Gwerthiant cylchgrawn Wcw 'wedi haneru' yn y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
WcwFfynhonnell y llun, Cwmni Golwg

Mae gwerthiant un o gylchgronau plant Cymru wedi bron i haneru yn ystod y cyfnod clo oherwydd cwymp gwerthiant i ysgolion.

Mae gwerthiant cylchgrawn Wcw a'i Ffrindiau wedi gostwng am fod ysgolion wedi bod ar gau yn ystod y cyfnod clo, meddai Cwmni Golwg.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd y prif weithredwr, Sian Powell: "Mae fel arfer ryw 2,000 yn tanysgrifio ond mae hynna bron wedi haneru - dydy hynna ddim wedi digwydd gyda chylchgronau fel Golwg a Lingo.

"I ddweud y gwir mae Lingo wedi bod yn hynod o boblogaidd gan fod mwy o bobl wedi bod eisiau dysgu Cymraeg."

'Llai o amser o flaen sgrin'

Mae Wcw a'i Ffrindiau yn gylchgrawn i blant rhwng tair a saith oed sy'n cynnwys straeon am Wcw, Peppa Pinc, Sali Mali, Rwdlan, Ben Dant, Dewin, Doti a chymeriadau eraill.

Mae'n bodoli ers 1996 ac yn cael ei gynhyrchu gan Gwmni Golwg, a'i noddi'n rhannol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd Ms Powell mai'r "hyn sy'n arbennig am y cylchgrawn" ydy'r cymysgiad o gymeriadau adnabyddus a "chyfraniadau unigryw a gwreiddiol gan bobl fel Angharad Tomos, Jac Jones a'n dylunydd ni'n hunain Ela Mars".

Ffynhonnell y llun, Camera Sioned
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sian Powell fod arolwg wedi dangos nad oes galw am i'r cylchgrawn fod yn ddigidol

Dangosodd arolwg diweddar gan Gwmni Golwg ymhlith rhieni plant ifanc fod galw mawr am gylchgronau print.

Dywedodd Ms Powell bod tua 400 o bobl wedi ymateb, a mwyafrif yn dymuno i'r cylchgrawn barhau fel un print.

"Dwi'n meddwl bod llawer o rieni yn teimlo bod eu plant yn edrych ar y sgrin yn rhy aml a'i bod yn braf iddyn nhw gael cylchgrawn i'w fodio ac i wneud gweithgareddau traddodiadol," meddai Ms Powell.

"Mi na'th dros 90% ddweud nad oedden nhw am gylchgrawn digidol ac mae'n braf gwybod hynny.

"Mae Wcw a'i Ffrindiau yn adnodd gwych i blant ifanc wrth gwrs ond hefyd mae o gymorth i rieni gan fod ynddo gyfieithiadau i'r Saesneg - mae hynny er mwyn sicrhau bod rhieni yn rhan o'r dysgu ac mae'r cyfnod clo wedi ategu'r galw am ddarpariaeth o'r fath.

"Yn anffodus gan fod yr ysgolion wedi gorfod cau am gyfnodau yn sgil y cyfyngiadau 'da ni wedi colli cannoedd o danysgrifwyr - a'r nod rŵan ydy eu denu'n ôl."

Dywedodd yr awdures Angharad Tomos, sydd wedi bod yn cyfrannu i'r cylchgrawn am tua 20 mlynedd, ei fod yn gyfrwng pwysig iawn.

"Dwi'n cofio pwysigrwydd flynyddoedd yn ôl pa mor braf oedd cael comig Cymraeg yn siarad efo rhywun yn y Gymraeg," meddai.

"Mae'n ffordd o gyflwyno'r iaith mewn modd gwahanol i lyfr, mae'r dull yn fwy byr ac mae yna luniau i helpu, gallai weld fod o'n help mawr i ysgolion."

Ychwanegodd: "Rwy' wedi clywed yn ystod y cyfnod clo fod nifer o ysgolion, yn enwedig yn y de, wedi gweld y plant y colli ychydig o'u Cymraeg oherwydd bod yr ysgolion wedi cau. Wedyn mae cael rhywbeth fel hyn, yn enwedig i rieni di-Gymraeg yn help mawr.

"Mae yna luniau i'w helpu gyda'r stori ac mae yna hyn yn oed mynegai o eiriau Cymraeg."