Treialu mesurau newydd er mwyn atal dwyn o ffermydd

  • Cyhoeddwyd
Garry WilliamsFfynhonnell y llun, Garry Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Garry Williams y byddai'n fodlon gwisgo camera ar ei gorff er mwyn taclo troseddu cefn gwlad

Wrth i mwy a mwy o droseddu ddigwydd yn nghefn gwlad, dywed ffermwyr eu bod yn fodlon troi at dechnoleg er mwyn datrys y broblem - gan gynnwys gwisgo camera.

Mae arolwg diweddar gan NFU Cymru yn dangos bod 31% o ffermwyr wedi buddsoddi o leiaf £1,000 mewn mesurau i atal troseddu yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Yn y gogledd, mae plismyn yn cydweithio â'r gymuned amaethyddol i sefydlu cynllun arbennig sy'n cael ei ddefnyddio i ddelio â lladradau o ffermydd.

Fel rhan o'r cynllun bydd ffermwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, camerâu cylch cyfyng a chamerâu corff i amddiffyn eu heiddo.

Defaid a beiciau cwad

Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r ffermwr Garry Williams yn defnyddio grŵp WhatsApp i roi gwybod i ffermwyr lleol am unrhyw weithgaredd amheus yn yr ardal.

"Ry'n ni wedi cael ysgolion a lot fawr o offer wedi ei ddwyn ac o ganlyniad ry'n ni wedi gorfod gosod camerâu CCTV ac yn gorfod cau ein hoffer mewn man diogel," meddai.

"Ar hyn o bryd - yr hyn sy'n cael ei ddwyn amlaf yw defaid a beiciau cwad."

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r math o declyn y gellir ei weld gan ffermwyr cyn hir

Dywed Mr Williams ei fod ef a'i gyd-ffermwyr bellach yn gorfod defnyddio dulliau modern i amddiffyn ffyrdd traddodiadol o ffermio.

"Mae troseddu gwledig yn bryder i bob ffermwr ond rwy'n hynod bryderus am ffermwyr oedrannus sy'n fwy tebygol o gael eu twyllo," medd Mr Williams.

"Fy nghyngor i bob ffermwr yw bod yn wyliadwrus ac i fod yn barod i gyflwyno mesurau newydd er mwyn atal troseddu.

"Dwi angen dysgu mwy ond dwi'n meddwl bod gwisgo camera yn cynnig haen arall o ddiogelwch."

Disgrifiad o’r llun,

Mae lladron wedi bod yn dwyn peiriannau a thractorau

Dywed John Davies, llywydd NFU Cymru bod troseddu gwledig yn creu pwysau ariannol ac emosiynol i deuluoedd amaethyddol.

"Does dim dewis bellach gan ffermwyr," meddai. "Rhaid iddyn nhw weithredu mesurau a fydd yn atal troseddwyr.

"Ymhlith y mesurau hynny mae uwchraddio diogelwch adeiladau, symud offer o gerbydau dros nos, gosod camerâu cylch cyfyng ac weithiau gosod rhwystrau i atal mynediad i gaeau.

"Mae ffermwyr yn defnyddio amrywiol dactegau i atal troseddau ar eu fferm - ac mae'n sicr y bydd nifer â diddordeb os yw'r mathau newydd o dechnoleg sy'n cael eu treialu yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd yn effeithiol ac yn gost-effeithiol."

Pynciau cysylltiedig