Diwrnod prysur i wylwyr y glannau ar Ŵyl y Banc

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Achub merch wedi iddi fynd i drafferthion ar y môr ym Mae Cinmel ger Abergele

Dywed y Gwasanaeth Bad Achub (RNLI) a Gwylwyr y Glannau eu bod wedi bod yn brysur ar ddydd Llun Gŵyl y Banc yng Nghymru wrth i'r tywydd braf ddenu nifer i'r traethau.

Ym Mae Cinmel ger Abergele bu'n rhaid achub merch wyth oed o'r môr wedi iddi fynd yn rhy bell o'r lan ar ei 'inflatable'.

Mae Gwylwyr y Glannau yn annog pobl i beidio defnyddio dyfeisiadau aer tebyg ar draethau.

Ddydd Llun cofnodwyd y tymheredd uchaf eleni, a hynny wedi dechrau gwlyb iawn i fis Mai.

Dywed achubwyr bywyd yng Nghymru eu bod yn disgwyl haf prysurach na'r arfer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu gwylwyr y glannau a'r gwasanaeth bad achub yn brysur ar ddydd Llun Gŵyl y Banc

Ddydd Llun hefyd bu'n rhaid i griwiau o Landrillo-yn-rhos helpu dyn oedd wedi disgyn oddi ar ei sgwter dŵr ac ar Ynys Môn bu'n rhaid i wasanaeth bad achub Bae Trearddur helpu dau berson mewn caiac wedi iddyn nhw fynd i drafferthion.

"Bu'n gyfnod prysur oherwydd y tywydd heulog," medd Michael Buratti - un o brif swyddogion Gwylwyr y Glannau.

"Rhaid i bobl fod yn ymwybodol bod y gwynt lleiaf yn gallu chwythu 'inflatables' i'r môr - ac os yw'r cyfarpar yn troi a'r person yn ceisio nofio i'r lan mae hynny yn gallu arwain at ganlyniadau echrydus."

Pynciau cysylltiedig