Siom am dorri gwasanaethau bysiau yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
bws

Mae cynghorwyr yn Aberteifi wedi eu siomi o glywed bod rhai gwasanaethau bysiau yng nghanol y dre yn diflannu am nad ydyn nhw'n denu digon o deithwyr.

Bydd tri gwasanaeth y bws 408 canol y dref sy'n cael eu rhedeg gan gwmni Richards yn cael eu cwtogi.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod "llai o alw am y gwasanaeth, a'u bod wedi trio yn galed iawn i gadw hwn i fynd".

Ychwanegodd fod y cwmni yn gobeithio "pan bydd pethe yn gwella y bydd modd efallai i ailystyried".

Mewn datganiad fe ddywedodd Cyngor Sir Ceredigion wrth raglen Dros Frecwast bod niferoedd y teithwyr ar wasanaeth 408 "wedi bod yn disgyn ers sawl blwyddyn".

"Mae'r gweithredwr wedi ymdrechu i ddiwygio a datblygu'r gwasanaeth er mwyn cynyddu nifer y teithwyr, gan gynnwys ychwanegu'r Ganolfan Iechyd at lwybr y gwasanaeth, ond nid yw hyn wedi gwella pethau," meddai.

"Yn sgil effaith hyn ar yr incwm a ddeuai o'r tocynnau a'r cymhorthdal, roedd angen adolygu'r gwasanaeth am nad oedd yn gynaliadwy nac yn gwneud synnwyr ariannol i gadw lefel y gwasanaeth a ddarparwyd ynghynt.

"Yn hytrach na dileu'r gwasanaeth yn llwyr mae'r gweithredwr wedi bwrw ati i ddatblygu a gweithredu amserlen amgen gyda'r nod o gynnal lefel briodol o wasanaeth ar y llwybr. Mae hon wedi bod ar waith ers mis Medi 2020."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r newid yn wael i'r hen bobl a bobl ifanc," medd Keith Ladd

Ychwanegodd fod y gwasanaethau'n cael eu "hadolygu'n barhaus".

"Mae'r cyllidebau sy'n cefnogi gwasanaethau bysiau o dan bwysau sylweddol ac yn cael eu gwario'n llawn," meddai.

"Ar y sail yma, y ffactor sy'n pennu a yw gwasanaethau yn hyfyw yn ariannol yw'r incwm a gynhyrchir ym mlwch arian y tocynnau.

"Gyda hyn mewn golwg, yr egwyddor berthnasol yw defnyddiwch y gwasanaethau neu byddwch o bosib yn eu colli."

'Angen mwy, dim llai'

Mewn ymateb i hyn fe ddywedodd y cynghorydd John Adams-Lewis: "Y broblem yw mae gwasanaeth y dre - y 408 - yn mynd am 11 a 'sdim bws arall 'sbo tri.

"Ma' llawer gormod o fwlch fan'na. Bydden i'n lico gweld ailgyflwyno y gwasanaeth am 12:45.

"Ni'n becso bydd pobl ddim yn mynd i ganol y dre i siopa.

"Ar ôl y pandemig ma' pobl 'di cael y brechlyn a mwy tebygol o fynd mas i siopa, felly ma' ishe mwy o wasanaethau nawr weden i, dim llai."

Disgrifiad o’r llun,

Y cynghorydd John Adams-Lewis: 'Gormod o fwlch rhwng yr amseroedd'

Yn ôl Keith Ladd sy'n byw yn y dre: "Mae'r newid yn wael i'r hen bobl a bobl ifanc.

"Ma' popeth wedi ailagor yn y dre' ond ma' llai o fysus.

"Ma' pobl ffili mynd i weld doctoriaid, na gweld eu teulu pen arall y dre, na chwaith siopa'n dre.

"Mae pobl yn dweud bod e'n dorcalonnus a bobl bron llefen yn dweud sut alla'i ddod mas o'r tŷ 'ma nawr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gyda gweithredwyr bysiau i sicrhau diogelwch a hyder parhaus teithwyr bysiau wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ac wrth i fwy o bobl ddechrau teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae cwmnïau bysiau'n ymgymryd ag ystod o fesurau llym i sicrhau bod teithwyr yn ddiogel yn ystod eu taith, gan gynnwys trefn lanhau drwyadl ar gerbydau, trefniadau eistedd pwrpasol gan gadw pellter cymdeithasol a diheintyddion ar y bysiau at ddefnydd teithwyr.

"Mae hefyd yn ofynnol i deithwyr wisgo gorchudd wyneb ar gyfer eu taith, oni bai eu bod wedi'u heithrio."