Golffiwr o Lŷn yn gobeithio am lwyddiant yn y PGA EuroPro
- Cyhoeddwyd
Mi fydd pencampwriaeth golff y PGA EuroPro yn dechrau ddydd Mercher, gyda Chymro o Nefyn ymhlith y cystadleuwyr eleni.
Mae Ioan Drosinos Jones, 24 oed sy'n aelod brwd o Glwb Golff Abersoch, yn paratoi ar gyfer y bencampwriaeth fydd yn parhau am rai wythnosau mewn sawl cwrs ar draws Prydain.
Dywedodd fod ei lwyddiant wedi deillio o "lot fawr" o waith pan yn ifanc.
Mi fydd y bencampwriaeth yn dechrau ar gwrs golff yn Rhydychen cyn ymestyn i wahanol rannau o Brydain.
'Lot o waith caled'
"Nes i fynd i qualifying school a 'nes i'n dda yn fanna ac wedyn ges i full card a fydda i'n chwarae drwy'r haf rŵan", meddai wrth raglen Dros Frecwast.
"Mi oeddwn i'n gwybod fyswn i'n gallu gwneud ond o'n i'n gwybod bod 'na lot o waith caled i bractisio.
"Yn y ddwy flynedd ddiwethaf 'dwi di dod ymlaen dipyn a dwi'n teimlo bo' fi ar y ffordd iawn rŵan!"
Gyda'i dad hefyd yn aelod a ffigwr amlwg yng Nghlwb Golff Abersoch, mae Ioan yn dweud iddo dreulio nifer fawr o oriau ar y cwrs yn ymarfer pan yn ifanc, ond dim ond ar ôl iddo orffen yr ysgol daeth y posibilrwydd o chwarae'n broffesiynol yn opsiwn iddo.
"Ers yn bedair, pump oed ['dwi di bod yn dod yma]," meddai.
"Pan o'n i'n tyfu fyny, yn 14 ymlaen mi oedd 'na lot i ddysgu adeg yna. Dwi wrth fy modd - dwi'n licio cerdded yma a jest gweld y môr."
Ag yntau yn dechrau dangos ei ddoniau mae Ioan yn dweud iddo gael ysbrydoliaeth gan rai o fawrion y gamp - pobl fel Tiger Woods.
"Ia, fo ydy'r favourite - jest y ffordd mae o'n chwarae ac yn dominatio," meddai.
Annog mwy i'r gamp
Pan nad ydy Ioan yn ymarfer mae o'n gweithio ac yn hyfforddi eraill yn y clwb golff.
Mae'n gobeithio fod ei lwyddiant hefyd am ysgogi rhagor o bobl ifanc i ystyried chwarae'r gamp.
"Does 'na'm digon [o bobl ifanc yn chwarae golff]," meddai.
"Da ni angen lot fawr o bobl ifanc i ddechrau chwarae mwy.
"Mae'n gêm lle mae'r rhan fwyaf yn dechrau ar ôl reteirio ac wedyn yn dod mewn i chwarae mwy - mae'n bechod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd21 Mai 2018