Ymgyrch 'Gwneud Gwahaniaeth' Radio Cymru wedi blwyddyn anodd

  • Cyhoeddwyd
Huw Jack BrassingtonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r sgyrsiau i'n hysbrydoli ar wefan Gwneud Gwahaniaeth yw gyda'r anturiaethwr Huw Brassington am sut wnaeth dyslecsia ei helpu i lwyddo

Tro hamddenol ym myd natur i lonyddu'r meddwl, traciau wedi eu dewis gan Yws Gwynedd yn benodol i lonni'ch calon, ac eitemau a sgyrsiau gyda phobl dros Gymru i godi'r ysbryd - dyna sydd gan Radio Cymru i'w gynnig fel rhan o benwythnos i ddathlu ac ysbrydoli.

Dros benwythnos Gŵyl y Banc mae'r orsaf yn dathlu'r pethau bach a mawr sy'n gallu Gwneud Gwahaniaeth i'r ffordd rydyn ni'n byw bywyd.

O chwaraeon i gerddoriaeth, y gwerth o roi yn ôl i'r gymuned, manteisio ar wasanaethau cynghori, y bwriad yw rhannu a dysgu am y pethau all roi hwb i ni ar ôl blwyddyn greulon y pandemig,

Ewch i dudalen Gwneud Gwahaniaeth i gael eich ysbrydoli gan glipiau o sgyrsiau Radio Cymru a chasgliad arbennig o erthyglau sydd wedi ymddangos ar Cymru Fyw.

Neu gwrandewch yn fyw ar yr orsaf yn ystod y penwythnos:

Dydd Gwener, 28 Mai

  • Caneuon elusennol fel Gerfydd fy Nwylo Gwyn, Hafan Gobaith, Bydd Ddewr a Dwylo Dros y Môr yn cael eu chwarae gan Huw Stephens ar Radio Cymru 2.

  • Ar Radio Cymru mae Dros Frecwast yn ymweld â Blaenplwyf i glywed sut mae'r siop leol wedi parhau i wasanaethu'r ardal yn ystod Covid-19; mae'r ddau brifardd - a'r tad a'r mab - John Gwilym a Tudur Dylan Jones yn rhannu eu cywaith newydd ar Bore Cothi; mae cyflwynwyr rhaglen Tudur Owen yn rhannu eu dewis personol o ganeuon codi ysbryd ac yna am 21:00 Ffion Emyr sy'n cael cwmni seicolegydd FFIT Cymru, Dr Ioan Rees.

Dydd Sadwrn, 29 Mai

  • Mae mynd am dro ym myd natur wedi hen ennill ei blwyf fel modd o lonyddu'r meddwl a chael ail-wynt, ac mae tîm Galwad Cynnar yn barod i'ch tywys ar lwybrau difyr am 7:00 fore Sadwrn.

  • Yws Gwynedd sy'n dewis y traciau Codi Calon ar raglen Shelley a Rhydian am 11:00.

  • Ac os ydych chi eisiau dewis cân yn arbennig i rywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth i chi, i'r teulu neu'r gymuned, e-bostiwch raglen Marc Griffiths sy'n cychwyn am 18:00: marc.griffiths@bbc.co.uk

Dydd Sul, 30 Mai

  • Deffrwch yn dawel i gerddoriaeth ymlaciol a phersain am 7:00 gyda Lisa Gwilym.

  • Yna, bydd rhaglen Cofio yn datgelu beth mae'r criw sydd wedi bod yn tyrchu yn yr archif wedi ei ganfod am ddigwyddiadau wnaeth wahaniaeth dros y degawdau a fu.

  • Ac am 15:00 bydd Hywel Gwynfryn yn edrych nôl dros arlwy'r wythnos.

Mae blwyddyn y pandemig wedi effeithio ar bob rhan o gymdeithas gyda theuluoedd ac unigolion wedi wynebu colledion creulon, problemau economaidd, a dirywiad iechyd meddyliol a chorfforol.

Ond mae hefyd wedi amlygu enghreifftiau rhyfeddol o gymunedau yn dod at ei gilydd i helpu eraill a phobl sydd wedi mynd y filltir arall.

Cafodd un o rheiny, Ela Jones, ei henwebu i dderbyn Tlws Diolch o Galon, rhaglen Ifan Evans ddydd Iau.

Os hoffech chi rannu profiad neu sôn am bethau sydd yn Gwneud Gwahaniaeth i chi e-bostiwch: gwneudgwahaniaeth@bbc.co.uk

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw