Rheoli gwariant Cymru yn ymgais i 'danseilio democratiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Trysorlys wedi cyhoeddi y bydd cronfa gwerth £4.8bn bellach yn cael ei rhannu ledled y DU yn hytrach nag yn Lloegr yn unig, gan olygu mai gweinidogion San Steffan fydd yn rheoli'r gwariant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y datblygiad yn "tanseilio" datganoli.
Bydd y Gronfa Lefelu i Fyny yn cael ei buddsoddi mewn prosiectau lleol fel adfywio a thrafnidiaeth.
Cyhoeddwyd y gronfa gyntaf yn Adolygiad Gwariant y llynedd fel cronfa gwerth £4bn i Loegr a fyddai'n arwain at gyllid ychwanegol o £800m i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon "yn y ffordd arferol".
Dan system Fformiwla Barnett, os ydy Llywodraeth y DU yn gwario arian yn Lloegr ar faterion sydd wedi eu datganoli, mae'r llywodraethau datganoledig yn derbyn arian cyfatebol i'w wario fel maen nhw'n dymuno.
Ond mae'r Trysorlys bellach wedi cadarnhau bod y gronfa i'r DU gyfan, ac y byddan nhw'n rheoli'r buddsoddiad yn y cenhedloedd datganoledig.
'Ymgais i danseilio democratiaeth'
Yn Neddf Marchnad Fewnol y DU a basiwyd y llynedd, rhoddwyd pwerau gwario newydd i Lywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, megis pwerau gwario ar seilwaith a chyfleusterau diwylliannol ac addysgol.
Roedd pryderon am "ddadwneud datganoli" gan wleidyddion yng Nghymru ar y pryd.
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Stephen Barclay, y byddai cymunedau yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn elwa o "o leiaf £800m" o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU ar gyfer prosiectau adfywio canol tref a stryd fawr, trafnidiaeth leol, diwylliannol a threftadaeth.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Nid arian newydd nac ychwanegol ydy hwn.
"Dyma Lywodraeth y DU yn tanseilio canlyniad dau refferendwm aeth o blaid datganoli i Gymru.
"Ni chafodd Llywodraeth y DU ei hethol er mwyn gwneud penderfyniadau neu wario arian mewn meysydd sydd wedi'i ddatganoli i Gymru.
"Mae hefyd yn enghraifft o'r ddeddfwriaeth Marchnad Fewnol - sy'n mynd yn erbyn y cyfansoddiad ac a gafodd ei wrthod gan y Senedd - yn cael ei ddefnyddio i atal penderfyniadau am Gymru rhag cael eu gwneud yng Nghymru."
Dadansoddiad Elliw Gwawr, gohebydd seneddol
Mae Boris Johnson a'i lywodraeth yn gwybod na allen nhw gymryd y Deyrnas Unedig yn ganiatol bellach, ac mae 'na ymgais glir ar hyn o bryd i werthu budd yr Undeb ar bob cyfle posib.
Dyna'r cyd-destun y tu ôl i'r penderfyniad yma i reoli gwariant o San Steffan yn hytrach na rhoi'r arian i Lywodraeth Cymru, fel yw'r drefn arferol.
Ond mae'r penderfyniad wedi cael ei feirniadu yn chwyrn, ac yn cael ei weld fel ymgais i danseilio datganoli, gan y bydden nhw am y tro cyntaf yn gwario ar feysydd fel trafnidiaeth, treftadaeth ac adfywio trefol, meysydd sydd i fod dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, fod y gronfa'n cynrychioli "buddsoddiad sylweddol yng Nghymru ac yn dyst i'n penderfyniad i lefelu i fyny'r DU gyfan".
Ond dywedodd AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts bod gan y gronfa "ddim i'w wneud" gyda gwella'r wlad, ond ei fod yn ymgais i "danseilio democratiaeth Cymru a blaenoriaethau ein gwlad".
"Mae ein cymunedau yn galw am fuddsoddiad. Ond gydag etholiad ar y gweill, mae'n glir na fydd y buddsoddiad Torïaidd yma'n cael ei roi i wella anghenion hirdymor Cymru ond y bydd yn mynd yn ôl blaenoriaethau gwleidyddol," meddai.
"Ni ddylai Boris Johnson a'i griw yn San Steffan gael unrhyw ran mewn penderfynu pa gynlluniau sy'n derbyn arian."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020