Tywydd yn amharu ar gêm Morgannwg yn erbyn Caint

  • Cyhoeddwyd
Billy RootFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Billy Root yw un o'r batwyr dros nos, gyda sgôr o 26

Rhyw hanner awr yn unig o chwarae oedd yn bosib yng Nghaergaint oherwydd glaw a golau gwael ar drydydd diwrnod gêm Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Caint.

Bu'n rhaid i'r swyddogion archwilio'r maes saith gwaith cyn ailddechrau'r gêm am 17:20.

Roedd Morgannwg ar 55-2 bryd hynny, mewn ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Caint, sef 307.

Ond wedi llai na saith pelawd, daeth y chwarae i ben am y diwrnod wrth i'r golau bylu, gyda Morgannwg ar 64-3.

Billy Root (26) a Kiran Carlson (0) yw'r batwyr dros nos. Daeth Carlson i'r wedi i Gaint gipio wiced Joe Cooke (10).

Mae'n golygu eu bod bellach â tharged o 243 gyda saith wiced yn weddill, ond bydd angen perfformiad arbennig gan fowlwyr y tîm cartref ar y diwrnod olaf ddydd Sul i sicrhau buddugoliaeth trwy orfodi Morgannwg i fynd am ail fatiad.

Pynciau cysylltiedig