Brexit: 'Cymru ar ei cholled er gwaethaf addewid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ArwyddFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwyafrif yr arian a ddaw o'r UE i Gymru yn dod i ben y flwyddyn nesaf

Dydy'r arian sy'n cymryd lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd ddim yn cyflawni ei addewid o sicrhau nad ydy Cymru ar ei cholled yn ariannol o ganlyniad i Brexit, yn ôl Gweinidog yr Economi.

Mae Vaughan Gething wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o roi llai o lais a llai o arian i Gymru.

Roedd Cymru yn derbyn £375m y flwyddyn gan yr UE, a dyw hi ddim yn glir eto sut fydd y gronfa sy'n cymryd ei lle yn gweithredu.

Mae gweinidogion y DU wedi dweud yn y gorffennol y bydd Cymru yn derbyn o leiaf yr un faint o arian o'r gronfa fydd yn cymryd lle cyllid yr UE.

'Ymosodiad bwriadol ar ddatganoli'

Mae gweinidogion Cymru hefyd wedi beirniadu "cronfa lefelu i fyny" £4.8bn Llywodraeth y DU, gan ddweud mai dim ond £10m y flwyddyn fydd yn dod i Gymru.

Yn wahanol i arian yr UE, nid Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut i wario'r arian - yn hytrach mae'n rhaid i gynghorau wneud cais am gyllid.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi rhoi pwerau i'w hun i wario arian ar faterion sydd wedi cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Gething wrth y Senedd ddydd Mawrth bod Llywodraeth y DU yn "gyrru neges glir iawn i Gymru 'Fe gewch chi'r hyn rydyn ni'n ei roi i chi'".

Ychwanegodd ei fod yn "ymosodiad bwriadol ar ddatganoli i Gymru".

"Fel mae'n sefyll, bydd gan Gymru lai o lais dros lai o arian," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod Llywodraeth y DU yn "gyrru neges glir iawn i Gymru 'Fe gewch chi'r hyn rydyn ni'n ei roi i chi'"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod ganddyn nhw "gyfrifoldebau i bobl, busnesau a chymunedau ledled y DU".

"Mae hi felly yn gywir ein bod yn gwneud penderfyniadau ar fuddsoddiadau strategol ar draws y DU, gyda rôl gref ar gyfer partneriaid lleol," meddai.

"Nid Llywodraeth Cymru yn unig sy'n gwybod y ffordd orau i wario arian, a dyna pam rydyn ni'n bwriadu gweithio gyda chynghorau, busnesau ac eraill - yn ogystal â'r gweinyddiaethau datganoledig - er mwyn sicrhau bod nawdd yn cael ei ddarparu yn y ffordd orau i gefnogi eu blaenoriaethau nhw.

"Yn y dyfodol bydd Cymru yn derbyn o leiaf yr un faint o arian â'r hyn yr oedd yn ei dderbyn o gronfeydd strwythurol yr UE."