Cyhuddo dyn o Gymru o droseddau terfysgaeth asgell dde

  • Cyhoeddwyd
Llys Ynadon WestminsterFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd y pedwar diffynnydd o flaen yr ynadon trwy gyswllt fideo

Mae dyn o Ynys Môn ymhlith pedwar o bobl wnaeth ymddangos o flaen llys yn Llundain ddydd Gwener wedi eu cyhuddo o droseddau'n ymwneud â therfysgaeth asgell dde.

Mae Samuel Whibley, 28, o Borthaethwy yn wynebu chwe chyhuddiad o annog terfysgaeth a dau o ddosbarthu cyhoeddiadau terfysgol.

Clywodd Llys Ynadon Westminster honiad ei fod wedi cyhoeddi deunydd ar sianel eithafol drwy'r platfform cyfathrebu Telegram, ac o ddosbarthu llawlyfr yn amlinellu sut i argraffu drylliau 3D.

Cafodd ei ddychwelyd i'r ddalfa ynghyd â thri pherson o Keighley, yng Ngorllewin Sir Efrog ac fe fydd y pedwar diffynnydd yn mynd o flaen llys yr Old Bailey ar 28 Mai.

Cydrannau a dogfennau

Mae Daniel Wright, 29, Liam Hall, 30, a Stacey Salmon, 28, wedi eu cyhuddo o feddu ar wrthrychau'n gysylltiedig â therfysgaeth - sef cydrannau dryll 3D - a bod ym meddiant arf.

Mae Mr Wright a Mr Hall wedi eu cyhuddo o gynhyrchu dryll.

Mae Mr Wright hefyd wedi ei gyhuddo o ddosbarthu cyhoeddiad terfysgol, sef ffeil gyda llun o fomiwr Oklahoma, Timothy McVeigh, a thri chyhuddiad o feddu ar ddogfennau sy'n ddefnyddiol i derfysgwr, gan gynnwys cyhoeddiad o'r enw 'Murder Inc'.

Cafodd y pedwar diffynnydd, ynghyd â bachgen 16 oed o Swindon, eu harestio wedi cyfres o gyrchoedd ar 1 Mai.

Dywedodd Uned Gwrth-Derfysg Gogledd Ddwyrain Lloegr bod y bachgen wedi ei ryddhau o'r ddalfa'n ddigyhuddiad.

Pynciau cysylltiedig