Galw am gefnogaeth i ddioddefwyr trais, nid cosb
- Cyhoeddwyd
Mae menyw gafodd ei diswyddo ar ôl i'r trais yr oedd hi'n dioddef yn ei chartref effeithio ar ei gwaith yn dweud bod angen i gyflogwyr sicrhau eu bod yn cefnogi ac nid yn cosbi staff.
"Gwaith oedd yr unig le lle oeddwn i'n ddiogel," meddai Efa, a ddioddefodd flynyddoedd o drais gan ei gŵr.
"Mi oedden nhw'n gwybod am y trais, oherwydd weithiau mi oedd gen i lygad ddu. Byswn i'n ceisio'i guddio fe ond roedd cyd-weithwyr yn ei weld e ac yn gofyn os mai fe oedd wedi gwneud hynny i mi.
"Roedd ambell un yn ceisio fy amddiffyn i, ond doedd y cyflogwr ddim eisiau delio â phethau felly. Mi oedden nhw'n rhy brysur, felly fe oedden nhw'n fy ngwthio o'r neilltu."
Roedd Efa - nid ei henw iawn - yn gweithio gyda chwsmeriaid i fanwerthwr mawr cenedlaethol. Dywedodd y byddai ei gŵr yn ei churo hi a'i chloi gartref fel nad oedd modd iddi fynd i'r gwaith.
"Roedd y swydd yn ddihangfa i mi. Mi oeddwn i'n gallu bod yn fi fy hun, i ryw raddau - gweld a siarad gyda phobl eraill. Mi oedd o'n bwt o hapusrwydd yn fy mywyd," meddai.
"Pan oeddwn i'n dychwelyd adra o'r gwaith, yn siarad am faint oeddwn i wedi mwynhau, doedd e ddim yn hoffi hynny.
"Mi oedd e eisiau gwybod pryd oeddwn i'n cael brêc ac mi oedd rhaid i mi dreulio'r amser gydag e.
"Mi oedd pob munud o fy mywyd yn cael ei reoli.
"Mi oedd o'n rheoli pob galwad ffôn, pob e-bost. Os nad oeddwn i'n rhoi cyfrinair fy ffôn iddo, byddai'n ei daflu at y wal neu drwy'r ffenest."
Fe gafodd y cyfan effaith ar ei gwaith yn y pen draw.
"Mi oeddwn i'n colli llawer o amser yn y gwaith oherwydd ei fod yn fy nghloi mewn ystafell. Mi oedd yn rheoli fy ffôn ac yn ei gymryd oddi arna i, felly doeddwn i ddim yn gallu ffonio'r gwaith i esbonio.
"Sut ma' rywun yn esbonio sefyllfa fel 'na? Yn y pen draw, doedd fy ngŵr ddim yn gadael i mi fynd ac mi ddwedodd y cwmni 'diolch a hwyl fawr'."
Mae Efa wedi cael cefnogaeth gan yr elusen, Llamau, sydd wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau i ddarparu hyfforddiant ar y ffyrdd gorau i gefnogi dioddefwyr trais yn y cartref.
Dywedodd Nicola Fitzpatrick, o'r elusen: "Os gall cyflogwr gael hynny'n iawn, maen nhw'n achub bywyd rhywun."
"Roedd gennym ni un cyflogwr a helpodd ddioddefwr i arbed arian - rhywbeth nad oedd yn hysbys i'r person oedd yn ei cham-drin.
"Roedd y ddioddefwraig yn bwriadu gadael ond roedd yn cael ei rheoli'n llwyr yn ariannol gan y person hwnnw, felly helpodd y cyflogwr hi i gynilo drwy gymryd arian allan o'i chyflog a'i gadw'n ddiogel yn y gweithle, fel y gallai fynd pan oedd hi'n barod. "
Ond cyfeiriodd at enghraifft arall lle dywedodd dioddefwraig wrth ei chyflogwr ei bod mewn perygl pe bai'r person oedd yn ei cham-drin yn troi fyny yn ei gweithle.
"Ymateb ei chyflogwr oedd, 'Os wnewch chi adael, fe gewch eich diswyddo.'
"Efallai y bydd llawer o fusnesau yn sylwi ar newid sylweddol mewn ymddygiad," meddai.
"Efallai eu bod yn fwy swil, â llai o ffocws yn y gweithle, neu'r gwrthwyneb llwyr - dy'n nhw ddim eisiau mynd adref na chymryd eu gwyliau blynyddol.
"Ond mae agor y sgwrs honno mewn ffordd gefnogol, yn hytrach na bod rhywun yn meddwl eu bod nhw'n cerdded i mewn i fesurau disgyblu, yn caniatáu i chi wedyn ddechrau archwilio beth sy'n digwydd i'r person hwnnw. "
Y llynedd, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, gefnogaeth ariannol i unrhyw un o'i staff sydd angen dianc rhag perthynas ymosodol, ynghyd â seibiant o'r gwaith gyda thâl, i ddelio ag argyfyngau sy'n deillio o drais yn y cartref.
Mae hi nawr yn galw ar gyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus i wneud yr un peth.
'Gall sgwrs anodd arbed bywyd'
"Rydw i eisiau gweld llywodraeth Cymru yn dangos rhywfaint o arweinyddiaeth go iawn ynglŷn â hyn - mae ganddyn nhw enw da yn y maes, ond gadewch i ni fynd y cam nesaf ymhellach.
"Dylai pob cyflogwr sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn cynnig yr un math o ddarpariaeth â rwy'n cynnig i'm gweithwyr ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig.
"Nid yw pobl yn byw eu bywydau ar wahân, mae'r hyn sy'n digwydd gartref yn effeithio ar eu gwaith.
"Mae'n rhaid i ni fod yn barod i ofyn y cwestiynau hynny'n sensitif ac yna mae'n rhaid i ni fod yn barod i'w cefnogi.
"Fel cyflogwr mae'n llawer gwell i mi gael fy ngweithwyr yn y gwaith yn teimlo'n ddiogel, yn cael cefnogaeth ac yn gwneud y gorau y gallant. Mae hynny'n gwneud synnwyr busnes, ar wahân i unrhyw beth arall.
"Nid yw hon yn broblem y gellir ei throsglwyddo i'r heddlu i ddelio â hi. Nid yw'n broblem y gellir ei throsglwyddo i A&E i atgyweirio clwyfau. Rhaid i hyn fod yn rhywbeth i'n cymdeithas gyfan.
"Dydyn ni ddim yn hoffi cael sgyrsiau lletchwith. Ond mae angen i ni ddod dros hynny oherwydd gallai sgwrs letchwith achub bywyd rhywun."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym am sicrhau Cymru sy'n decach ac yn gryfach lle does neb yn cael eu dal yn ôl na'u gadael ar ôl. Fel rhan o hyn rydym yn annog sefydliadau'r sector cyhoeddus i gynnig amser o'r gwaith gyda chyflog i ddioddefwyr trais domestig.
"Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnig hyn i'n miloedd o weithwyr ar draws Cymru.
"Gall y rhai sy'n goroesi trais domestig wynebu ystod o broblemau ymarferol a gall amser o'r gwaith fod yn rhan hanfodol o'r gefnogaeth, gan roi tawelwch meddwl na fyddan nhw ar eu colled tra'n dod drwy'r cyfnod ac amodau anodd yma a rhoi diogelwch ariannol iddyn nhw.
"I'r rhai sy'n diodde trais yn y cartref gall y gweithle ei hun fod yn lle diogel ac yn saib o'r trais, a lle y gallan nhw dderbyn cefnogaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021