Ymchwiliad heddlu wedi i ddyn farw ar ôl 'ymosodiad'

  • Cyhoeddwyd
Llys Clwyd, LlanelwyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Lys Clwyd tua 17:00 brynhawn Mercher

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n cynnal ymchwiliad wedi i ddyn farw yn dilyn digwyddiad yn Llanelwy, Sir Ddinbych brynhawn Mercher.

Derbyniodd y llu adroddiad ychydig cyn 17:00 bod ymosodiad wedi digwydd tu allan i eiddo yn Llys Clwyd.

Mae dyn yn ei 50au yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd ynghylch y dyn a fu farw.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'n dyn ar yr adeg anodd yma," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Emma Naughton.

"Rydym yn fodlon bod hwn yn ddigwyddiad ynysig ond rydym yn apelio ar unrhyw un all wedi bod yn ardal Llys Clwyd brynhawn ddoe ac a all fod wedi gweld y digwyddiad i gysylltu â ni yn syth."

Mae modd gwneud hynny ar-lein neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 21000421960.

Pynciau cysylltiedig