Arestio dyn o Fôn mewn cyrch gwrth-derfysg
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Ynys Môn ymhlith pump o bobl sydd wedi eu harestio ar amheuaeth o droseddau terfysgaeth asgell dde.
Fe gafodd y pump eu harestio yn dilyn cyrchoedd gan yr heddlu yng Nghymru, Gogledd Sir Efrog a Swindon.
Mae'r dyn 28 oed o Ynys Môn wedi ei arestio ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu annog gweithred derfysgol.
Mae'r pedwar arall yn cael eu holi am yr un troseddau honedig.
Dywed yr heddlu iddynt arestio dau ddyn, 29 a 30 oed, ynghyd â dynes 28 oed yn Keighley, Gorllewin Swydd Efrog a bachgen 16 oed yn Swindon.
Cafodd uned ddifa bomio eu galw i Keighley ar ôl i swyddogion ddod o hyd i offer "oedd yn ymddangos yn amheus" mewn tŷ.
Cafodd tai cyfagos eu gwagio.
Mae'r pump sydd wedi eu harestio yn cael eu holi mewn gorsaf yr heddlu yng Ngorllewin Swydd Efrog.