Siom am ddiffyg cefnogwyr i 'gêm fwyaf hanes Caernarfon'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cefnogwyr Caernarfon yn gwylio'u tîm yn herio Cei Connah tu hwnt i'r wal sy'n amgylchynu'r OvalFfynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Caernarfon yn gwylio'u tîm yn herio Cei Connah tu hwnt i'r wal sy'n amgylchynu'r Oval

Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynegi siom am na fydd cefnogwyr yn cael bod yno i wylio'r "gêm bwysicaf yn hanes y clwb".

Bydd y Cofis yn croesawu'r Drenewydd i'r Oval ddydd Sadwrn yn rownd derfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru, neu'r Cymru Premier.

Bydd yr enillwyr yn cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth Ewropeaidd y tymor nesaf.

Mae'r Drenewydd wedi chwarae yn Ewrop yn y gorffennol - y tro diwethaf yn 2015 - ond dyma fyddai'r tro cyntaf i Gaernarfon wneud hynny.

Ond gan nad yw'r gêm wedi cael ei chynnwys ar restr Llywodraeth Cymru o ddigwyddiadau peilot, fydd dim torf yn cael bod yno ar yr Oval i wylio'r ornest.

Disgrifiad,

"Hollol annheg" peidio cael cefnogwyr yn y gêm

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd unrhyw lacio i reolau yn digwydd yn yr adolygiad nesaf ym mis Mehefin, yn dilyn gwersi gaiff eu dysgu o'r digwyddiadau prawf presennol.

Yn ôl Gwyn Derfel, Rheolwr Cyffredinol y Cymru Premier, mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi bod mewn trafodaethau â'r llywodraeth ers misoedd bellach i geisio cynnal gemau fel rhan o unrhyw gynlluniau peilot.

Er hynny chafodd yr un o'r gemau ar ddiwedd y tymor domestig eu cynnwys, er bod clybiau Abertawe a Chasnewydd, sy'n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr, eisoes wedi cael cefnogwyr yn eu gemau ail gyfle diweddar.

"Mae hynny 'dan ni'n teimlo ar draul ein cynghrair cenedlaethol ein hunain," meddai Mr Derfel.

"Mae'n arbennig o siomedig bod llywodraeth ddatganoledig Cymru yn gwneud y penderfyniad hwnnw."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Siân Gwenllian AS/MS

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Siân Gwenllian AS/MS

Mae cefnogwyr wedi apelio ar y llywodraeth i newid eu meddyliau, a dywedodd yr Aelod Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian y byddai'r gêm yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiad prawf.

"Rwy'n credu ei bod yn amserol defnyddio'r ornest hon i dreialu'r protocolau newydd y mae angen iddynt fod ar waith erbyn mis Awst pan mae gobaith y bydd 300 o glybiau yn ailagor eu drysau i'w cefnogwyr," meddai.

"Byddai'n gwneud synnwyr penderfynu ar gapasiti is o gefnogwyr a rhoi rhagofalon diogelwch priodol ar waith ar ôl cynnal asesiad risg yn yr Oval."

'Anghofio am brif gynghrair Cymru'

Mae Osian, 17, yn teimlo'n "rhwystredig ofnadwy" na fydd cefnogwyr Caernarfon fel fo yn cael bod yn y maes i wylio'u tîm ar y penwythnos.

"'Dan ni'n edrych ar y gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr [ddigwyddodd dros y penwythnos gyda miloedd o gefnogwyr] a 'naethon ni weld faint o wahaniaeth 'naeth hynny i lawer o'r timau.

"'Dan ni'n cael yr argraff bod Uwch Gynghrair Cymru wedi cael ei anghofio amdano gyda'r test events yma.

"Dwi'n meddwl bod o'n ofnadwy bod llefydd dan do yn cael agor cyn agor y giatiau i gemau pêl-droed. Dwi'm yn gwybod be' ydi'r broblem efo cael nifer o gefnogwyr yn gwylio'u tîm allan yn yr awyr agored.

"Dwi'n gobeithio'n ofnadwy 'neith y llywodraeth ailystyried y sefyllfa erbyn dydd Sadwrn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Cei Connah yn gwylio eu tîm yn codi'r Cymru Premier ym Mhen-y-bont yn gynharach fis Mai

Dywedodd CPD Caernarfon y byddan nhw "wrth ein boddau i weld cefnogwyr yn ôl ar yr Oval", ond y byddai hynny'n golygu "lefel uchel o gynllunio manwl" ar fyr rybudd.

"Rydym yn siomedig ein bod ni heb glywed yn uniongyrchol gan y llywodraeth am yr union resymau pam na allwn fod o gymorth i roi trefniadau mewn lle," meddai'r clwb.

"Wrth gwrs rydym yn cydnabod fod gadael pobl i mewn yn golygu mwy nag agor y giatiau a hoffwn bwysleisio ein bod ni'n fodlon gwneud unrhyw beth i helpu."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y byddwn ni'n ystyried symud i lefel rhybudd un yn yr adolygiad nesaf ar ddechrau mis Mehefin, os yw'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau yn bositif.

"Byddai hynny'n caniatáu i ddigwyddiadau mwy a gweithgareddau wedi'u trefnu i ddigwydd, gan dynnu ar y gwersi o'r digwyddiadau peilot sydd yn digwydd ar hyn o bryd."

'Gwylio dros y wal'

Ond gyda chymaint yn y fantol i Gaernarfon a'r Drenewydd o ystyried yr hwb ariannol sylweddol sy'n dod o chwarae yn Ewrop, mae Gwyn Derfel yn dweud nad yw safbwynt y llywodraeth yn gwneud synnwyr.

"O ran pwysigrwydd gêm, s'dim amheuaeth mai dyma'r gêm bwysicaf yn hanes clwb Caernarfon, y clwb sydd efo'r nifer fwyaf o gefnogwyr yn ein cynghreiriau domestig ni," meddai.

"Egwyddor y penderfyniad [ydy o] - bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ac yn ffafrio'r timau o Gymru sy'n chwarae pêl-droed yn Lloegr, dros y clybiau sy'n chwarae yng nghynghrair cenedlaethol Cymru."

Mewn 194 o gemau domestig eleni does dim un achos wedi bod o Covid yn cael ei drosglwyddo, meddai, ac mae'n "gwbl hyderus" y byddai modd cynnal y gêm yn saff petai angen.

Y pryder fel arall, meddai, yw y bydd rhai cefnogwyr yn mynd yno beth bynnag ac yn ceisio gwylio'r ornest "dros y wal" heb gyfyngiadau diogelwch priodol.

"Dwi'n bersonol yn meddwl bod peidio gadael y cefnogwyr i mewn yn achosi mwy o benbleth na chael nhw mewn," ychwanegodd.