Menter i brynu tafarn yn nesáu at ei nod wrth werthu siârs

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Mae 'na griw mawr sy'n methu Ty'n Llan'

Mae menter leol sy'n prynu tafarn yn Llandwrog ger Caernarfon wedi llwyddo i werthu dros £315,000 mewn cyfranddaliadau wrth i'w hymgyrch fynd o nerth i nerth.

Mae'r fenter eisoes wedi llwyddo i gael £350,000 mewn benthyciadau gan amryw o ffynonellau er mwyn prynu tafarn Ty'n Llan, a hynny mewn wythnos yn unig.

Ond er mwyn talu'r addewidion hynny yn ôl maen nhw'n gwerthu cyfranddaliadau yn y dafarn.

Gobaith Menter Ty'n Llan ydy gwerthu gwerth £400,000 o gyfranddaliadau, a dyma'r wythnos olaf i'w prynu.

Mae modd prynu siâr yn y fenter am £100 yr un, ond mae'r cyfle i wneud hynny yn cau am hanner nos, nos Wener, 11 Mehefin.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angharad Gwyn fod cefnogaeth wedi cyrraedd o bedwar ban byd

Mae Angharad Gwyn ar Bwyllgor Rheoli Menter Ty'n Llan.

Dywedodd: "Fel pob ardal arall ar ôl blwyddyn ddistaw ac unig heb unrhyw fath o gymdeithasu, mae 'na ysfa fawr - nid yn unig yn Llandwrog ond yn ehangach hefyd - i gael adnodd ac esgus i ni gyd ddod at ein gilydd.

"Mae pawb 'di dangos eu brwdfrydedd yn eu cefnogaeth. Mae'n rhyfeddol y gefnogaeth sydd wedi dod, a nid jyst o Landwrog a nid jyst o Wynedd.

"Mae gynnon ni gyfranddalwyr o America, yr Almaen, Ffrainc a Seland Newydd a dwi'n gobeithio y gwelwn ni fwy dros y deuddydd nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Menter Ty'n Llan ydy gwerthu gwerth £400,000 o gyfranddaliadau

Mae'r dafarn wedi bod ynghau ers dros dair blynedd, a gobaith y pentrefwyr ydy ei hailagor fel menter gymunedol.

Yn ogystal â thafarn, y gobaith ydy y gallai'r adeilad 200 mlwydd oed hefyd gael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol, caffi a siop.

Mae'r ymgyrch wedi denu cefnogaeth gan sêr fel Tudur Owen, Rhys Ifans, Hannah Daniel, Carys Eleri a Shane Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ty'n Llan ar gau ers dros dair blynedd

Mae cyfranddaliadau wedi eu gwerthu ymhell o'r ardal leol hefyd, gyda buddsoddwyr yn Ffrainc, Yr Almaen, Canada, Seland Newydd ac Awstralia, yn ogystal â ledled Cymru a gweddill y DU.

Gobaith y fenter ydy talu llog blynyddol o oddeutu 2% i fuddsoddwyr "unwaith y bydd tair blynedd lawn o fasnachu wedi'i gwblhau ac os cynhyrchir digon o elw".

Byddai unrhyw arian sy'n cael ei godi dros y £350,000 sy'n cael ei ddefnyddio i brynu'r adeilad yn mynd tuag at wneud ceisiadau am grantiau i adnewyddu'r adeilad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfle i brynu siâr yn y fenter yn cau am hanner nos, nos Wener, 11 Mehefin

Dywedodd y fenter ar eu gwefan: "Mae ein cynnig am Ty'n Llan wedi'i warantu gan addewidion am fenthyciadau tymor byr a wnaed gan gefnogwyr yn ôl ym mis Mawrth 2021.

"Fodd bynnag, bydd angen ad-dalu'r benthyciadau hynny, felly po fwyaf o gyfalaf cyfranddaliadau y gallwn ei godi rŵan, isaf fydd y benthyciad y bydd angen ei ad-dalu maes o law.

"Bydd yr arian sy'n cael ei godi trwy'r cynnig cyfranddaliadau yn cael ei ddefnyddio'n rhannol i brynu Ty'n Llan ac yn rhannol i ddarparu cyllid cyfatebol ar gyfer y grantiau yr ydym yn gobeithio eu sicrhau i gyflawni'r gwaith o ailwampio ac adnewyddu'r adeilad."

Disgrifiad o’r llun,

'Pwy sy'n prynu pub mewn pandemig?' yw'r cwestiwn yr oedd rhaid i Wyn Roberts a'r pwyllgor ei ateb

Mae Wyn Roberts hefyd ar y pwyllgor rheoli, a dywedodd bod fideos gan amryw bobl enwog wedi bod yn rhan bwysig o'r ymgyrch.

"'Da ni wedi cael dros 20 o fideos gan enwogion gan gynnwys Rhys Ifans, Tudur Owen a Shane Williams sydd wedi cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae'r enwogion wedi bod yn rhannu'r fideos ar eu cyfrifon nhw hefyd," meddai.

"Mae cyrhaeddiad y fideos wedi bod yn grêt ac mae o gyd wedi helpu tuag at yr achos.

"Mae Rhys Ifans yn un sydd wedi bod yma sawl gwaith o'r blaen... mae o wedi bod ar ei wyliau yn yr ardal felly.

"Mae'r cynnwrf yma yn y pentre' wedi bod yn wych ers y cychwyn. Pan ddaeth y dafarn ar y farchnad naethon ni gyd ddod at ein gilydd ar Zoom rhyw nos Fawrth a phawb wedi gwirioni bo' ni'n meddwl neud rhywbeth hefo'r dafarn.

"Mae pawb wedi ecseitio'n lan bod yr adnodd yma yn dod yn ôl i'r gymuned ac i'r pentre' o fewn y misoedd nesa'.

"Rhywbeth ydan ni wedi gofyn dros y misoedd diwethaf yw 'Pwy sy'n prynu pub yng nghanol pandemig?', ond mae'n fwy na pub... mae'n mynd i fod yn adnodd cymunedol, a gan fod pobl wedi cyfrannu tuag at brynu'r lle maen nhw'n fwy tebygol o ddefnyddio'r adnodd."

Pynciau cysylltiedig