Pryder am nifer y plant mewn gofal yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae academydd blaenllaw wedi dweud ei fod e'n "pryderu" am nifer y plant yng Nghymru sydd mewn gofal.
Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o blant yn derbyn gofal i ffwrdd o'u cartrefi a gan y wladwriaeth o holl wledydd y Deyrnas Unedig, ac o bosibl yn y byd gorllewinol, yn ôl yr Athro Donald Forrester.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae lleihau nifer y plant mewn gofal yn flaenoriaeth iddyn nhw.
Mae dros 1% o'r rhai dan 18 yng Nghymru yn y system ofal yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gyfradd wedi bod yn codi'n gyson. 0.67% o blant Cymru oedd mewn gofal yn 2003, ond erbyn mis Mawrth y llynedd, roedd y ffigwr yn 1.14%.
Yr Athro Forrester yw cyfarwyddwr canolfan ymchwil a datblygu gwasanaeth cymdeithasol plant Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd e ar raglen Newyddion S4C bod nifer o ffactorau yn gyfrifol am y cynnydd "ond mae llawer o'r newid am resymau heblaw tlodi ac amddifadedd".
Mae'n dweud bod plentyn yng Nghymru 50% yn fwy tebygol o fod mewn gofal na phlentyn dros y ffin yn Lloegr, ac yn gweld amrywiaeth rhwng cyfraddau plant mewn gofal mewn gwahanol ardaloedd o Gymru fel prawf bod ffactorau eraill yn gyfrifol am ffigyrau uchel yma.
"Ers 2003, mae niferoedd plant mewn gofal yng Nghymru wedi cynyddu 80%. Yn Sir Gâr, maen nhw wedi aros yn union yr un fath," meddai.
"Mae plentyn yn Nhorfaen bum gwaith yn fwy tebygol o fod mewn gofal na phlentyn yn sir Gâr. Fe allai amddifadedd fod yn ffactor, ond mae'n edrych yn debyg bod y modd mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu hefyd yn bwysig yma.
"Does neb yn dweud na ddylai plant fod mewn gofal. Ond fel cenedl, mae angen i ni fod yn hyderus ein bod yn gwneud popeth allwn ni i sicrhau bod teuluoedd yn aros gyda'i gilydd.
"Mae'r amrywiadau mawr rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a'r gwahaniaeth rhyngom ni a Lloegr yn golygu bod hwn yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn edrych arno fe'n llawer agosach."
Yng Nghaergybi mae Angharad Roberts yn byw. Cafodd hi ei rhoi mewn gofal yn ddwy oed.
Mae'n un o saith plentyn, ac yn dweud er bod "llawer o gariad" gartref, "doedd mam a dad methu edrych ar ein holau ni".
Cafodd ei gwahanu rhag ei brodyr a'i chwiorydd, a'i symud chwech o weithiau rhwng dwy a naw oed. Treuliodd saith mlynedd gyda'r un teulu cyn symud eto ar gyfer ei dwy flynedd ddiwethaf mewn addysg llawn amser.
Dywed iddi wynebu anawsterau tra'n blentyn am iddi fyw mewn gofal.
"Roeddwn i'n teimlo'n unig a doeddwn i ddim yn licio fo. O'n i'n gorfod symud rownd, byw hefo teuluoedd gwahanol, mynd i ysgolion gwahanol. Doedd o ddim yn neis," meddai.
"Nes i ffeindio fo'n anodd setlo lawr a gwneud ffrindiau. Ac roedd hi'n anodd cael perthynas gyda fy rhieni maeth achos ro'n i'n meddwl 'fydda i'n gadael cyn hir felly be' 'di'r pwynt?'"
Yn ôl y seicolegydd plant Dr Mair Edwards, sydd hefyd yn dyst arbenigol i lysoedd teulu yng Nghymru a Lloegr, mae Cymru yn aml yn fwy gofalus pan ddaw hi i ofal plant - rhywbeth positif yn ei barn hi.
"Mae Cymru yn gyffredinol ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cymryd gwaith amddiffyn plant wirioneddol o ddifrif.
"Dwi'n gweithio weithiau ar draws y ffin yn Lloegr. Mae 'na adegau yn fanno lle mae rhywun yn dod ar draws achosion lle dylid fod wedi cymryd plant mewn i ofal yn llawer iawn cynt.
"Dwi'n gweld o'n rhywbeth positif bod yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn cymryd amddiffyn plant o ddifrif."
Ymateb y llywodraethau
Yn Lloegr, mae'r llywodraeth yn dweud bod yr Ysgrifennydd Addysg wedi bod yn glir nad yw'r system gofal cymdeithasol yn darparu gwell ansawdd byw i'r rheiny y mae wedi ei dyfeisio i'w cynorthwyo ar bob adeg.
Maen nhw hefyd wedi cychwyn adolygiad annibynnol i wasanaethau cymdeithasol plant er mwyn ceisio taclo anghysonderau ar draws y wlad.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae lleihau nifer y plant mewn gofal yng Nghymru yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru.
"Ry'n ni wedi ymrwymo i ddarparu mwy o wasanaethau i rieni y mae risg i'w plant ddod i mewn i'r system ofal, ac i archwilio ffyrdd o ddiwygio gwasanaethau i blant sydd mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021