'Cymerwch y cyfle' i atal Cymru rhag colli graddedigion

  • Cyhoeddwyd
GraddedigionFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hyn sy'n cael ei alw'n 'brain drain' yn broblem ers sbel yng Nghymru

Mae ymgyrchydd wedi galw am wneud mwy i annog graddedigion i aros yng Nghymru wedi iddyn nhw adael y brifysgol, er mwyn osgoi colli'r talent gorau.

Daw hynny wedi i Mark Drakeford ddatgan mai sicrhau bod Cymru'n wlad ble gall raddedigion aros a chael gyrfaoedd llwyddiannus yw un o flaenoriaethau ei dymor olaf fel Prif Weinidog.

Ond yn ôl un o sylfaenwyr rhwydwaith sy'n hybu cyfleoedd i raddedigion yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n gyson i fynd i'r afael â diffyg cyfleoedd ar eu cyfer.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am sicrhau fod pobl ifanc yn gallu "byw, astudio a gweithio yng Nghymru".

'Cyfle gwirioneddol'

Yn ôl Theo Davies-Lewis o rwydwaith Darogan Talent, dydy llywodraethau yng Nghymru ddim wedi bod "mor proactive ag y gallen nhw fod" yn y maes hyd yma.

"Nawr rydym ar bwynt arbennig yn y pandemig ac mae yna gyfle gwirioneddol, fel o fewn sawl sector, i'w reoli," meddai wrth raglen BBC Politics Wales.

"Dyna mae angen i ni wneud, a dyna beth ddylai'r prif weinidog ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd nesaf."

Ffynhonnell y llun, FAMILY PHOTO
Disgrifiad o’r llun,

O Brifysgol Rhydychen y graddiodd Theo Davies-Lewis ond mae'n awyddus i gadw talent yng Nghymru

Yn ôl gwybodaeth ddiweddaraf yr asiantaeth ystadegau addysg uwch, HESA mar graddedigion prifysgolion Cymru 6% yn fwy tebygol o ennill llai na £21,000 y flwyddyn.

Maen nhw hefyd 6% yn llai tebygol o ennill dros £30,000 na graddedigion prifysgolion Lloegr.

Daeth adroddiad gan y felin drafod Resolution Foundation yn 2017 i'r casgliad bod 40.6% o raddedigion Cymru oedd yn gweithio yng Nghymru mewn swyddi nad oedd angen gradd.

Ond yn ôl cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Leigh Hughes mae'r sefyllfa'n gwella'n raddol.

"Yr hyn mae'n rhaid i ni wneud yw gwrando ar raddedigion,"meddai, "gwrando ar fyfyrwyr, gofyn iddyn nhw am be maen nhw'n chwilio, a beth yw eu cyfleoedd o ran gyrfa a ffordd o fyw.

Yr hyn rydym wedi gweld yn ddiweddar yw ein bod yn dechrau denu pobl i Gymru sydd wedi graddio mewn llefydd eraill."

Mae Robyn Trubey, o Abertawe, wedi graddio'n ddiweddar ac yn symud i Lundain yr haf yma i ddechrau ei swydd gyntaf.

"Does dim llawer o gyfle i fynd yn eich blaen, i fod yn llwyddiannus yn Abertawe," meddai.

"Mae gofyn i chi fod yn lwcus... mae'n gallu bod yn anodd heb gefnogaeth neu os oes gan eich rhieni fenter allwch chi ymuno ag e."

"Mewn deng mlynedd, mwya' tebyg, fe fydda' i'n ddiolchgar fy mod wedi mynd amdani oherwydd fe fydd fy nghyflog yn uwch o lawer nag y byddai yn Abertawe."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod mwy o fyfyrwyr yn dod i astudio yng Nghymru nag sy'n gadael i fynd i rannau eraill o Brydain.

"Rydyn ni eisiau parhau i ddenu graddedigion disglair i barhau gyda'u hastudiaethau yma, ac felly wedi cyflwyno cynllun bwrsariaeth yn benodol ar gyfer myfyrwyr cwrs Meistr yng Nghymru mewn pynciau STEMM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth) neu drwy'r Gymraeg, yn ogystal â phecyn ariannol hael ar gyfer astudiaethau ôl-radd," meddai.

Gallwch weld mwy ar y stori hon ar raglen BBC Politics Wales ddydd Sul, 20 June am 10:00 ar BBC One Wales, neu ar BBC iPlayer.

Pynciau cysylltiedig