Newid y Pro14 i'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig

  • Cyhoeddwyd
United Rugby ChampionshipFfynhonnell y llun, Pro14

Mae'r Pro14 yn cael ei ailenwi'n Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) pan fydd timau Super Rugby De Affrica'n ymuno â'r gystadleuaeth yn 2021-22.

Bydd y Sharks, Stormers, Lions a'r Bulls yn chwarae gyda'r 12 tîm o Gymru, Iwerddon, Yr Alban a'r Eidal sydd eisoes yn y gystadleuaeth.

Bydd yna un adran ac un tabl un unig, a gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Bydd y tymor newydd yn dechrau ddiwedd Medi, gyda phob tîm yn chwarae 18 o gemau, a bydd yna rownd derfynol yng nghanol Mehefin.

Ffynhonnell y llun, Pro14
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr 16 tîm yn cael eu rhannu i bedwar grŵp rhanbarthol

Bydd yna bedwar grŵp rhanbarthol o bedwar tîm yr un, sy'n golygu y bydd y Scarlets, y Dreigiau, y Gleision a'r Gweilch yn y grŵp Cymreig.

Bydd yna grwpiau penodol hefyd ar gyfer y timau o Iwerddon a De Affrica, sydd hefyd â phedwar o dimau yn y gystadleuaeth.

Yr Alban a'r Eidal, sydd â dau dîm yr un, fydd yn ffurfio'r grŵp olaf.

Bydd y drefn yma'n sicrhau bod gornestau lleol yn parhau i ddigwydd a bydd y timau'n wynebu ei gilydd o leiaf unwaith bob tymor.

Fe fydd pob tîm yn chwarae gartref ac oddi cartref yn erbyn timau eraill y grŵp rhanbarthol, ac yna 12 o gemau yn erbyn gweddill timau'r gynghrair.

Fe fydd pob tîm o hemisffer y gogledd yn chwarae dwy gêm yn Ne Affrica bob tymor.

'Dim bwriad newid fformat eto'

Y nod yw cael fformat mwy cyfarwydd ble mae mwy o dimau â siawns o ddod i'r brig.

Y timau yn yr wyth safle uchaf fydd yn chwarae yn y gemau ail gyfle, gyda rowndiau wyth olaf, cynderfynol a therfynol.

Bydd y twrnamaint yn cael ei gynnal am o leiaf bum mlynedd ac mae rheolwyr yn dweud nad oes bwriad newid y fformat eto.

Yn sgil ychwanegu clybiau elît o hemisffer y de i'r gystadleuaeth, dywed rheolwyr mai dyma oedd yr adeg gywir i newid yr enw, gan gydnabod bod cynnwys niferoedd yn yr enwau blaenorol "heb weithio cystal".