Glaw trwm yn dod â gêm Morgannwg yng Nghaint i ben

  • Cyhoeddwyd
Maes Caint yng NghaergaintFfynhonnell y llun, Rex Features

Bu'n rhaid dod â'r gêm rhwng Morgannwg a Chaint ym Mhencampwriaeth i ben brynhawn Sul wedi cawodydd trwm.

Cafodd Morgannwg 11 o bwyntiau a Chaint 12 o bwyntiau wedi gêm gyfartal a welodd ond un diwrnod llawn o chwarae.

Cafodd y ddau dîm rhywfaint o gyfle i ychwanegu rhediadau mewn ail fatiad ac osgoi gêm gyfartal ar ddiwrnod olaf y chwarae.

Ond fe benderfynodd y swyddogion bod rhaid darfod y gêm am 13:45.

Roedd Morgannwg ar 23-1 ar y pryd - David Lloyd wnaeth golli ei wiced - gyda tharged o 304 wedi iddyn nhw benderfynu dod â'u batiad cyntaf i ben ar 64-3.

60-1 gafodd Caint yn eu hail fatiad nhw.

Fe fyddai ceisio cyrraedd 304 mewn 84 o belawdau - 3.62 o rediadau'r belawd - wedi bod yn ddigon o dalcen caled, ond pan ddychwelodd y glaw roedd hi'n amlwg y byddai'n amhosib i'r gêm barhau.

Pynciau cysylltiedig