Rhybudd heddlu am ymddygiad 'gwirion' yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dirwy i ddau "dwpsyn" am dynnu selfies o gar yn Eryri

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio yn erbyn ymddygiad "gwirion" wrth ryddhau lluniau o ddau yn tynnu selfies o gar oedd yn gyrru yn Eryri.

Doedd gan y ddau ddim syniad bod y beic modur oedd o'u blaenau ar y lôn yn un o rai'r heddlu.

Ond ar ôl i'r swyddog stopio'u car yn Eryri, cawsant ddirwyon a rhybudd chwyrn am eu hymddygiad.

Disgrifiodd yr heddlu'r digwyddiad fel "esiampl berffaith o ymddygiad gwirion".

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Roedd yr heddwas beic modur yn cymryd rhan yn Ymgyrch Darwen, ymgyrch flynyddol gan heddluoedd Cymru gyfan i godi ymwybyddiaeth diogelwch ymhlith beicwyr modur.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd esgus y ddau dros eu hymddygiad oedd eu bod yn tynnu lluniau i'w rhoi ar Snapchat.

Pynciau cysylltiedig