Cofio Waldo: 'Mawredd' y bardd o Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae 20 Mai yn nodi 50 mlynedd ers marwolaeth y bardd, heddychwr, Crynwr, cenedlaetholwr a sosialydd o Sir Benfro, Waldo Williams.
Roedd yn un o feirdd Cymraeg mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif, ac mae ei ddylanwad yn dal yn amlwg ar lenyddiaeth Cymru hyd heddiw.
Mae Hefin Wyn yn arbenigwr ar waith a bywyd Waldo Williams, ac yn awdur ar y llyfr Ar Drywydd Waldo (Ar gewn beic).
Yma, mae'n trafod cyfraniad Waldo i ddiwylliant y genedl:
Y bardd
Fel bardd ni enillodd Waldo Williams erioed naill ai goron na chadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol heb sôn am gyflawni'r dwbl dwbl. Yn wir, yr unig dro iddo gystadlu fe wnaed hynny heb yn wybod iddo.
Roedd yn awyddus i gystadlu yn 1936 yn Abergwaun pan osodwyd Tŷ Ddewi fel testun y gadair. Yn wir, fe gyfansoddodd awdl a gadael copi yn nwylo ei gyfaill, D. J. Williams.
Wrth i'r dyddiad cau nesáu ni wyddai D. J. ble roedd ei gyfaill a mentrodd gael yr awdl wedi'i theipio a'i hanfon i'r gystadleuaeth. Cafodd ganmoliaeth ond cyfeiriwyd at frychau teipio. Cyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig yn ddiweddarach yn 1956 pan ymddangosodd y gyfrol Dail Pren. Deil y beirniaid llenyddol i'w dadansoddi.
Dengys treigl amser nad yw llawryfon eisteddfodol yn angenrheidiol i fesur hyd a lled bardd. Na chwaith rhibidirês o gyfrolau. Seilir mawredd Waldo ar un gyfrol o gerddi wedi'u dewis a'u dethol yn ofalus a hynny hyd yn oed o ran eu trefn. A bu rhaid wrth gryn berswâd cyfeillion i gael y gyfrol honno i fwcwl. Diolch am eu dyfalbarhad.
Y gwleidydd
Ond doedd mawredd y mab i ysgolfeistr ddim wedi'i gyfyngu i ddylanwad yr awen arno. Rhoddodd gynnig arni fel ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru mewn etholiad cyffredinol yn 1959. Gallaf dystio i hynny am fy mod, yn ddiarwybod i mi, wedi mynychu un o'i gyfarfodydd etholiadol awyr agored.
Naw mlwydd oed oeddwn i ar y pryd. Nos Sadwrn yn yr hydref oedd hi. Minne'n seiclo nôl a mlân oddeutu sgwâr y Glog yn disgwyl trên olaf y Cardi Bach i gyrraedd y steshion er mwyn ei rasio'r pum can llath i fy nghartref. Yn sydyn disgynnodd gŵr bychan o gerbyd bychan. Diflannodd y cerbyd.
Dechreuodd y gŵr areithio a chwifio ei freichie. Aeth i hwyl. Gosodais y beic i bwyso ar wal ac eistedd wrth ei ymyl i wrando.
Prin fy mod yn ei ddeall ond gwyddwn ei fod yn siarad yn Gymraeg. Clywn yr angerdd. Ddaeth yna neb arall o'r tai cyfagos i wrando arno. Areithiai'n danbaid fel pe bai cynulleidfa o 500 o'i flaen tra nad oedd neb yno ond myfi. A doedd gen i ddim pleidlais.
Dros swper a thrwy gryn ddyfalu deuthum i wybod mai Waldo oedd ei enw. Sefydlogwyd yr enw yn fy meddwl. Doedd Waldo ddim yn wleidydd confensiynol. Ni fynnai rannu taflenni, cusanu babanod mewn carnifalau a phwyllgora di-ben-draw. Ni chymrodd sylw ohonof y noson honno.
Yr heddychwr
Ond fe weithredodd Waldo a hynny yn enw heddychiaeth. Gwrthwynebai gonsgripsiwn a gwrthwynebai Ryfel Corea â'i holl enaid. Fe'i carcharwyd ddwywaith am wrthod talu treth incwm am nad oedd am weld ei arian yn cael ei wario ar arfau rhyfel. Ond cael a chael fu hynny.
Droeon aeth i'r llys yn cario ces bychan yn barod i fynd i garchar ond droeon gohiriwyd yr achos er mwyn rhoi cyfle iddo ail-feddwl. Ildiwyd i'w ddymuniad yn y diwedd. Roedd yn benderfynol.
Cefais gyfle i deithio ar gefn beic, fel y gwnâi Waldo, i gyfarfod â phobl oedd yn ei anwylo. Un o'r rheiny oedd y Dr Padraig O'Finnachta yng ngorllewin Gweriniaeth Iwerddon. Arferai Waldo dreulio cyfnodau ar ffarm y teulu ger Dingle yn gwrando ac yn dysgu'r Wyddeleg yn ei chynefin. Yn gyfnewid am hynny bydde Waldo yn darlithio yn yr Ysgolion Haf a drefnwyd gan Padraig.
Ar y bwrdd swper un noson cofiai Padrig fel y gofynnwyd iddo beth oedd wedi creu'r argraff penna arno am Iwerddon. Roedd yna academyddion a haneswyr yno'n disgwyl ymateb dwys ynghylch chwedloniaeth neu wleidyddiaeth y wlad. Pawb yn clustfeinio'n awchus am yr ateb.
"A beth feddyliech chi oedd yr ateb?" meddai Padraig. "'Wel', medde fe'n ddidaro, 'y bara brown, y bara soda'".
Roedd gan Waldo synnwyr digrifwch ac fe beidiodd y sgwrs ddeallus.
Nid rhyfedd fod pobl y Preselau wedi ffurfio Cymdeithas Waldo er cof am ddyn y maen nhw yn ei anwylo ar sawl cyfrif. Gwerthfawrogir iddo ddod i'w plith o Hwlffordd pan oedd yn saith mlwydd oed yn 1911 a dysgu'r Gymraeg trwy chwarae gyda'i gyfeillion newydd.
Nid rhyfedd fod Cymdeithas Waldo am wahodd eu cyd-Gymry i gofio dyddiad ei farwolaeth ar Fai'r 20, hanner can mlynedd nôl trwy hongian 'deilen' ar goeden yn cynnwys un o'i linellau.
A'm dewis inne? Gan fy mod newydd weld byddin o forgrug yn croesi llawr y gegin rhaid fydd dewis llinell o'r gerdd gyntaf o'i eiddo yn y gyfrol Cerddi'r Plant, a gyhoeddodd ar y cyd ag E. Llwyd Williams:
Ble wyt ti'n mynd, forgrugyn,
Yn unig, yn unig dy fryd?
Hefyd o ddiddordeb: