Galwad ar AS Delyn i wneud y peth 'anrhydeddus'

  • Cyhoeddwyd
Rees Mogg
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jacob Rees Mogg y dylai Rob Roberts ystyried ymddiswyddo

Mae arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg wedi cynyddu'r pwysau ar Aelod Seneddol Delyn i gamu o'r neilltu.

Dywedodd y byddai'n "anrhydeddus" i Rob Roberts ymddiswyddo wedi i banel annibynnol ganfod ei fod wedi torri polisi aflonyddu rhywiol, ac argymell ei wahardd o'r senedd am chwe wythnos.

Petai ymchwiliad gan Bwyllgor Safonau San Steffan wedi dod i'r un casgliad, fe fyddai wedi golygu dechrau deiseb ad-alw yn syth.

Ond oherwydd bod panel annibynnol wedi ymchwilio, nid yw'r un rheolau mewn grym.

Daw'r sylwadau wrth i ASau gymeradwyo argymhelliad y panel, gan gadarnhau'r gwaharddiad i Mr Roberts.

Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin

Wrth siarad yn San Steffan ddydd Iau, dywedodd Mr Rees-Mogg ei fod yn bryderus am yr "anghysondeb" a'i fod am ddelio gyda hynny "yn y ffordd fwyaf syml bosib".

Dywedodd: "Mewn achos mor ddifrifol â hwn, lle byddai'n anrhydeddus i aelod gamu o'r neilltu ar ôl colli'r chwip, mae angen i ni ystyried a yw'r broses yn taro cydbwysedd rhwng annibyniaeth, gwarchod cyfrinachedd achwynwyr a sicrhau canlyniadau cyson ar draws achosion ymddygiad gwahanol."

Gofynnodd i gadeirydd y panel annibynnol a wnaeth ymchwilio i Mr Roberts i wneud argymhellion pellach.

'Gwell gen i aelod Llafur'

Brynhawn Iau dywedodd Myles Power, cyn-gadeirydd y Ceidwadwyr yn Nelyn, wrth BBC Cymru y byddai'n well ganddo weld "aelod anrhydeddus o'r Blaid Lafur" yn cynrychioli Delyn fel Aelod Seneddol na Mr Roberts.

Dywedodd ei fod "yn siomedig ac wedi'i syfrdanu" ac nad yw'n credu ei bod hi'n bosib i Mr Roberts barhau fel Aelod Seneddol.

Fe ymddiswyddodd Mr Power fel cadeirydd yr etholaeth fis Hydref y llynedd oherwydd ymddygiad yr AS a methiant y blaid geidwadol, yn ei dyb ef, i ddelio â'r mater.

Ychwanegodd bod y cyhuddiad yn erbyn Mr Roberts yn un difrifol a'i fod yn poeni y bydd Mr Roberts yn parhau'n aelod o drwch blewyn tan yr etholiad nesaf.

"Fe fyddai hynny yn golygu na fyddai pobl Delyn yn cael eu cynrychioli'n iawn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Chris Davies ei sedd wedi i ddeiseb ad-alw orfodi is-etholiad ym Mrycheiniog a Maesyfed

Yn y cyfamser mae cyn-AS a gollodd ei sedd wedi iddo gyfaddef ei fod wedi cyflwyno dogfennau ffug wrth hawlio treuliau, wedi dweud bod hi'n rhyfedd bod rheolau seneddol yn caniatáu i Mr Roberts barhau fel AS.

Bu Chris Davies, a arferai gynrychioli etholaeth Brycheiniog a Maesyfed, yn destun deiseb ad-alw ac wedi is-etholiad fe gollodd ei sedd.

"Rwy'n credu y dylai AS Delyn benderfynu dros ei hun beth yw'r peth iawn i'w wneud", meddai, gan ychwanegu nad oedd yn credu y dylai Mr Roberts barhau fel AS.

"Rwy'n credu y dylid gweithredu yr un gweithdrefnau ar gyfer pawb - mae hi'n system ryfedd iawn."

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi galw eto ar i Rob Roberts gamu o'r neilltu.

"O ystyried natur yr honiadau yn ei erbyn a difrifoldeb y gosb sydd wedi'i hamlinellu... y peth cywir i wneud fyddai ymddiswyddo a gadael pobl Delyn i ddewis pwy sy'n eu cynrychioli," meddai.