Nid ffrwyth cyffredin mohono... y riwbob

  • Cyhoeddwyd
Dyn gyda llond ei freichiau o riwbobFfynhonnell y llun, David Turnley

Mae'n ffefryn gan arddwyr ar draws Cymru ers degawdau, ac mae'r rhai cynnar yn eu tymor rŵan.

Ac mae llawer mwy i'r riwbob na chrymbl - fel y gwelwch o'r rysáit sy'n dilyn - ac mae hanes difyr i'r ffrwyth (neu lysieuyn?!) sy'n mynd yn ôl ganrifoedd.

"Mae 'na rywbeth hen ffasiwn amdano ac mae o reit neis ei weld o'n tyfu o'n cwmpas ni yn y rhandiroedd… gweld y dail enfawr yma," meddai Eluned Davies-Scott, sy'n ymddiddori mewn bwyd, ar raglen Shân Cothi.

"Mae'n aelod o'r un teulu â dail tafol a sorrel a da ni'n gwybod bod (eu dail) nhw'n wenwynig nawr ond yn llyfr enwog Larousse Gastranomic yn 1938 roedden nhw'n cynghori i'w goginio 'run fath â sbigoglys… wel dwn i ddim faint gafodd eu lladd adeg hynny.

"Yn y gorffennol, fel lot o bethau da ni'n bwyta rŵan, rhywbeth fel meddyginiaeth oedd o i gychwyn yn llefydd fel China, lle roedden nhw'n defnyddio nhw ar gyfer anhwylderau perfedd, afu ac ysgyfaint. Ac yn Ewrop, pan wnaethon nhw dyfu fo yma gyntaf, maen nhw'n cyfeirio ato fel ffisig ar gyfer rhwymedd.

"Mae'n un o'r ffrwythau sydd ar gael yn gynnar yn y flwyddyn ac wrth gwrs roedd hynny'n rhoi amrywiaeth i'r diet pan doedd dim cymaint o bethau ar gael."

Y 'Rhubarb Express'

Y rheswm bod riwbob ar gael am gyfnod hir o'r flwyddyn ydi'r arfer o 'orfodi' cnwd drwy eu cadw mewn tywyllwch am gyfnod.

Ffynhonnell y llun, OLI SCARFF
Disgrifiad o’r llun,

Gweithio gyda golau isel - casglu riwbob cynnar sy'n cael eu tyfu mewn sied enfawr dywyll

Mae Swydd Efrog yn enwog am dyfu'r planhigyn gydag ardal yno'n cael ei alw'n Rhubarb Triangle gan fod cymaint o'r cnwd cynnar yn cael ei dyfu yno.

Ar un cyfnod roedd 90% o riwbob cynnar y byd yn cael ei dyfu yno mewn siediau pwrpasol ac yn cael eu gyrru i farchnad Covent Garden yn Llundain ar drên y Rhubarb Express. Roedd cyfuniad o hinsawdd a thir addas, glo rhad i gynhesu'r siediau a'r nitrogen oedd ar gael o wastraff y diwydiant gwlân yn gwneud yr ardal yn berffaith i dyfu'r planhigyn.

Ganrifoedd ynghynt roedd yn cael ei fewnforio i Ewrop ar hyd 'ffordd y sidan' gyda chynnyrch drud eraill fel diemyntau a sidan.

Ffynhonnell y llun, William Vanderson

Llysieuyn ydi riwbob yn dechnegol - ond o ran y gyfraith a threth fe gafodd ei ystyried yn ffrwyth gan lys barn yn yr Unol Daleithiau yn 1947.

Mwy na chrymbl...

Er mai ei fwyta fel crymbl ydi'r ffefryn gan Eluned, sy'n gyn-athrawes bwyd a maeth ac yn rhoi gwersi coginio ar-lein erbyn hyn, mae hi'n dweud bod digon o ffyrdd eraill i'w goginio.

Ffynhonnell y llun, SEBASTIEN BOZON

"Mae ryseitiau mewn llyfrau coginio Arabeg ac maen nhw'n defnyddio riwbob mewn saws sawrus gyda chig oen, cig eidion... a hefyd mae'n cael ei gynnwys gyda sbigoglys yn Iran ac Afghanistan.

"Yn Norwy mae'n cael ei wneud yn gawl - mae hwnnw'n eithaf melys achos mae mintys a mefus yn hwnnw. Maen nhw'n ei goginio efo tatws yng Ngwlad Pwyl mewn rhyw fath o gratin, ac mae Yotam Ottolenghi efo rysáit sy'n defnyddio sumac a riwbob mewn kimchi.

"Mae'n wych efo porc, mecryll, eog - mae pethau fel hyn i gyd yn gweddu'r riwbob - y tartness yma."

Ac i'r rhai sydd am roi cynnig ar goginio riwbob mewn unrhyw beth heblaw crymbl, dyma rysáit gan Eluned:

Porc gyda pwdin gwaed a riwbob (ar gyfer 4-6 person)

2 ffiled o borc (tua 350g yr un)

sudd hanner lemwn

250g pwdin gwaed heb y croen a'i dorri'n sleisys

12 sleisen o gig moch brith tenau

1 llwy fwrdd o olew

1 llwy fwrdd o fêl meddal

300g riwbob wedi dorri'n ddarnau 5cm ar y groeslin

200ml stoc llysiau

2 lwy fwrdd o crème fraiche

1. Ffwrn ar 190C/ffan 170C/nwy 5. Holltwch y porc ar ei hyd i'w agor fel llyfr. Curwch gyda rholbren i'w gael yn fwy gwastad yna ei daenu gyda halen, pupur a sudd lemwn.

Llenwch y porc gyda'r pwdin gwaed yna plygwch y cig drosto.

2. Lapiwch y cig moch o amgylch y porc, rhowch mewn tun rhostio a'i ysgeintio gyda olew cyn eu coginio am 30 munud.

3. Yn y cyfamser cynheswch y mêl mewn sosban yna cymysgwch y riwbob i mewn. Ychwanegwch i'r tun rhostio gyda'r porc a'i goginio am 10-12 munud ychwanegol (dylai'r riwbob fod yn dyner a'r cig moch yn frown). Rhowch ar blât a'i gadw'n gynnes.

4. Gwnewch y saws trwy ychwanegu'r stoc i'r tun rhostio a dod ag ef i'r berw gan grafu gwaelod y tun i gael y sudd sydd yno ar ôl coginio'r cig. Chwisgiwch y crème fraîche i mewn hyd nes ei fod wedi toddi, blaswch ac ychwanegwch sesnin os mae ei angen.

5. Torrwch y porc yn sleisys cyn ei weini gyda'r riwbob, ychydig o'r saws ar ei ben a gweddill y saws ar wahân.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig