Rhybuddio cefnogwyr Cymru i beidio teithio i Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn annog cefnogwyr i ddeall goblygiadau teithio i wylio'r tîm cenedlaethol

Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi cael eu rhybuddio i beidio teithio i Azerbaijan a'r Eidal i wylio'r tîm cenedlaethol yn Euro 2020 fis nesaf.

Bydd Cymru yn herio'r Swistir a Thwrci yn Baku cyn teithio i Rufain i herio'r Eidal, ond mae Azerbaijan a'r Eidal yn y categori oren o ran gwledydd tramor ar hyn o bryd.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) eu bod yn annog cefnogwyr i ddeall goblygiadau teithio i wylio'r tîm cenedlaethol, ac na fydd cefnogi'r tîm yn cael ei ystyried yn daith hanfodol.

Rhybuddiodd y gymdeithas hefyd y dylai unrhyw un sy'n mynnu gwneud y daith wirio eu hyswiriant er mwyn sicrhau ei fod yn ddilys dan yr amgylchiadau.

Tra bod hawl teithio dramor ar wyliau o'r wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobl i beidio gwneud hynny oni bai ei fod yn hanfodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cefnogwyr yn mynychu'r gemau yn Baku a Rhufain, ond mae'n parhau'n aneglur a fydd cefnogwyr Cymru yn eu plith

Mae Swyddfa Dramor Llywodraeth y DU wedi rhybuddio cefnogwyr i beidio teithio i wledydd categorïau oren a choch er mwyn atal amrywiolion newydd o Covid-19 rhag dychwelyd i'r DU.

Dim ond os yw'n hanfodol y dylid teithio i wledydd sydd ddim yn y categori gwyrdd.

Pan yn dychwelyd o wlad yn y categori oren rhaid i deithwyr fynd i gwarantin 10 diwrnod yn eu cartref pan yn dychwelyd, ac mae'n rhaid archebu a thalu am brawf PCR ar yr ail a'r wythfed diwrnod.

'Cynghori cefnogwyr yn gryf'

Dywedodd CBDC mewn datganiad: "Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn trafod gyda Swyddfa Dramor Llywodraeth y DU ynglŷn â gemau UEFA Euro 2020 Cymru yn Baku, Azerbaijan ar 12 a 16 Mehefin a'r gêm yn Rhufain, Yr Eidal ar 20 Mehefin 2021.

"Oherwydd y pandemig Covid-19, mae'r Swyddfa Dramor wedi cyhoeddi cyngor yn rhybuddio cefnogwyr Cymru rhag teithio i Baku neu Rufain oherwydd bod Azerbaijan a'r Eidal ar restr oren Llywodraeth y DU.

"Tra nad yw'n anghyfreithlon i deithio bellach, mae CBDC yn cynghori cefnogwyr i wneud penderfyniad â'r wybodaeth lawn am deithio i Baku a Rhufain... gan na fydd mynychu'r gemau yn cael ei ystyried yn deithio hanfodol.

"I'r cefnogwyr hynny sy'n parhau'n benderfynol o deithio er y rhybuddion, mae CBDC yn cynghori cefnogwyr yn gryf i wirio bod eu hyswiriant teithio yn dal yn gymwys ac yn addas."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Owen wedi teithio ar draws y byd i wylio gemau Cymru

Mae Ffion Eluned Owen wedi prynu tocynnau i wylio rhai o'r gemau, ac mae'n disgrifio'r sefyllfa fel un "rhwystredig".

"Dwi'n gw'bod mai cyngor ydy o ond mae 'na bethau yn does fel insurance ac ati mae angen i rywun feddwl amdano fo.

"Dydy o ddim yn neud synnwyr bwcio pethe o'r newydd o hyn ymlaen.

"Ond just yr holl sefyllfa... yr annhegwch, dydy cefnogwyr Lloegr a'r Alban ddim yn cael y problemau yma."

Ychwanegodd ei bod yn disgwyl i rai cefnogwyr deithio i'r gemau er y cyngor newydd.

"Dwi yn hollol gefnogol i'r gystadleuaeth fynd ymlaen eleni. Ond y ffaith mai ni y cefnogwyr sydd yn gorfod 'neud y penderfyniad ar ddiwedd y dydd, mae 'na annhegwch am hynny hefyd.

"Ni sydd yn gorfod 'neud y penderfyniad yn hytrach na Uefa.

"Mae'n siŵr mai fan hyn fyddwn ni yn gwylio'r tair gêm gynta', gan groesi bysedd y bydda na gemau nes mlaen wedyn y gallwn ni drio mynd iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tim Hartley, blaen, ei fod "wedi gwylltio ychydig ac wedi drysu ar yr un pryd"

Roedd Tim Hartley o Gaerdydd wedi talu am docyn i deithio i Baku ddydd Llun, oriau'n unig cyn i'r cyngor i beidio teithio gael ei gyhoeddi.

Dywedodd ei fod "wedi gwylltio ychydig ac wedi drysu ar yr un pryd".

"Fe wnes i bob dim oedd y llywodraeth wedi gofyn i fi wneud, aros yn y tŷ, disgwyl tan 15 Mai i wybod y trefniadau newydd, ac yna o'n i'n teimlo bod rhwydd hynt i fi fynd. Uefa'n gweud os y'ch chi'n cael dau frechiad a prawf negatif mi gewch chi fynd i Azerbaijan.

"Dyna o'n i'n gobeithio, ac yna o fewn 12 awr, mae'r Gymdeithas Bêl-droed, a'r FCO - Llywodraeth Prydain - yn gweud 'wel ni'n awgrymu i chi beidio mynd'.

"Be' mae hynny fod i feddwl? Ydw i'n cael mynd neu ddim? Dyna pam dwi wedi drysu."

Gan ei fod eisoes wedi talu am deithio a thocynnau, dywedodd y byddai'n dal yn ystyried mynd i Baku ar hyn o bryd.

"Wi'n gw'bod bod hi wedi bod yn anodd i unrhyw un i edrych ymlaen ac i ddarogan beth fyddai'r sefyllfa, ond tair wythnos sydd i fynd nes bo' ni fod i deithio, dyle Uefa a dyle'r llywodraeth fod wedi dod i ryw fath o gasgliad ar y cyd - nid bod un yn gweud un peth a'r llall yn gweud un arall, a fi yn y canol fan hyn ddim yn gw'bod beth i wneud."