am ba reswm bynnag - yw y bydde 'na falle ganolfan arall yn cael ei brynu gyda'r arian o'r tŷ mewn rhyw ran arall o Gaerdydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2020