Covid: Ymestyn rhaglen frechu i blant 12 oed?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechiadFfynhonnell y llun, Reuters

Gallai plant mor ifanc â 12 oed gael brechiad coronafeirws yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, medd y prif weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford ei bod yn debygol y byddai Llywodraeth Cymru am ymestyn y cynllun brechu i blant os fydd trwyddedau'n cael eu rhoi.

Mae brechiad Pfizer wedi cael ei awdurdodi i blant 12-15 oed yn yr Unol Daleithiau, ac mae'r cwmni yn ymgeisio am yr hawl i wneud yr un peth yn y DU.

Cadarnhaodd ysgrifennydd iechyd y DU, Matt Hancock, bod digon o frechlynnau Pfizer wedi cael eu prynu i frechu pob plentyn dros 12 oed.

Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun, ychwanegodd fod astudiaethau clinigol yn dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac effeithiol i bobl rhwng 12-18 oed.

Cafodd profion ar y brechlyn AstraZeneca eu lansio ym mis Chwefror, gyda 300 o wirfoddolwyr yn rhan ohonynt.

Wrth siarad ar raglen Sharp End ar ITV Cymru, dywedodd Mr Drakeford: "Mae rhai o'r brechlynnau yn dechrau cael trwydded i blant mor ifanc a 12 oed, felly ry'n ni'n gwylio hynny'n ofalus iawn.

Ffynhonnell y llun, Reuters

"Pe byddai brechlyn yn cael trwydded i'w ddefnyddio yma yng Nghymru, yna rwy'n credu y byddai'n debygol iawn y bydden ni am gymryd mantais o hynny."

Ychwanegodd y gallai hynny "ganiatau i ni godi rhai o'r cyfyngiadau eraill sydd gennym - gwisgo masgiau mewn dosbarthiadau ysgol er enghraifft, sydd yn anochel yn gwneud y profiad o ddysgu yn llai cyffyrddur nag y byddai fel arall".

Mae dros ddwy filiwn o bobl eisoes wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid yng Nghymru.

Mae 2,035,905 wedi cael y dos cyntaf, sef 64.5% o'r boblogaeth.

Mae Cymru hefyd yn dechrau cyrraedd oedolion ifanc gyda'r rhaglen frechu gyda 42% o bobl 18-24 oed wedi cael brechiad.