Canolfan addysg awyr agored yn 'cael ein dal nôl'
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan addysg awyr agored yn galw am adolygiad barnwrol o benderfyniad "afresymol" Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar aros dros nos yno, wrth honni bod "cystadleuwyr yn Lloegr a'r Alban wedi ailagor wythnosau yn ôl".
Mae cyfreithwyr ar ran Canolfan Addysg Awyr Agored Rhos y Gwaliau ger Y Bala yng Ngwynedd wedi anfon llythyr protocol cyn gweithredu at Lywodraeth Cymru.
Mae Sara ac Ed Jones wedi rhedeg y ganolfan ers 16 mlynedd, ac wedi honni o'r blaen fod y diwydiant mewn perygl o gael ei "ddinistrio" gan gyfyngiadau Covid Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y rheolau mewn lle er mwyn "helpu i atal y feirws rhag lledaenu ac i gadw pobl yn ddiogel".
'Eisiau clywed y dystiolaeth'
Mae Mr a Ms Jones yn dweud bod canolfannau yn Lloegr wedi cael ailagor ar 17 Mai, ac ar 31 Mai yn Yr Alban.
Fodd bynnag, maent yn honni bod cyfyngiadau yng Nghymru yn parhau i fod yn llawer tynnach, gan arwain at ysgolion o bosibl yn ffafrio teithiau mewn rhannau eraill o'r DU.
Ar hyn o bryd yng Nghymru, gall hyd at dri chartref rannu llety.
Dywedodd Sara Jones: "Rydyn ni eisiau clywed y dystiolaeth dros atal aros dros nos mewn canolfannau addysg awyr agored - hyd yma nid ydym wedi derbyn unrhyw gyfiawnhad o gwbl.
"Pam ddylsen ni drin plant sydd eisoes yn gweithredu mewn swigen at ddibenion addysgol yr un peth â grŵp o oedolion sydd â dim byd yn eu cysylltu nhw?
"A sut mae swigen o blant ysgol yn rhannu ystafell gysgu yn waeth na 200 o oedolion yn crwydro y tu mewn i awyren Boeing 737?
"Dylai plant ac addysg fod yn flaenoriaeth uwch a dylid eu hystyried ar wahân i'r cyhoedd - maent yn y grŵp risg is o ran oedran ac mae achosion wedi aros yn wastad mewn ysgolion.
"Mae yna hefyd reolau llym ar waith ar deithiau preswyl plant gyda staff cymwys, profiadol ac athrawon ysgol, y mae angen eu cydnabod."
Ychwanegodd: "Mae ein cystadleuwyr ni yn Lloegr ar agor eto, tra ein bod ni'n cael ein dal yn ôl."
"Rydyn ni bellach wedi bod ar gau yn barhaus ers mis Mawrth 2020", meddai Ms Jones, "chawson ni ddim haf gwych yn 2020 fel llawer o fusnesau twristiaeth a lletygarwch.
"Rydym yn fusnes trwy gydol y flwyddyn ond, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, yr haf yw ein hamser prysuraf.
"Rydym bellach wedi colli dau haf - dau dymor brig o ran busnes - ac yn dal heb syniad pryd yr ydym yn debygol o allu ailddechrau masnachu.
"Mae'n sefyllfa hurt ac mae angen ei hadolygu ar frys."
Dywedodd Lizzie McPeake o gwmni cyfreithiol JMW: "Mae'r ganolfan yn derbyn ymholiadau gan ysgolion sy'n dymuno archebu ymweliadau cyn gwyliau'r ysgol ym mis Gorffennaf, ond ni all Sara gadarnhau dyddiadau - ac eto mae'r plant hyn eisoes yn yr un swigen; maent yn eistedd wrth ymyl ei gilydd, yn chwarae gyda'i gilydd ac yn bwyta gyda'i gilydd bob dydd.
"Mae'n hollol afresymol ac unwaith eto pobl ifanc sy'n cael eu cosbi."
'£2bn o gefnogaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gall canolfannau addysg awyr agored yng Nghymru agor ar gyfer y gweithgareddau awyr agored maen nhw'n eu cynnig.
"Mae'r rheolau yng Nghymru, sy'n berthnasol yn gyffredinol, yn atal plant ac oedolion o sawl cartref gwahanol rhag aros gyda'i gilydd dros nos.
"Mae'r rheolau hyn ar waith i helpu i atal y feirws rhag lledaenu ac i gadw pobl yn ddiogel.
"Rydym yn sylweddoli bod cyfyngiadau Covid wedi cael effaith ddifrifol ar fusnesau.
"Dyna pam rydyn ni wedi rhoi dros £2bn o gefnogaeth ar waith i fusnesau yng Nghymru, gan gynnwys cronfa o £2m sydd wedi'i hanelu'n benodol at gefnogi'r sector addysg awyr agored preswyl rhwng Mehefin a Medi 2021."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020