Teyrnged teulu i feiciwr modur 'gweithgar a hapus'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy ddydd Sul wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Patrick Kelly yn 59 oed ac yn dod o ardal Dinbych.
Bu farw wedi gwrthdrawiad ychydig wedi 14:00 rhwng ei feic modur arian a fan Ford Transit gwyn ar yr A548 rhwng Llanfairtalhaiarn a Llangernyw.
Dywedodd y teulu eu bod "mewn sioc lwyr" wedi marwolaeth Mr Kelly, oedd yn dad "gofalgar" i dri o feibion ac yn daid "selog" i chwech o wyrion.
Maen nhw'n ei ddisgrifio fel dyn "gweithgar, hapus, serchus a mawr ei ofal, a fyddai'n gwneud unrhyw beth i helpu ei deulu a'i ffrindiau".
Ychwanegodd y teulu yn eu datganiad: "Roedd Patrick yn byw bywyd i'r eithaf ac yn edrych ymlaen at daith yn fuan ar ei feic modur, a oedd wedi rhoi bywyd newydd iddo yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
"Roedd yn caru ei wyrion yn fwy na dim byd ac mae wedi ei gymryd oddi arnyn nhw, yn drasig, yn rhy fuan o lawer. Bydd yn cael ei golli'n fawr gan ei dri mab a'i dri brawd, yr oedd wastad yna ar eu cyfer ac yn barod i'w helpu mewn unrhyw ffordd."
Dywed y teulu bod hi'n "fraint ac yn bleser i rannu ei fywyd... ni fydd byth yn cael ei anghofio."
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth a lluniau dash cam all fod yn gymorth i'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad.