Ad-drefnu pêl-droed merched yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Merched Abertawe yn dathlu eu buddugoliaethFfynhonnell y llun, CBDC/Lewis Mitchell
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd clwb merched Dinas Abertawe y gynghrair a'r cwpan yn 2020/21

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi newidiadau mawr i strwythur pêl-droed merched.

Cadarnhaodd y gymdeithas enwau'r timau fydd yn chwarae yn Haen 1 a Haen 2 fel rhan o'r ad-drefnu.

Bydd yr haen uchaf yn parhau i fod yn gynghrair genedlaethol, tra bydd yr ail haen wedi'i rhannu'n ddwy ranbarth, de a gogledd.

Roedd 15 o dimau wedi ymgeisio am yr wyth lle oedd ar gael yn Haen 1, gyda thimau Uwch-gynghrair merched presennol Y Fenni, Llansawel a Chlwb Ieuenctid Cascade ymhlith y rhai a fethodd sicrhau lle.

Annog mwy i gymryd rhan

Yr enwau newydd yn yr haen uchaf yw Tref Y Barri a'r Seintiau Newydd.

Cyhoedd CBDC flwyddyn yn ôl ei bod am newid y strwythur ar gyfer 2021-22 er mwyn annog mwy o ferched i gymryd rhan yn y gamp.

Mae'r newidiadau hefyd yn cynnwys creu Haen 3 a Haen 4 - cynghreiriau hamdden (recreational leagues) fydd yn cael eu rheoli gan gymdeithasau rhanbarthol, yn ogystal â chynghrair ddatblygu ar gyfer merched dan-19.

Rhoddwyd y trwyddedau i glybiau Haen 1 a 2 yn dilyn adolygiad gan banel annibynnol, a chyfnod o ymgynghori gyda'r gymdeithas bêl-droed ryngwladol, FIFA.

Roeddent yn edrych ar nifer o wahanol ffactorau yn cynnwys yr ochr ariannol ac adnoddau'r clybiau.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae timau merched Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe yn chwarae yn yr Uwchgynghrair ar hyn o bryd

Timau Haen 1: Aberystwyth, Tref Y Barri, Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd, Pontypridd, Port Talbot, Abertawe a'r Seintiau Newydd.

Haen 2 Gogledd: Airbus UK Brychdyn, Bethel, Cei Connah, Tref Dinbych, Llandudno, Llanfair United, Pwllheli a Wrecsam.

Haen 2 De: Y Fenni, Llansawel, Cil-y-coed, Bluebelles Caerdydd, Cascade YC, Merthyr, Talycopa, a Phrifysgol Abertawe.

Roedd 37 o dimau wedi gwneud cais am 24 o safleoedd yn y gynghrair newydd, a fydd yn dechrau ym mis Awst 2021.

'Creu amgylchedd gystadleuol'

"Rydym wedi gweld symudiad go iawn ym meddylfryd y clybiau yn y ffordd y maent yn datblygu amgylchedd elitaidd i'w chwaraewyr a'r ffordd y maent yn adeiladu tuag at ddyfodol cynaliadwy," meddai Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched CBDC.

"Nid llwyddiant ar lefel chwaraeon oedd yr unig ffactor oedd yn cael ei ystyried yn y ceisiadau," ychwanegodd. "Roedd strwythurau'r clybiau hefyd dan y chwyddwydr.

"Roedd y broses wedi gwneud i glybiau adolygu eu holl strwythurau, yn cynnwys datblygu chwaraewyr a'r darpariaethau oedd ar gael iddynt.

"O ganlyniad bydd clybiau'n ceisio gwella safonau ar y cyd mewn amgylchedd gystadleuol."