Brechlyn Covid: 'Neb yn cael rhoi barn wahanol'
- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 60% o boblogaeth Cymru wedi cael y brechlyn Covid-19 erbyn hyn. Ond mae 'na nifer hefyd sy'n amheus iawn o'r brechlyn am resymau amrywiol ac yn gwrthod ei gael.
Mewn rhaglen ar S4C, Covid, y Jab a Ni, mae'r newyddiadurwraig Sian Morgan Lloyd wedi camu i fyd y rhai sy'n erbyn y brechlyn yng Nghymru i ddarganfod mwy. Mae hi'n rhannu ei phrofiad gyda Cymru Fyw:
Yng nghanol pandemig byd-eang, doedd dim modd osgoi'r ffaith y byddai rhaglen sy'n holi pobl sy'n gwrthwynebu brechlynnau yn un ddadleuol.
Wedi'r cyfan, mae feirws newydd wedi lladd dros 5,500 o'n cyd-Gymry a chreu diflastod ar draws y byd.
Roeddwn i'n gwybod bod rhai newyddiadurwyr yn osgoi'r pwnc yn gyfan gwbl, gan ystyried daliadau pobl gwrth-frechlyn fel rhai peryglus i'w trafod.
Ond i fi, roedd anwybyddu'r peth yn beryglus hefyd.
Mae ymchwil i BBC Monitoring wedi darganfod bod cynnydd aruthrol wedi bod yn nifer y dilynwyr ar-lein sy'n hybu deunydd gwrth-frechlyn ers i'r pandemig daro.
Amheuon ar-lein
Ar Facebook, mae 19% yn fwy o bobl yn dilyn tudalennau gwrth-frechlyn poblogaidd, ac ar Twitter fe dreblodd nifer y dilynwyr ar gyfrifon yn trafod yr un pynciau. Ar Instagram hefyd fe dyfodd nifer y dilynwyr ar gyfrifon poblogaidd yn erbyn y brechlyn 500% yn 2020 - i dros bedwar miliwn.
Er bod cynllun brechu Cymru ar flaen y gad o ran cyrraedd targedau a symud drwy'r grwpiau blaenoriaeth, roedd hi'n amlwg bod rhai yn cael eu gadael ar ôl. Yn rhaglen Covid, y Jab a Ni roeddwn i yn benderfynol o ymchwilio i'r rhesymau pam fod hynny'n digwydd, beth yw'r goblygiadau i gymdeithas a beth oedd y cwmnïau cyfryngol mawr yn ei wneud i daclo camwybodaeth ar-lein.
Daeth yn amlwg yn gyflym nad dim ond rhaglen am y brechlyn oedd hon yn mynd i fod.
Ar fferm yng ngogledd Cymru, roedd menyw yn ei phumdegau yn dweud wrtha' i nad oedd hi'n ymddiried mewn newyddiadurwyr, ddim yn credu'r BBC a ddim yn credu'r llywodraeth chwaith.
"Mae yna lot o bobl yn coelio yn yr un peth a dwi'n ei feddwl, dim jest fi ydy o," meddai hi. "Does fiw i ti siarad yn erbyn beth mae'r cyfrynga' a politicians yn ei ddweud, y cancel culture fel licia di."
Ofn siarad yn agored
Roeddwn i newydd ofyn iddi pam nad oedd hi'n fodlon siarad yn gyhoeddus am y ffaith nad yw hi'n fodlon cymryd brechlyn yn erbyn Covid-19.
Y gwir oedd bod y tîm cynhyrchu wedi cysylltu â llwythi o bobl oedd yn trafod yn agored ar y we am eu hamheuon am y brechlyn. Roedd bron pob un wedi dweud nad oedden nhw'n barod i siarad yn gyhoeddus am y peth - rhai oherwydd eu bod yn poeni am golli cwsmeriaid, eraill oherwydd y stigma. Roedd un wedi dileu ei broffil oddi ar Facebook yn llwyr ar ôl rhannu peth o'i ymchwil oedd yn egluro'i gasgliadau.
Protestiadau
Roedd un arall oedd yn gwrthwynebu'r brechlyn hefyd yn credu bod gwenwyn yn cael ei chwistrellu o'r awyr yn ddyddiol.
Mae miloedd eraill yn rhannu ofnau tebyg. Fe sylweddolais i hynny wrth weld faint oedd wedi mynd i brotestiadau yn erbyn y cyfnod clo ar 20 Mawrth. Yno, fe ddywedodd pobl wrthon ni nad oedden nhw am fod yn lab rats drwy gymryd brechlyn "arbrofol", a'u bod nhw'n credu nad oedd hi'n ddoeth gwrando ar grŵp strategol yr arbenigwyr brechu, SAGE.
Ar y fferm, fe eglurodd y ffermwraig wrtha'i ei bod ar ei ffôn rhan fwya'r dydd, yn ymchwilio - ar Facebook fwy na heb: "Mae yna gymaint o wybodaeth arall allan yna sydd ddim wedi cael ei rhannu gan politicians, a llywodraeth y wlad yma. A dim ond gwneud ychydig bach o ymchwil, mae o i gyd allan yna," meddai.
Mae hi'n poeni fod y brechlyn yn newydd ac heb ei brofi'n ddigon trylwyr. Mae'r ffaith fod rhai gwledydd yn Ewrop hefyd wedi gosod cyfyngiadau ar ddefnydd y brechlyn AstraZeneca hefyd yn achos pryder iddi.
Y cyfryngau
I'r ffermwraig, roedd y ffaith bod braidd dim sylw ar y prif gyfryngau am unrhyw amheuon am y brechlyn yn gwneud iddi ofni'n fwy bod rhywbeth o'i le: "Beth dwi methu dallt ydy pam bod yna cyn lleied o drafodaeth am y peth.
"Os oes yna rywun yn trio mynegi barn a thrio codi trafodaeth, wyt ti'n cael dy roi i lawr, 'ow ti ddim yn gall, ti ddim yn gwybod am beth ti'n sôn amdan.' Does 'na neb yn cael rhoi barn wahanol."
Roedd hi'n darllen ar-lein am gyffuriau amgen roedd rhai'n credu oedd yn iacháu pobl mewn gwledydd eraill sef Ivermectin. Roedd hi'n siŵr bod 'na gynllwyn ym Mhrydain i atal eu defnydd er mwyn i'r cwmnïau fferyllol wneud mwy o arian drwy'r cynllun brechu. Roedd llawer o'r cyfrifon mae hi'n eu dilyn yn dod o dramor - America, Awstralia ac Ewrop.
Cyngor arbenigol
Penderfynais i fynd a'u hofnau i holi pennaeth rhaglen frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Richard Roberts.
"Mae 'na lot ar y we am Ivermectin, ond dydi'r treialon ddim wedi dangos bod Ivermectin yn effeithiol yn erbyn Covid yn yr ysbyty neu (i bobl sy') wedi dal Covid," meddai Dr Roberts.
"Os chi'n edrych ar labordy - mae e'n effeithiol, ond mewn pobl, does 'na ddim effaith, felly does 'na ddim prawf bod Ivermectin yn effeithiol.
"Mae 'na dystiolaeth bod 'na gyffuriau eraill yn effeithiol ac ry'n ni'n defnyddio'r rheiny, ond mae'n lot gwell atal Covid yn hollol na thrin Covid efo rhai o'r cyffuriau 'ma."
Roedd Dr Roberts yn cydnabod mai pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o fod yn amheus o'r brechlyn. Mae ffigurau diweddaraf yr ONS yn awgrymu bod tua un o bob wyth oedolyn (13%) rhwng 16 a 29 oed yn amheus o'r jab.
Ymhlith oedolion du mae'r diffyg hyder mwyaf - un o bob tri (30%) sy'n bryderus. Roedd hefyd yn cydnabod mai pobl ifanc yw'r lleiaf tebygol o gael eu taro'n ddifrifol wael gan y feirws. Ond dywedodd bod 10% o'r bobl ifanc sy'n dal Covid yn mynd mlaen i ddioddef o Covid hir - cyflwr sy'n gallu para misoedd ac achosi anawsterau mawr.
Cyngor Dr Roberts yw i bawb fynd am jab, beth bynnag eu hoed: "Y person sy'n elwa fwyaf o gael y brechlyn, yw'r person sy'n cael y brechlyn.
"Mae'n lleihau eich risg chi o gael sgil effeithiau difrifol Covid, ar ôl dwy ddos tua 90, 95%. Felly os chi mewn cysylltiad â rhywun sy' wedi cael Covid, chi'n llai tebyg o ddal Covid, a llai tebyg o basio fe mlaen, a llai tebyg o farw na chael sgil effeithiau difrifol a mynd i'r ysbyty.
"Y mwyaf sy'n cael eu brechu y mwyaf o fantais sydd i'r gymuned, ac mae'n bosib drwy frechu i atal yr haint rhag lledu yn hollol."
Ar ochr arall yr Iwerydd, mae fy nghyd-gyflwynydd, Maxine Hughes, yn ymchwilio i wreiddiau'r mudiad anti-vax yno. Mae hi hefyd yn herio rhai o'r bobl fwyaf dylanwadol sy'n creu cynnwys sy'n cael ei rannu yma yng Nghymru, heb anghofio'r cwmnïau cyfryngol mawr sy'n caniatáu i'r cyfan ddigwydd.
A phan fo amrywiolyn newydd yn bygwth ein rhyddid unwaith eto, mae'r sefyllfa'n teimlo'n fwy perthnasol nag erioed.
Gwyliwch Covid, y Jab a Ni ar nos Iau Mai 20 am 9:00 ar S4C.
Hefyd o ddiddordeb