'Pawb i gael cynnig brechlyn Covid-19 erbyn canol Mehefin'
- Cyhoeddwyd
Mae pawb yng Nghymru yn debygol o gael cynnig dos cyntaf o frechlyn Covid-19 fis yn gynt na'r disgwyl, meddai Llywodraeth Cymru.
Yn wreiddiol roedd y llywodraeth wedi ymrwymo i gyrraedd y garreg filltir o frechu pawb dros 18 erbyn diwedd Gorffennaf.
Maent bellach yn rhagweld y bydd pawb wedi cael cynnig y dos cyntaf yn ystod yr wythnosau nesaf.
Llywodraeth y DU sy'n trefnu cyflenwadau o'r brechlynnau, ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yw eu dosbarthu.
Mae rhwydwaith o ganolfannau brechu a meddygfeydd wedi bod yn defnyddio tri math o frechlyn ers mis Rhagfyr 2020.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dros hanner pobl 18-29 oed yng Nghymru wedi derbyn y dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn ac ry'n ni'n gobeithio y byddwn wedi cynnig y dos cyntaf i bob oedolyn ymhen pythefnos."
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eu bod eisoes wedi cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob oedolyn.
O ddydd Iau ymlaen gall pobl sydd heb fynychu apwyntiad fynd i ganolfan frechu ym Mae Caerdydd heb wneud apwyntiad o flaen llaw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2021
- Cyhoeddwyd7 Mai 2021