Arestio dyn ar ôl i fenyw, 79, gael ei lladd gan seiclwr

  • Cyhoeddwyd
Jane StoneFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jane Stone o'i hanafiadau ar 11 Mehefin

Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio ar ôl i fenyw oedrannus ddioddef anafiadau angheuol wedi iddi gael ei tharo gan seiclwr yn Nhrefynwy.

Cafodd Jane Stone, dynes 79 oed o'r ardal, ei chymryd i'r ysbyty ar ôl cael ei tharo tra'n cerdded wrth gyffordd Heol Wonastow a Heol Gwlad-yr-Haf tua 21:55 ddydd Llun, 7 Mehefin.

Bu farw'n ddiweddarach o'i hanafiadau ar 11 Mehefin.

Cafodd dyn 28 oed o Drefynwy ei arestio ddydd Iau ar amheuaeth o ddynladdiad ac achosi niwed corfforol trwy yrru gorffwyll.

Mae bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad wrth i Heddlu Gwent wneud ymholiadau pellach.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar 7 Mehefin

Pynciau cysylltiedig