Cynnydd 'cyflym' yn nifer busnesau bwyd bach newydd
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect sy'n cefnogi datblygiad busnesau yn y sector bwyd a diod yng Nghymru yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd "mawr a chyflym" yn nifer y busnesau bwyd bach a newydd yng Nghymru yn ystod y pandemig.
Yn ôl Ffion Jones, sydd newydd ei phenodi'n rheolwr datblygu gyda phrosiect Cywain yn ardal Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, fe fu cynnydd o bron i 60% yn nifer y cleientiaid newydd yng Nghymru ers Mawrth 2020.
"Ry'n ni wedi gweld cynnydd mawr mewn mentrau newydd sy' yn troi ato ni am gefnogaeth a chyngor," meddai.
"Mae tystiolaeth hefyd fod busnesau bach mwy sefydledig ar hyd a lled Cymru wedi dangos awydd i ehangu a thyfu yn y pandemig."
Y darlun ar draws Cymru:
327 o gleientiaid newydd ers Mawrth 2020, ar ben cyfanswm cyn hynny o 562, sy'n golygu cynnydd ers dechrau'r pandemig o 58%;
53 siop ar-lein newydd wedi cael eu sefydlu gyda chymorth Cywain ers Mawrth 2020 er mwyn sicrhau ffordd newydd o werthu;
Twf yn y nifer sy'n gwerthu'n uniongyrchol i gwsmeriaid - er enghraifft, peiriant llaeth a bocsys cig. Mae 32 o fusnesau o'r fath wedi cofrestru ers Mawrth 2020;
117 o swydd newydd llawn amser o fewn y sector, o fewn cyfnod prosiect Cywain hyd at Rhagfyr 2020.
Roedd Yve Forrest wedi ystyried dechrau busnes gwerthu cacennau am tua wyth mlynedd.
Roedd wedi treialu'r busnes mewn sawl ffordd wahanol cyn sefydlu cwmni Cegin Yve yn ardal Rhydaman fis Mawrth y llynedd.
"[Yna] fe wnaeth y pandemig ymosod arno ni,", meddai.
"Ni dal yma, ni dal yn llwyddo... bach mwy anodd nag oedden ni wedi dychmygu ond rwy' wedi cael lot o help gan Cywain."
Dywed Ffion Jones fod y pandemig wedi gwneud i bobl "ailystyried eu dyfodol ac efallai cymeryd camau i geisio gwireddu breuddwyd o sefydlu eu busnesau eu hunain".
Mae rhai o'i chleientiaid wedi bod ar ffyrlo ac mae eraill wedi colli eu swyddi yn y pandemig.
"Mae yn posib bod yna elfen o now or never," meddai.
'Lwcus bo' ni dal gallu gweithio'
Mae nifer o fusnesau hefyd wedi gorfod ailystyried eu cynlluniau busnes ac angen help i werthu'n uniongyrchol i'r cwsmer yn hytrach nag i fusnesau eraill.
Yn eu plith mae cwmni Emyr Harris, Mr Nice Pie sy'n cynhyrchu pastai figan ym Mhort Talbot.
"Nethon ni ddechre gwerthu dros y we cyn y pandemig," meddai, "ac o'n ni yn gwerthu mewn gwyliau a marchnadoedd dros Brydain.
"Ond nethon ni newid wedyn i werthu ar-lein a delifro i gartrefi pobol. Roedd llai o arian yn dod mewn, ond o'n ni yn lwcus bo' ni dal gallu gweithio ac fe gethon ni help gan y Llywodraeth a'r cyngor lleol.
"Mae pethe yn ailagor nawr felly ma pethe nôl fel o'n nhw cyn Covid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Awst 2020
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2020