Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 5-3 King's Lynn
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam yn parhau mewn sefyllfa addawol i fod yng ngemau ailgyfle'r Gynghrair Genedlaethol wedi buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn King's Lynn ar y Cae Ras.
Roedden nhw ar y blaen am fwyafrif llethol y gêm oedd yn llawn cyffro wrth i'r gwrthwynebwyr, sy'n agos at waelod y tabl, daro'n ôl sawl tro wrth geisio unioni'r sgôr.
Sgoriodd Luke Young o'r smotyn wedi 18 o funudau, ond fe barodd fantais Wrecsam am ddau funud yn unig.
Daeth Sonny Carey â'r ymwelwyr yn gyfartal wedi cic rydd ryfeddol a wyrodd rownd wal Wrecsam i gornel uchaf y rhwyd.
Cic rydd wych arall, gan Jordan Davies y tro hwn, wnaeth roi'r tîm cartref unwaith eto ar y blaen wedi 35 o funudau.
Ychydig cyn diwedd yr hanner cyntaf roedd hi'n 3-1 i Wrecsam wedi i Gold Omotayo rwydo.
Ond ofer oedd unrhyw obeithion bryd hynny am ail hanner gyfforddus, wedi i King's Lynn
Ymosodwr King's Lynn, Simeon Jackson sgoriodd gyntaf wedi'r egwyl gan haneru'r bwlch rhwng y ddau dîm.
Pum munud wedi hynny fe wnaeth peniad Jordan Ponticelli o ymyl y cwrt cosbi roi Wrecsam 4-2 ar y blaen.
Ond yna fe sgoriodd Jackson eti i'w gwneud hi'n 4-3, gan roi pwysau unwaith eto ar y tîm cartref.
Daeth pumed gôl Wrecsam - ac ail gôl Omotayo - wedi 82 o funudau.
Mae Wrecsam yn parhau yn chweched safle'r gynghrair gyda 67 o bwyntiau.
Mae eu ffawd yn eu dwylo eu hunain bellach wrth iddyn nhw wynebu Dagenham & Redbridge oddi cartref yn eu gêm olaf o'r tymor ddydd Sadwrn nesaf.