Y Gynghrair Genedlaethol: Boreham Wood 2-3 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Reece Hall-JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dwy gôl arall i Reece Hall-Johnson, gan ddod â'i gyfanswm i Wrecsam y tymor hwn - hyd yn hyn - i wyth

Mae Wrecsam yn ôl yn safleoedd gemau ail-gyfle y Gynghrair Genedlaethol diolch i ddwy gôl hwyr yn erbyn Boreham Wood.

Roedd tîm Dean Keates 2-0 ar ei hôl hi ar yr egwyl, cyn i Reece Hall-Johnson sicrhau ei gyntaf o ddwy gôl wedi 60 munud o chwarae.

Fe drodd trywydd y gêm yn fuan wedi hynny ar ôl i Tom Champion o Boreham Wood dderbyn ail garden felen a'i hel o'r maes.

Daeth Jordan Ponticelli a'r sgôr yn hafal, cyn i Hall-Johnson sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Dreigiau.

Mae Wrecsam yn ddi-guro nawr mewn saith gêm, ac yn symud i'r pumed safle yn y gynghrair.

Pynciau cysylltiedig