Cynllun i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i dre'r Bala
- Cyhoeddwyd
Ehangu Rheilffordd Llyn Tegid fydd yn cael sylw digwyddiadau yn Y Bala y penwythnos hwn gan mai'r bwriad yw ymestyn y trac i mewn i'r dref.
Ar hyn o bryd mae'r trên bach yn rhedeg o Lanuwchllyn ar hyd glan Llyn Tegid at gyrion Y Bala - taith bedair milltir a hanner.
Mae angen codi tair miliwn o bunnau i adeiladu tri chwarter milltir o drac i mewn i'r dref ei hun. Fel rhan o'r digwyddiadau mae trac trên stêm dros dro wedi ei godi ger y safle lle bwriedir codi yr orsaf newydd.
David Jones ydi rheolwr Rheilffordd Llyn Tegid a dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod yn ffyddiog y bydd modd codi dros dair miliwn o bunnau i wireddu'r cynllun.
"'De ni dal angen rhyw dri ella pedwar miliwn o bunna' arall i orffen y prosiect," meddai.
"'De ni'n chwilio am grantiau go fawr i gymryd rhan sylweddol o hynny ond hefyd yn dal i godi arian ein hunain i bwsio'r prosiect ymlaen. 'De ni'n hollol ffyddiog bod 'na gefnogaeth gref iawn yn ardal Y Bala gan gynghorwyr lleol, gan yr aelodau yn y Senedd yng Nghaerdydd a Llundain. Mae pawb tu ôl i ni a 'de ni'n mynd i wneud i hyn ddod yn wir."
Un fyddai'n croesawu gweld y trên yn cyrraedd Y Bala ydi Ria Fergus Jones sy'n cadw siop anrhegion a gemwaith yn y dre.
"Mae pobl sy'n mynd i fod yn cyrraedd y stesion yn Y Bala yn mynd i gerdded mewn i'r dref… fase fo'n lot haws iddyn nhw," meddai gan ychwanegu y byddai'r datblygiad yn hwb i siopau.
Trên stêm am y tro cyntaf ers 50 mlynedd
Fel rhan o'r digwyddiadau y penwythnos hwn mae trac trên dros dro wedi cael ei osod ger y safle lle bwriedir codi'r orsaf newydd sy'n golygu y bydd trên stêm yn rhedeg yn y dref am y tro cyntaf ers dros hanner can mlynedd.
Dywed y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd, bod yna gefnogaeth eang i'r cynllun i ehangu trac y trên dri chwarter milltir i mewn i'r Bala.
"Mae'n ymddangos i mi bod yna gefnogaeth lwyr i'r cynllun yma a mae o'n gyffrous, mae o'n mynd i olygu newid mawr a dweud y gwir i batrwm ôl troed twristiaeth yn yr ardal a 'de ni'n edrych ymlaen i weld y trên stêm cynta' yn ôl yma ers 56 o flynyddoedd.
"Mae o'n golygu llawer i'r gymuned a'r gymuned yn ehangach hefyd... nid yn unig ym Mhenllyn ond trwy Wynedd gyfan'.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2017