Cwpan yr Enfys: Dreigiau 16-27 Glasgow

  • Cyhoeddwyd
Dragons GlasgowFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes y Dreigiau yng Nghwpan yr Enfys y Pro14 yn erbyn Glasgow yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Aeth y Dreigiau ar y blaen gyda chais gan Aneurin Owen cyn i'r capten Ross Moriarty weld cerdyn melyn i'r tîm cartref.

Fe lwyddodd Glasgow i daro 'nôl gyda cheisiau gan Kyle Steyn, George Turner, Ross Thompson a Kiran McDonald i selio buddugoliaeth pwynt bonws i'r Albanwyr.

Yn yr un gystadleuaeth nos Wener fe gafodd Gleision Caerdydd eu trechu o 31-27 yn erbyn Munster.

Doedd dau gais gan Tomos Williams ac un gan Lloyd Williams ddim yn ddigon i'r Cymry, wrth i geisiau gan Fineen Wycherley, Keynan Knox a dau gan Niall Scannell sicrhau buddugoliaeth i'r Gwyddelod.

Pynciau cysylltiedig