'Plant awtistig wedi eu cam-drin mewn cartref preswyl'
- Cyhoeddwyd
Mae plant gydag anghenion yn gysylltiedig ag awtistiaeth wedi cael eu cam-drin mewn cartref plant yng Nghaerdydd, yn ôl pedwar o gyn-staff.
Maen nhw'n dweud bod plant yn nghartref Tŷ Coryton wedi cael eu hatal a'u cadw dan glo'n ddiangen.
Honnir bod un merch yn ei harddegau wedi cael ei chloi yn ei fflat yn rheolaidd am ei bod ar ei mislif.
Dywed rheolwyr y cartref, Orbis Education and Care Ltd, eu bod wedi ymchwilio'n drwyadl i unrhyw ddigwyddiadau a gafodd eu hadrodd iddynt, a'u bod yn cymryd unrhyw gyhuddiadau o ddifri'.
'Ofni bod plentyn yn mynd i farw'
Roedd Kristy Edwards yn gweithio yn Nhŷ Coryton - cartref preswyl ac ysgol arbennig i blant ag anghenion yn gysylltiedig ag awtistiaeth - rhwng Tachwedd 2019 a Medi 2020.
Ar un achlysur roedd hi'n credu bod "plentyn yn mynd i farw" wrth gael ei ddal i lawr ar y llawr am bron i 20 munud.
Roedd yr ataliad wedi ei "gamreoli'n llwyr", meddai, ac roedd hi wedi bod yn rhedeg yn ôl ac ymlaen gyda dŵr a chadachau gwlyb i geisio oeri'r plentyn oherwydd ei bod yn bryderus am ei iechyd.
Mae hi hefyd yn honni iddi glywed aelod o staff yn rhegi a cham-drin plentyn yn eiriol gan ddweud eu bod yn "drewi o gachu".
Roedd plant yn cael eu cosbi am ymddygiad awtistig, ac roedd iechyd a diogelwch staff yn "gwbl ddychrynllyd" yno, honnodd.
"Rwyf wedi cael fy anafu dipyn o weithiau," meddai, gan ychwanegu bod ei hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod yr amser y bu'n gweithio yno.
Roedd pobl ifanc yn cael eu "camreoli", meddai, ac felly roeddynt yn ymddwyn yn heriol ac roedd hynny'n arwain at gael eu cadw dan glo.
Roedd safon y llety yn wael, a disgrifiodd gyflwr fflat un person fel "crack den".
Dywedodd bod y plentyn hwn yn cael ei gadw dan glo a dim ond yn cael mynd allan yn y car.
Roedd gweithwyr cymorth y person hwn yn dweud bod angen ei lonyddu, ond yn ôl Ms Edwards yr hyn yr oedd ei angen oedd "y strategaethau ymddygiad therapiwtig cywir ac i rywun weithio gydag e nid yn ei erbyn".
"Difrifol" oedd y gair a ddefnyddiodd i ddisgrifio ynysiad merch yn ei harddegau.
"Roedd yn cael ei hynysu pryd bynnag yr oedd ar ei mislif. Doedden nhw ddim yn ei dysgu hi sut i ddefnyddio deunyddiau mislif."
Roedd diffyg padiau a chadachau, meddai, ac ar un adeg bu'n rhaid i un o'r preswylwyr sefyll yn noeth tra'r oedd aelod o staff yn mynd allan i brynu rhagor.
Dywedodd pedwar cyn-aelod o staff bod diffyg o'r fath yn digwydd yn rheolaidd.
Roedd Ms Edwards wedi codi pryderon am hyn gyda'r person oedd yn gyfrifol am eu prynu, a dywedwyd wrthi eu bod am ddechrau cyfyngu ar nifer y cewynnau a phadiau oedd ar gael.
'Brwydro am adnoddau'
Dywedodd un o'r pedwar eu bod yn gorfod "brwydro am adnoddau".
Disgrifiodd amgylchedd y cartref fel "risg uchel" i staff a'r plant oedd yn byw yno.
Yn ôl un arall o'r cyn-staff, roedd bachgen 10 oed wedi cael ei ddarganfod yn rhedeg yn noeth o amgylch y maes parcio, a phan aeth yn ôl i'w fflat, doedd neb wedi sylweddoli ei fod wedi mynd yn y lle cyntaf.
Cyhuddiadau eraill:
Mewn sgwrs gyda chydweithiwr roedd un aelod o staff wedi disgrifio gweithred rywiol mewn manylder o flaen bachgen 17 oed.
Roedd gweithiwr wedi dweud wrth staff nos i beidio a bwydo bachgen 10 oed am ei fod wedi bwyta dau becyn o greision yn lle ei ginio.
Cafodd un person ifanc a oedd wedi baeddu ei hun ei roi mewn bath cyn cael ei lanhau yn gyntaf, felly roedd yn gorwedd yn ei faw ei hun.
Trefn anaddas o osod ystafelloedd - plant ifanc yn rhannu fflatiau gydag oedolion ifanc.
Cadw gwybodaeth am blant oddi wrth eu rhieni.
Pres poced oedd heb ei wario gan blant yn mynd yn ôl i goffrau Orbis, yn hytrach na chaniatáu i blant arbed arian.
Drws ffrynt oedd wedi torri yn ei gwneud hi'n hawdd i blant redeg i ffwrdd.
Staff anghymwys yn cymryd gwersi yn yr ysgol, a ddisgrifiwyd fel "fawr gwell na gwasanaeth gwarchod babanod" gan un aelod o staff.
Roedd pob digwyddiad a honnwyd gan Kristy Edwards wedi digwydd oherwydd "gweithred gan staff neu oherwydd bod staff wedi anwybyddu rhywbeth".
Roedd hi wedi codi pryderon gydag o leiaf dri rheolwr yn ystod ei hwythnos gyntaf yn gweithio i Orbis.
Mae hi bellach yn gweithio i gwmni arall.
'Problem systematig yng Nghymru'
Dywedodd yr Athro Edwin Jones, o'r Sefydliad Prydeinig Dros Anableddau Dysgu bod yr honiadau'n ddychrynllyd.
"Mae defnydd aml o gyfyngu, cymryd person i'r llawr, yn hynod o beryglus," meddai.
Roedd plant gydag anableddau dysgu yn dysgu ymddwyn mewn ffyrdd heriol os nad oeddynt mewn amgylchedd therapiwtig, nid am eu bod yn "blant drwg", meddai.
"Mae angen gwella eu hansawdd bywyd a rhoi ffyrdd eraill iddynt gwrdd â'u hanghenion - yr hyn sy'n cael ei alw'n gefnogaeth ymddygiad positif."
Dywedodd yr Athro Jones ei bod yn debygol fod y math o broblemau a honnwyd yn Nhŷ Coryton yn digwydd mewn llefydd eraill hefyd.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n broblem systematig yng Nghymru, ac mae angen i dipyn o bethau ddigwydd.
"Y peth pwysicaf sydd angen digwydd nawr, yn fuan iawn, iawn, yw bod Llywodraeth Cymru'n symud ymlaen i weithredu'r fframwaith i leihau arferion cyfyngol. Fydd o ddim yn mynd i'r afael â phopeth ond bydd yn taclo llawer iawn."
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cael eu hysbysu o'r cyhuddiadau ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi gwneud atgyfeiriad gwarchod plant yn dilyn ymchwiliad BBC Cymru.
Beth oedd ymateb y cartref?
Dywedodd llefarydd ar ran Orbis Education and Care Ltd: "Rydym yn cymryd unrhyw gyhuddiad yn erbyn ein staff neu wasanaethau yn ddifrifol iawn, a phan mae digwyddiad honedig eisoes wedi cael ei adrodd i ni, rydym wedi'i ymchwilio'n drwyadl.
"Yn ystod y cyfnod ers y digwyddiadau honedig yma mae Tŷ Coryton wedi cael 21 archwiliad neu ymweliad (hyd at 17 Mai) gan gyrff ac awdurdodau annibynnol heb ganfod unrhyw feiau mewn perthynas â'r honiadau hyn, ar wahân i brinder staff ar rai adegau yn ystod y pandemig.
"Rydym wedi derbyn adroddiad drafft gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar Dŷ Coryton, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf, sydd yn ganmoliaethus o'n staff a'n gwasanaethau.
"Mae gan Orbis Education and Care ystod o bolisïau rheoli a dulliau sy'n cael eu cefnogi gan Dîm Safon, i weithio gyda rheolwyr cartrefi i gynnig gwasanaeth diogel ac o safon uchel.
"Rydym yn falch o lefel yr addysg a'r gefnogaeth yr ydym yn eu cynnig yn Nhŷ Coryton a'n staff anhygoel sy'n gofalu am y plant a'r bobl ifanc yn ydym yn edrych ar eu holau.
"Bob dydd rydym yn anelu i greu cartref cynnes, symbylol i'n plant, dyna pam y mae mwyafrif helaeth o'n cydweithwyr yn dewis gweithio gyda'n pobl ifanc unigryw, gan gymryd pleser mawr a balchder proffesiynol yn y camau yr ydym yn gymryd i'w cefnogi."
Beth ddywedodd Llywodraeth Cymru?
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Does dim lle i driniaeth amhriodol o blant mewn unrhyw leoliad unrhyw le yng Nghymru.
"Rydym yn ymwybodol bod Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn ymateb i bryderon ynghylch yr achos yma.
"Byddwn yn cyhoeddi fframwaith i leihau dulliau o gyfyngu mewn gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol fis nesaf, a gweithio gyda chyrff dros Gymru i gymryd camau sy'n gwella hawliau dynol a chefnogaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021