'Daeth Anwen fel angel o rywle i roi help i fi'
- Cyhoeddwyd
Ym Mlaen-plwyf ger Aberystwyth mae siop y pentref wedi bod yn ganolbwynt pwysig ers bron i ugain mlynedd, gan nad oes canolfan gymunedol, na thafarn i gael yno. Ac fe ddaeth yn bwysicach fyth i'r trigolion lleol yn ystod y cyfnodau clo.
Ond ar ddechrau'r pandemig - gyda mwyafrif y gwirfoddolwyr oedd yn rhedeg y siop yn bobl hŷn - roedd ansicrwydd a fyddai modd ei chadw ar agor.
Yna, yn fuan ar ôl dechrau'r cyfnod clo cyntaf y llynedd fe gysylltodd Anwen Evans - un o drigolion iau Blaen-plwyf - ag ymddiriedolwyr y siop i gynnig help.
Ar ôl hynny, fe dyfodd gwaith Anwen yn y pentref. Fe ddechreuodd hi godi nwyddau a meddyginiaeth i bobl leol o Aberystwyth a gwneud ffrindiau newydd yn y pentref lle roedd hi wedi byw ers degawd.
Mae sawl un o'r trigolion wedi disgrifio Anwen fel 'angel' am y cymorth mae hi wedi rhoi - y cyfan tra'n gweithio llawn amser i Gyngor Ceredigion hefyd.
Un sydd wedi cael help gan Anwen yn Audrey Evans. "Oedd hi yn dda, mae'n rhaid i fi ddweud achos ar y pryd collais i fy mhartner," meddai. "Roedd hynny'n anodd wrth gwrs, ac wedyn daeth Anwen fel angel o rywle i roi help i fi, a ddim yn nabod fi chwaith.
"Amser o'n i'n ffili mynd allan os o'n i angen rhywbeth o'r dre oedd hi'n mo'yn e i fi a prescriptions hefyd, felly oedd hi'n lot o help. Chwarae teg iddi, mae hi wedi bod yn dda, a nid dim ond i fi ond i bawb yn y pentre'."
Dywedodd Anwen iddi feddwl dechrau helpu ei chymdogion adeg y cyfnod clo cyntaf.
"O'n i jyst yn meddwl 'dwi wedi byw ym Mlaen-plwyf ers deng mlynedd a dwi ddim yn nabod neb'.
"Roedd y cyfnod clo yn dod ac o'n i'n gwybod mai gwirfoddolwyr oedd yn rhedeg y siop ac mai pobl mewn oed oedden nhw. Felly o'n i jyst yn meddwl 'ydyn nhw mo'yn help?'. Dyna'r peth cyntaf ddaeth i'm meddwl i."
'Dod i nabod pwy yw pwy'
Ar ôl dechrau gwirfoddoli yn y siop fe benderfynodd Anwen gynnig cymorth i bobl eraill hefyd, trwy roi slip o bapur a'i rhif ffôn arno trwy ddrws pob tŷ yn y pentref.
"Roedd rhif ffôn fi a sawl person arall ar y slip o bapur a neges i ddweud os oes angen unrhyw beth ar unrhyw un ar unrhyw bryd, i gysylltu gyda ni. Ac o hynny ry'n ni wedi dod i nabod pwy yw pwy.
"Roedd pawb yn gwybod wedyn pwy oedden ni ond doedd gen i ddim cliw pwy oedden nhw, ond fe ddaeth yn y diwedd!"
Bu Anwen yn helpu Ann Ffrancon, ymddiriedolwr ac un o sylfaenwyr siop y pentref, mewn sawl ffordd - trwy wirfoddoli yn y siop ei hun a thrwy gasglu meddyginiaeth iddi o Aberystwyth.
Dywedodd Ann: "Mi oedden ni yn trio cael pobl ifanc i ddod aton ni [i helpu yn y siop] ond mae'n dipyn o gommitment chwarae teg.
"Ond rywsut neu gilydd, yng nghanol y paratoadau ar gyfer cau lawr a pheidio gweld ein gilydd mi ddoth Anwen fel rhyw angel allan o'r niwl a hel pawb at ei gilydd a dweud 'da ni'n mynd i wneud hyn i weithio i helpu'r gymuned'.
"Mae hi wedi gweithio yn hynod galed droston ni i gyd ac ry'n ni'n hynod o ddiolchgar iddi."
'Lot fawr o sbort'
Yn ogystal â'r help yn y gymuned bu Anwen yn codi arian yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fe gododd gannoedd o bunnau i'r Lleng Brydeinig dros benwythnos y cofio trwy werthu cacennau. Fe benderfynodd hefyd i siafio'i gwallt i gyd i ffwrdd er budd HAHAV, elusen sy'n rhedeg hosbis lleol.
Dywedodd Anwen: "Fuodd HAHAV yn edrych ar ôl fy nhad i flynyddoedd yn ol fell yo'n i moyn rhoi rhywbeth yn ôl. O'n i'n meddwl 'beth wna i?' a chofio bod yr hairdressers i gyd ar gau felly 'siafia i fy ngwallt i off'.
"O'n i jyst yn meddwl casglu rhyw £200 neu rywbeth fel yna, ond fel digwyddodd pethau roedd dros fil o bunne wedi cael eu codi, ac o'n i jyst ffili credu fe."
Mae Anwen yn dweud nad yw hi'n hoffi'r sylw a'r "ffỳs" a'i bod yn helpu am ei bod hi'n mwynhau gwneud. Hefyd, mae hi wedi elwa ei hun o'r help mae hi wedi rhoi.
"Dw i wedi dod i nabod y gymuned a hynny fi'n credu yw'r peth gorau i fi. O'n i'n byw yma am dros ddeng mlynedd a nabod dim ond y cymdogion drws nesaf. Ond nawr fi'n nabod pawb o bob oedran yn y pentref yma, a 'da ni yn cael lot fawr o sbort nawr!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021