Ffrae ASau dros bwy sy'n rheoli arian 'lefelu i fyny'
- Cyhoeddwyd
Mae AS Ceidwadol wedi cyhuddo Llafur Cymru o fod eisiau "atal gweinidogion y DU rhag gwario arian ar brosiectau yng Nghymru.
Ddydd Mercher, cyhoeddodd y Trysorlys y byddai'n rheoli cronfa "lefelu i fyny" ar gyfer Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Lloegr.
Mewn ymateb fe gyhuddodd Llywodraeth Cymru'r Trysorlys o danseilio datganoli.
Dywedodd yr AS Ceidwadol Stephen Crabb ei fod yn ofni bod Llafur Cymru wedi "bwrw'u coelbren gyda'r cenedlaetholwyr".
Dywed Llywodraeth y DU mai nod ei hagenda lefelu i fyny yw lleihau anghydraddoldebau o fewn y DU.
Yn sgil £4bn a gyhoeddwyd y llynedd ar gyfer Lloegr, cafodd £800m yn rhagor ei neilltuo ar gyfer Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yr wythnos hon, fodd bynnag, dywedodd y Trysorlys y byddai'n rheoli'r gronfa ar ran pedair gwlad y DU yn hytrach na rhoi'r arian ychwanegol i'r gweinyddiaethau datganoledig.
Mae datganiad ar y cyd gan ddau o weinidogion Llywodraeth Cymru'n honni y byddai'r polisi newydd yn golygu "prin fwy na £50m bob blwyddyn ar gyfer prosiectau Cymreig". Mae hefyd yn cyhuddo'r llywodraeth Geidwadol o "record ofnadwy o ran rhoi cyfran deg i Gymru o wariant y DU".
Roedd y datganiad yn ymateb i sylwadau Mr Crabb, AS Preseli Penfro a chyn Ysgrifennydd Cymru, yn ystod dadl Gŵyl Dewi yn San Steffan.
Dywedodd bod yna "werth clir" bod yn rhan o strategaeth y DU i sicrhau cyflenwadau brechlynnau Covid, a bod Llywodraeth y DU wedi rhoi "biliynau o bunnau o gefnogaeth ychwanegol i Gymru".
Ychwanegodd: "Roedd hynny ond yn bosib oherwydd yng nghalon y Deyrnas unedig mae yna undeb cyllidol grymus, ailddosrannol.
"Er hyn oll, mae ymgais pendant ar droed i ddefnyddio'r pandemig i wanhau clymau ein Teyrnas Unedig."
"Ble yn union mae Llafur Cymru'n sefyll pan ddaw i'r undeb? Roedd yna gyfnod pan roedd Llafur Cymru'n gryf o ran undeboliaeth.
"Ond pan rwy'n clywed gwleidyddion Llafur Cymru'n bychanu a dibrisio ymdrechion y Deyrnas Unedig, pan rwy'n eu clywed eisiau atal Llywodraeth y DU rhag gwario arian ar brosiectau yng Nghymru, pan rwy'n eu clywed yn cynyddu'r rhethreg yn sinigaidd ynghylch y ffin rhwng Lloegr a Chymru, a phan rwy'n eu clywed yn beirniadu a bwrw amheuaeth dros ymweliadau prif weinidog y DU â Chymru - rwy'n ofni eu bod wedi cefnu ar yr undeb a bwrw'u coelbren gyda'r cenedlaetholwyr."
Fe wnaeth cyn Ysgrifennydd Cymru arall, Alun Cairns, ganmol y cyhoeddiad mai gweinidogion y DU fydd yn penderfynu sut mae gwario'r gronfa lefelu i ar rai prosiectau adfywio yng Nghymru.
Dywedodd AS Bro Morgannwg: "Cryfder yr undeb yw cefnogi ardaloedd sydd wedi eu gadael ar eu hôl.
"Yn fy etholaeth i, mae taer angen gorsaf reilffordd yn Sain Tathan a marina yn Y Barri fel rhan o fy nghynlluniau ac uchelgeisiau adfywio.
"Tan nawr doedd dim modd i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy - rwy'n dweud wrth yr Ysgrifennydd Gwladol rwy' eisiau i'r ddau brosiect yma fod ar frig ei restr gwariant."
Mae ASau'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r cyhoeddiad.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Mae awgrym y gall San Steffan, ar ben i hun, ddatrys anghyfartaleddau rhanbarthol yn wleidyddiaeth ffantasi.
"San Steffan sydd wedi goddef, hwyluso ac, ar adegau, trefnu creadigaeth anghyfartaleddau systematig a strwythurol sydd ymhlith y gwaethaf o fewn gwlad ddatblygedig gymaradwy."
Ychwanegodd: "Trwy'r gronfa lefelu i fyny, mae San Steffan yn goruwchreoli Cymru, gan ddieithrio ein democratiaeth a gorchymyn ein dyfodol.
Ddydd Mercher, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart "nad gwleidyddion a grym" oedd wrth wraidd y gronfa lefelu i fyny, ond "swyddi, bywoliaethau ac adfer wedi Covid".
Dywedodd: "Hoffwn pe byddai Llywodraeth Cymru'n stopio poeni am eu statws bach eu hunain yng Nghaerdydd ac edrych ar y darlun ehangach."
'Gosod cenhedloedd a rhanbarthoedd yn erbyn ei gilydd'
Mewn ymateb ddydd Iau, dywedodd Ms Saville Roberts: "Mae sylwadau'r ysgrifennydd gwladol neithiwr y dyliwn ni stopio poeni am yr hyn alwodd ein statws bach yn anwybyddu ei bwysigrwydd yntau wrth fwrdd y cabinet, neu'r ffaith bydd Cymru'n colli un o bob pump o'i chynrychiolwyr yn San Steffan yn y Senedd nesaf."
"Dylai penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru gan lywodraeth sy'n atebol i bobl Cymru."
Yn y cyfamser, dywedodd AS Llafur Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin bod "ymgais [Llywodraeth y DU] i reoli cronfa lefelu i fyny Cymru yn sathru ar ddatganoli, yn gosod cenhedloedd a rhanbarthau yn erbyn ei gilydd".
Ychwanegodd: "Mae ein llywodraeth Lafur Cymru'n parhau i roi'r pecynau cefnogaeth mwyaf hael i fusnesau ac yn ariannu prydau ysgol am ddim yn llawn tan Pasg 2022."
Record gwariant 'ofnadwy'
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd dau o weinidogion Cymru, Jeremy Miles a Rebecca Evans y bydd cyhoeddiad y Trysorlys ddydd Mercher "mwyaf tebyg yn cynrychioli prin yn fwy na £50m bob blwyddyn ar gyfer prosiectau Cymreig - ffracsiwn o'r cyllid rydym wedi'i golli o ganlyniad colli mynediad i Gronfeydd Strwythurol [yr UE].
"Ar ben hynny, mewn cyferbyniad i'r 'ffordd arferol' o ddosbarthu arian fformiwla Barnett, dyw dim o'r arian hwn wedi ei glustnodi i Gymru."
Mae'r gweinidogion Llafur yn cyhuddo llywodraeth Geidwadol y DU o "record ofnadwy o ran rhoi hyd yn oed cyfran deg i Gymru o wariant y DU, heb sôn am y math o ariannu sydd angen i 'lefelu i fyny'".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021