Plant yn colli sgiliau sylfaenol wedi cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Cymeriadau Cyw
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cymeriadau Cyw yn rhoi help llaw i blant i ddysgu sgiliau

Mae plant ifanc yn colli rhai sgiliau sylfaenol yn ystod cyfnodau clo, yn ôl athrawon.

Nawr mae Cyw - gwasanaeth S4C i blant bach - wedi cyhoeddi cylchgrawn newydd gyda'r gobaith o geisio newid hynny.

Mae cylchgrawn Cyw yn cael ei lansio ar ddechrau Eisteddfod T yr Urdd, ddydd Llun.

Tîm o chwech o athrawon o sir Gaerfyrddin sydd wedi cydweithio gyda'r cyhoeddwr Peniarth i sicrhau cynnwys sydd â gogwydd addysgol, ond hefyd yn llawn hwyl, ac yn apelio i blant bach.

'Amser da i'w gyhoeddi'

Does dim adeg gwell wedi bod i gylchgrawn o'r fath ymddangos, yn ôl un o'r criw, Llio Dyfri Jones sy'n athrawes yn Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin.

"Un peth 'da'n ni wedi'i weld dros y cyfnod clo ydi bod sgiliau digidol plant wedi datblygu'n anferthol, sy'n sicr am fod yn fanteisiol wrth iddyn nhw ddatblygu'n addysgol," meddai.

"Ond er mor bwysig ydi'r sgiliau digidol yma, mae angen pwysleisio bod hi'n bwysig nad yw hyn yn digwydd ar draul sgiliau sylfaenol plant.

"Fe welon ni nad oedd rhai plant wedi gafael mewn pensil na chreon yn ystod y cyfnodau clo.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cylchgrawn newydd Cyw

"Ond trwy ddefnyddio cymeriadau Cyw - cymeriadau maen nhw wedi'u gweld yn 'ddigidol', boed ar ffurf iPad neu sgrin deledu, 'dan ni'n gobeithio y bydd Cyw a'i ffrindiau yn hudo'r plant i liwio, torri, bod yn greadigol, datblygu sgiliau meddwl a sylwi, yn ogystal â'u sgiliau ieithyddol nhw.

"Mae o'n gylchgrawn hwyliog ac mae o'n cwmpasu lot o bethau sydd, dwi'n gobeithio am apelio at blentyn bach rhwng 2 - 6 oed.

"Dwi wedi gallu treialu dipyn o'r cynnwys gyda plant fy nosbarth, ac roedd o'n hyfryd i weld eu hymateb brwdfydig."

Mae gwasanaeth Cyw wedi bod yn diddori ac addysgu plant bach ers ei sefydlu yn 2008, a bydd y cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi bob tymor.

Law yn llaw â'r cylchgrawn 48 tudalen, bydd gwefan arbennig yn cynnig cyfieithiad o'r holl gynnwys, gan roi cyfle i'r di-Gymraeg glywed y storïau'n cael eu darllen yn y Gymraeg.

Pynciau cysylltiedig