Cost troseddau cefn gwlad yn £2.6m yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
ffermwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerbydau ac offer fferm wedi bod yn cael eu targedu gan droseddwyr

Mae un cwmni yswiriant yn dweud fod cost troseddau gwledig yng Nghymru wedi cyrraedd cyfanswm o £2.6m y llynedd, wedi i gangiau troseddol dargedu peiriannau a da byw.

Dywed adroddiad troseddau gwledig blynyddol NFU Mutual fod cost digwyddiadau troseddol yng Nghymru wedi codi 11.1% yn 2019, o'i gymharu â 2018 - ffigwr sy'n gyfradd uwch na chynnydd cyfartalog y DU o 8.8%.

Ar draws y DU, fe gostiodd troseddau gwledig £54m - sy'n gynnydd o bron i 9%.

Mae'r adroddiad yn dweud fod y codiad "yn cael ei yrru gan gangiau troseddol trefnus sy'n targedu tractorau gwerthfawr, beiciau cwad a nifer fawr o dda byw".

Mae tractorau drud yn cael eu hallforio a'u gwerthu mewn gwledydd datblygedig, meddai'r yswiriwr, tra bod cerbydau hŷn yn cael eu cludo i wledydd tlotach.

Er bod troseddau yn gyffredinol wedi gostwng yn ystod y cyfnod cloi yn gynharach eleni, dywedodd NFU Mutual fod ofnau y gallai troseddau gwledig gynyddu, wrth i effeithiau economaidd y pandemig gael eu teimlo.

'Effeithio ar bawb yng nghefn gwlad'

Dywedodd Owen Suckley, Rheolwr NFU Mutual yng Nghymru: "Mae troseddau gwledig fel ton wrth i droseddau gan gangiau ledaenu trwy ein ffermydd a'n pentrefi, gan effeithio ar bawb yng nghefn gwlad.

"Rydym yn parhau i weithio'n galed i atal y llanw ac rydym yn rhybuddio cymunedau gwledig ac yn helpu gyda chyngor, gan fod pryderon am y misoedd sydd i ddod wrth i effaith economaidd y coronafirws barhau.

"Yn ogystal â'r gost ariannol, mae yna effaith ddifrifol ar les meddyliol pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ac yn aml mae'r bobl hyn yn ynysig.

"Mae ofnau y bydd yr effaith yn cael ei deimlo'n fwy eleni gan fod ffermwyr wedi bod yn gweithio'n galed i fwydo'r genedl ac mae llawer o gymunedau gwledig wedi cael eu rhoi dan bwysau ychwanegol gan yr heriau a ddaeth yn sgil COVID-19."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae troseddwyr hefyd wedi bod yn dwyn da byw, gyda phryderon y gall y broblem fynd yn waeth dros y misoedd nesa'

Mae Chris Alford, sy'n ffermio yn ardal Aberhonddu, wedi dioddef troseddau cefn gwlad, lle mae troseddwyr wedi dwyn cerbydau a pheiriannau, ac yn fwy diweddar, gwifrau trydan sy'n cael eu defnyddio ar gyfer paneli solar.

Dywedodd: "Dim ond am bythefnos y cefais i'r gwifrau hyn cyn iddyn nhw gael eu cymryd. Darn newydd sbon o becyn pŵer solar a oedd yn amlwg yn edrych yn ddrud.

"Mae mor hawdd i bobl chwilio am werth pethau ar eu ffonau nawr, hyd yn oed eitemau arbenigol fel hyn sy'n gallu bod yn werth ffortiwn i droseddwyr.

"Roedd yr offer werth ychydig gannoedd o bunnoedd, nad oedd efallai'n ymddangos fel llawer, ond mae effaith troseddau gwledig yn mynd cymaint yn ddyfnach na'r costau ariannol."

Ychwanegodd: "Yna mae'r effaith emosiynol, a phan gefais bethau mwy fel cerbydau wedi'u dwyn, roedd wedi effeithio arnaf am wythnosau. Mae'n chwarae ar eich meddwl ac yn ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio ar unrhyw beth arall.

"Gall meddwl bod dieithryn ar eich eiddo, a dwyn oddi wrthych chi, wneud ichi deimlo'n baranoiaidd, gyda llais yn eich pen yn dweud wrthych y byddan nhw yn ôl i ddwyn eto. Rydych chi'n cael eich hun yn gwneud penderfyniadau busnes yn seiliedig ar yr hyn.

"Nawr, pan welaf rywun nad wyf yn eu hadnabod ar y fferm, byddaf yn syth yn amau'r gwaethaf. Nid wyf am lunio barn negyddol am bobl yn y ffordd yma, ond gall bod yn ddioddefwr troseddau gwledig eich gyrru i'r ffordd yna o feddwl."