Ateb y Galw: Y cynhyrchydd Hywel Wigley

  • Cyhoeddwyd
Hywel WigleyFfynhonnell y llun, Hywel Wigley

Y cynhyrchydd cerddoriaeth Hywel Wigley sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Dafydd Dabson yr wythnos diwethaf.

Hywel Wigley yw perchennog stiwdio Acapela ym Mhentyrch, sy'n adnabyddus am gerddoriaeth byw a pizzas. Mae hefyd wedi sefyll fel ymgeisydd dros Plaid Cymru yn isetholiad Pentyrch a Gwaelod y Garth.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Brith gof o fod ar risiau mecanyddol pren ar ôl teithio ar drên twrch yn Llundain.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ar lan Llyn Coch-hwyad uwchlaw Cwm Nant yr Eira, dyna ble ro'n i'n mynd yn flynyddol efo Taid i bysgota. Pan gaeaf fy llygaid rwy' nol yn sŵn y tonnau yn curo ar y fawnog. Mae'r atgof yn ddarlun perffaith pan fod angen tawelu'r enaid.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan gyd-drefnais Do Re Mi Ffwnc 3 efo'n ffrindiau ym Mhorthmadog, lle'r oedd Anhrefn, Ffa Coffi, Jess, a llu o fandiau eraill yn perfformio. Roedd 'na dros 10 o fysiau o Bwllheli a'r Bala i Fangor a channoedd o blant ysgol yn morio o bob cwr i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg. Roedd 'na gymaint o ffactorau ar waith i'w gwneud yn noson orau erioed i mi ac ar ôl i flynyddoedd basio dwi'n amau na fydd fyth y fath noson i'w chael eto.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Anhrefn

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Mentrus, brwdfrydig ac optimist.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Mewn priodas yn Nhŷ'r Cyffredin. Ro'n i tua wyth neu naw oed pan lwyddais i a Mei Tomos dargedu system diogelwch y palas wrth bysgota oddi ar y teras. O fewn eiliadau canodd cloch y larwm ac o fewn dim fe'n amgylchynwyd efo swyddogion a phlismyn..... plant y Cymry afreolus.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ar fin gwylio ffilm gyda criw prim a proper, ac wrth i bawb eistedd gofynnodd fy merch tair oed 'Ga'i popcorn?' ond roedd hi wedi cymysgu ei p's a c's..... tumbleweed!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

27 Ionawr 2020, gyda fy mreichiau o gwmpas Cadi fy mhartner wrth iddi roi genedigaeth i fy merch, Betsi Elan Wigley.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Colli goriadau ac yn gyffredinol yn anghofus.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

The Boy Who Harnessed The Wind, ffilm wych sy'n dangos sut gall plentyn oresgyn drwy holl broblemau bywyd a llwyddo i fod yn hapus.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Llewelyn Morris Humphreys, i gael dod o hyd i'w ffortiwn.

Disgrifiad o’r llun,

Llewelyn Morris Humphreys

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Diolch i Cadi, Betsi, Ana a Pegi am fy wneud i'n berson hapus.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Yfed potel o Petrus Pomerol Grand Cru 2005 a chogino pryd i'r teulu.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Fe ddes ar draws arddangosfa Henri Martin yn Cahors tra ro'n i ar wyliau ryw dro a byth ers hynny dwi'n rhyfeddu at ei ddefnydd o olau, a sut mae'n cyfleu popeth am yr ardal yma o Ffrainc. Un enghraifft o'i waith yw Le Pont, ond rhaid ei weld mewn arddangosfa i'w werthfawrogi. Mae ei luniau yn dod ag atgofion o ddyddiau a nosweithiau wrth deithio lawr yr afon Lot, mae'n afon gyfan gwbl hudolus, a'r lluniau yn fy atgoffa o ryw gymysgedd rhamantus o win coch, sêr gwib, tirffurfiau prydferth, llonyddwch, tawelwch a tharo fewn i greigiau.

Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?

Mae rhan ohonof yn hapusach nawr nag erioed o'r blaen a thybiaf y byddai'n myfyrio mor braf oedd cael byw a bod yn y lleol heb y rhuthr hurt bywyd. Mi fyddai'n meddwl sut y llwyddodd y llywodraethau i newid pethau fel digartrefedd dros nos, cyn belled fod yr ewyllys yn bodoli. Dwi wir ddim yn meddwl y daw'r pandemig i ben, tra bod biliynau o bobl yn mynnu mynd yn ôl i fywyd hyll fel ag yr oedd.

Ar ryw bwynt fe fydd rhaid dysgu i newid ac i ymdopi i fyw ac i ailfeddwl pethau. Dwi'n casáu'r ffordd yr oedd cymdeithas yn prynu'r syniad o hedfan i baradwys... tra fod y weithred yn ei hanfod yn dinistrio'r paradwys oedd mor ddeniadol yn y lle cyntaf. Gobeithio y gwelwn ddiwedd ar hedfan rhad, hunanol diangen - sydd wedi bod mor ddinistriol i'r blaned a phobloedd led y byd.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

José Bové ar ben ei dractor.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw