Galwad i 'restru' Canolfan Ddinesig Abertawe

  • Cyhoeddwyd
canolfan ddinesig Abertawe

Mae Cymdeithas sydd yn ymgyrchu i warchod adeiladau o'r 20ed ganrif sydd, meddai nhw, "o bwys pensaernïol" yn dweud y dylid "rhestru" canolfan ddinesig Abertawe ar lan y môr yn y ddinas, er mwyn sicrhau na fydd yn cael ei ddymchwel.

Lluniodd y gymdeithas - sydd yn cael ei nabod fel C20 - restr o adeiladau yn y DU sydd "mewn perygl", ac mae'r ganolfan ddinesig yn Abertawe yn chweched ar y rhestr yna.

Fe gafodd y ganolfan ei hadeiladu yn 1982 yn gartre i hen gyngor Gorllewin Morgannwg a gafodd ei ffurfio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Pan fu ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 fe gafodd yr adeilad ei drosglwyddo i ofal cyngor newydd sir a dinas Abertawe.

Ffynhonnell y llun, Inpho

Dywedodd arweinydd cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, bod hwn yn "safle pwysig iawn" a'r bwriad yw symud staff y cyngor a gwasanaethau fel y llyfrgell a'r archif allan, ac i mewn i adeiladau eraill yng nghanol y ddinas.

Wedyn fe fydd y ganolfan yn cael ei droi at ddefnydd y cyhoedd.

"Does yna ddim penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto ar ddyfodol yr adeilad," meddai'r Cynghorydd Stewart, "ac er bod dymchwel yn opsiwn posib, nid fanna dwi'n meddwl y byddwn ni yn bennu lan."

Y bwriad nawr yw edrych ar bob opsiwn posib a dewis yr un fydd yn gwneud y defnydd newydd gorau o'r safle.

"Eisoes ma' diddordeb sylweddol gan denantiaid a datblygwyr," ychwanegodd Mr Stewart.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen gwneud y gorau o'r adeilad,' medd Harri Roberts sy'n byw gerllaw

Yn ôl Harri Roberts sydd yn byw gerllaw, fe ddylid gwneud y defnydd gorau o'r adeilad ar gyfer pobl y ddinas.

Fe fyddai'n hoffi gweld gwesty ar y safle a bariau a chaffis ar y llawr isaf.

"Roedd yr adeilad yn cael ei nabod fel yr eliffant gwyn pan gafodd ei adeiladu," meddai, "ond gan ei fod e yma, dewch i ni 'neud y gorau ohono fe."

Mae proses ymgynghori eisoes wedi bod i drafod dyfodol y safle, ond fe fydd ymgynghoriad arall mwy manwl nawr yn cychwyn ddiwedd Mehefin pan fydd "partner newydd strategol yn ymuno â ni," medd y cyngor.

Bwriad cyngor Abertawe, medd llefarydd, yw "gweddnewid y ddinas yn un sy yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif."

Mae dyfodol y safle yma yn rhan allweddol o'r weledigaeth yna.

Pynciau cysylltiedig