'Cwtogi ffioedd yn peryglu dyfodol prifysgolion'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
myfyrwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffioedd dysgu prifysgolion wedi cael cryn sylw yn ystod ymgyrchoedd etholiad Senedd Cymru

Mae addewidion etholiadol i dorri ffioedd dysgu yn codi cwestiynau sylfaenol am ddyfodol ariannol prifysgolion yn ôl cyn is-ganghellor.

Mae rhai pleidiau gwleidyddol yn dweud y bydden nhw'n gostwng cost cyrsiau i fyfyrwyr sy'n aros yng Nghymru ac yn astudio pynciau penodol.

Yn ôl yr Athro Syr Deian Hopkin, fe allai fod yn "ansefydlog" i sefydliadau sydd yn wynebu "argyfwng" ariannol yn sgil y pandemig.

Dywedodd myfyrwyr eu bod yn croesawu trafodaeth am ostwng ffioedd.

Mae Rhydian Cleaver, 21, o Abertawe yn fyfyriwr gwleidyddiaeth yn ei flwyddyn olaf yn y London School of Economics.

Dywedodd bod lefel ffioedd yn flaenoriaeth ond roedd hefyd am sicrhau ei fod yn gwneud cwrs oedd yn caniatáu iddo gael y swydd orau posib.

Disgrifiad o’r llun,

'Rhaid meddwl am lawer o bethau wrth ddewis cwrs,' medd Rhydain Cleaver

"Pan chi'n penderfynu pa gwrs chi'n mynd i astudio, ma' lot o bethau chi'n mynd i feddwl am," meddai.

"Un o'r pethau mwyaf i fi, fel myfyriwr incwm isel oedd cael cwrs o'dd yn rhoi'r cyfleoedd gorau.

"Os chi'n gweld bod rhai cyrsiau yng Nghymru - ddim â'r ansawdd yna chi'n gallu cael mewn prifysgolion eraill - mae'n rhoi chi mewn sefyllfa galed."

Mae ffioedd dysgu wedi bod yn bwnc llosg gwleidyddol dros y blynyddoedd ac mae cost addysg uwch dan y chwyddwydr unwaith eto yn sgil yr hyn sydd wedi cael ei ddarparu gan brifysgolion yn ystod y pandemig

Mae Rhydian yn credu y dylai myfyrwyr gael "rhyw fath o iawndal" ar ôl i ran helaeth yr addysgu symud ar-lein, ond hyd yma mae llywodraethau Prydain a Chymru wedi gwrthod y ddadl dros ad-dalu ffioedd.

Ffynhonnell y llun, Deian Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Athro Deian Hopkin bod nifer o brifysgolion yn wynebu argyfwng oherwydd problemau ariannol

Mae myfyrwyr prifysgolion Cymru yn talu hyd at £9,000 y flwyddyn a hyd at £9,250 os yn astudio yn Lloegr, ond mae'r rhan fwyaf yn benthyg yr arian ac yn talu nôl yn raddol pan mae eu hincwm wedi cyrraedd lefel benodol ar ôl graddio.

Yn ôl Deian Hopkin, sydd yn ymgynghorydd addysg ac yn aelod o Gomisiwn Addysg Uwch San Steffan, does na ddim tystiolaeth bod lefel ffioedd yn cael effaith ar barodrwydd myfyrwyr i fynd i'r brifysgol.

Dywedodd bod prifysgolion "mewn argyfwng" oherwydd bod y sefyllfa ariannol wedi dirywio yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ychwanegodd y byddai unrhyw bolisi fyddai'n tanseilio eu cyllid yn "amhoblogaidd iawn" wrth i brifysgolion chwilio am "gysondeb a sicrwydd" ar ôl benthyca "arian mawr" er mwyn darparu ar gyfer myfyrwyr a chystadlu yn erbyn ei gilydd.

"Mae'r cyllid yn mynd i fod yn hanfodol bwysig, a chofio cyn lleied o arian nawr sy'n dod o fyfyrwyr tramor - ry'n ni wedi tynnu allan o Ewrop, ni wedi colli rheini hefyd - felly mae'n rhaid i brifysgolion edrych yn ofalus iawn ar sut maen nhw'n rhedeg eu busnes," meddai.

"Wrth gwrs mae pawb eisiau talu llai ond mae'n rhaid edrych ar beth yw effaith gostwng ffioedd - mae rhywbeth yn mynd i gael ei golli."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elain Gwynedd wastad â'i bryd ar fynd i Brifysgol Aberystwyth

Mae Elain Gwynedd o Ynys Môn yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Cymraeg.

Dywedodd y byddai gostwng ffioedd dysgu yn atyniadol.

"Tase'r ffioedd yn cael eu gostwng tase chi'n aros yng Nghymru yn beth da oherwydd bydde fe'n denu nifer o fyfyrwyr i aros yng Nghymru. Ond ar yr un pryd, yn bersonol, dwi'n cofio'r teimlad yna o fod ishe mynd neu ddewis prifysgol a bod ishe mynd i'r brifysgol hynny.

"Hyd yn oed os fydda rhywun wedi cynnig bo fi'n mynd i brifysgol arall yng Nghymru neu'n Lloegr a bod e'n rhatach, byddwn i dal fod wedi ishe dod i Aberystwyth."

Barn y pleidiau

Yn etholiad Senedd Cymru, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y bydden nhw'n cyflwyno cynllun iawndal i fyfyrwyr os oes na darfu wedi bod i'w cyrsiau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ond y tu hwnt i'r pandemig, mae nhw hefyd yn dweud y bydden nhw'n haneru ffioedd dysgu i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ac ieithoedd tramor modern ym mhrifysgolion Cymru, ac yn ad-dalu ffioedd dysgu i'r rhai sy'n dewis gweithio am o leiaf bum mlynedd yng Nghymru fel meddygon, nyrsys neu athrawon ar ôl eu hastudiaethau.

Addewid Plaid Cymru yw gostwng uchafswm ffioedd i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru ac sy'n astudio ym mhrifysgolion Cymru i £7,500 - fel cam tuag at y nod hir dymor o wneud addysg prifysgol yn rhad ac am ddim.

Dydy Llafur na'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn cynnig torri ffioedd dysgu ond dywedodd Llafur Cymru y byddai'n parhau i adolygu'r system cyllid myfyrwyr.

Mae'n dweud bod gan Gymru y drefn fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n seiliedig ar dystiolaeth mai costau byw oedd y rhwystr mwyaf i bobl ifanc fynd i'r brifysgol.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol bod yna berygl y gallai cynlluniau i leihau ffioedd dysgu olygu tanariannu prifysgolion.

Maent yn dweud hefyd bod system sy'n seiliedig ar gymorth at gostau byw a gafodd ei gyflwyno gan Weinidog y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams, wedi gweld y niferoedd uchaf erioed o ddisgyblion difreintiedig yn gwneud cais i brifysgol.

'Angen trafodaeth'

Mae Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, Becky Ricketts yn croesawu trafodaeth am ffioedd yn yr etholiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Mae goblygiadau i ostwng ffioedd myfyrwyr,' medd yr Athro Deian Hopkin

"Mae'r ffordd rydyn ni'n ariannu addysg yn gwbl anghynaliadwy," meddai.

"Does dim rheswm pam na all Cymru arwain ar hyn, pam na all Cymru sefyll lan a chael trafodaeth am ffioedd dysgu ac am farchnateiddio ein system addysg."

Ond cytunodd y byddai angen hefyd trafod sut i gynnal incwm sefydliadau addysg uwch.

"Mae'n rhaid cael trafodaeth ynghylch sicrhau nad yw prifysgolion ar eu colled - gan sicrhau eu bod yn gallu cynnig y cyrsiau hynny, cynnig y graddau hynny i fyfyrwyr".

Beth mae'r pleidiau yn ei addo?

Dewiswch bwnc a phlaid i weld eu polisïau

Covid-19

Yn cynnwys mesurau cyfyngu yn y dyfodol a chyflwyno brechlynnau

Economi

Yn cynnwys buddsoddiadau seilwaith, trethi busnes a chefnogaeth i ddiwydiant

Addysg

Yn cynnwys cyllid ysgolion a phrifysgolion, cyflogau, profion ac arolygu ysgolion a ffioedd dysgu prifysgol.

Iechyd a gofal

Yn cynnwys ysbytai, meddygon teulu, deintyddion, cyllid, staffio, amseroedd aros, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.

Perthynas â'r UE

Yn cynnwys masnach a'n perthynas ag Ewrop yn y dyfodol

Amgylchedd

Yn cynnwys newid hinsawdd, targedau allyriadau, ynni adnewyddadwy, defnyddio plastig, ailgylchu, effeithlonrwydd ynni a llygredd aer.

Gwaith a budd-daliadau

Yn cynnwys gofal plant, mynd i'r afael â thlodi a budd-dal y Dreth Gyngor.

Tai

Yn cynnwys adeiladu tai, perchentyaeth, tai cymdeithasol, digartrefedd a hawliau tenantiaid.

Trafnidiaeth

Yn cynnwys perchnogaeth a masnachfreinio rheilffyrdd, gwasanaethau bysiau, ac uwchraddio ffyrdd.

Democratiaeth

Yn cynnwys dyfodol datganoli yng Nghymru.

Llafur Cymru party logo

Llafur Cymru

Arweinydd

Mark Drakeford

Mark Drakeford eicon

Polisïau allweddol

  • Gwarant newydd i bobl ifanc i gael lle mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, gan gynnwys creu 125,000 o brentisiaethau newydd
  • Gwarantu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i holl staff gofal cymdeithasol, a chadw'r cap ar ffioedd gofal dibreswyl a chynnal y terfyn cyfalaf o £50,000
  • Buddsoddi £800m mewn trenau newydd, gan sicrhau erbyn 2023, y bydd 95% o siwrneiau ar ein rhwydwaith trenau ar drenau newydd

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Parhau i weithio gyda staff y GIG, y lluoedd arfog a gwirfoddolwyr i gael pobl wedi'u brechu
  • Mwy o gefnogaeth i weithwyr a busnesau yng Nghymru gyda'r hyn sy'n cael ei alw y cymorth ariannol mwyaf hael yn y DU
  • Lansio rhaglen gymorth dal-i-fyny ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cyflogi dros 1800 o diwtoriaid ychwanegol mewn ysgolion ac ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru

Economi

Economi eicon
  • Parhau â'r gwyliau ardrethi busnes i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am 12 mis arall, sy'n golygu, gyda'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, y bydd dros 70,000 o fusnesau yn talu dim ardrethi o gwbl yn 2021-22
  • Sefydlu gwarant newydd i bobl ifanc i gael lle mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru, gan gynnwys creu 125,000 o brentisiaethau newydd

Addysg

Addysg eicon
  • Cwricwlwm newydd i Gymru i ddechrau yn 2022, sy'n canolbwyntio ar safonau llythrennedd a rhifedd uwch, sicrhau bod ein pobl ifanc yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, a chefnogi iechyd meddwl ac emosiynol disgyblion
  • Parhau i ddiogelu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg
  • Cefnogaeth i deuluoedd i ysgwyddo costau gwisg ysgol ac offer, a gwarantu prydau ysgol am ddim drwy gydol y gwyliau yn ystod y pandemig

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Parhau i ddiogelu presgripsiynau am ddim a pharcio am ddim mewn ysbytai
  • Gwarantu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i holl staff gofal cymdeithasol, a chadw'r cap ar ffioedd gofal dibreswyl a chynnal y terfyn cyfalaf o £50,000

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Pwysleisio pwysigrwydd ein cysylltiadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol gyda'r UE, gan alluogi busnesau i fasnachu nwyddau o Gymru ar draws Ewrop
  • Parhau i weithredu'r Strategaeth Ryngwladol sy'n ceisio codi proffil Cymru, tyfu'r economi a sefydlu Cymru fel cenedl gyfrifol ar lefel fyd-eang

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Creu swyddi ar draws Cymru gydag ynni gwyrdd, dulliau diogelu'r amgylchedd a thwristiaeth
  • Gwahardd y defnydd o'r plastigau untro sy'n cael eu gadael fwyaf fel sbwriel, gan ddiogelu'r moroedd a chefn gwlad
  • Creu Coedwig Genedlaethol i Gymru, er lles cydraddoldeb ac iechyd meddwl yn ogystal â'r amgylchedd

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Troi'r dull partneriaeth gymdeithasol yn gyfraith, a gwneud Cymru yn Wlad o Waith Teg go iawn
  • Parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi teuluoedd yng Nghymru mewn meysydd y mae'n gyfrifol amdanynt a chael gwared ar y toriadau arfaethedig i Gredyd Cynhwysol

Tai

Tai eicon
  • Adeiladu miloedd o dai fforddiadwy, carbon isel, newydd i'w rhentu, ac yn sgil hynny, creu miloedd o swyddi newydd

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Darparu system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy o ansawdd uchel i Gymru
  • Cadw masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau mewn perchnogaeth gyhoeddus
  • Buddsoddi £800m mewn trenau newydd, gan sicrhau erbyn 2023, y bydd 95% o siwrneiau ar ein rhwydwaith trenau ar drenau newydd
  • Ail-reoleiddio'r rhwydwaith bysiau, sy'n golygu mynediad haws at wasanaethau bysiau lleol
  • Buddsoddi mewn cymunedau a seilwaith i helpu i sicrhau bod mwy a mwy o deithiau yn digwydd ar droed neu ar feic

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Credu bod y Deyrnas Unedig yn gymdeithas wirfoddol o bedair cenedl, lle dylai pŵer gael ei wasgaru yn hytrach na'i ganoli, a lle bo cynifer o benderfyniadau â phosibl yn cael eu gwneud mor agos at bobl â phosib
  • Cefnogi confensiwn cyfansoddiadol i ddatblygu setliad newydd i'r Deyrnas Unedig
Ceidwadwyr Cymreig party logo

Ceidwadwyr Cymreig

Arweinydd

Andrew RT Davies

Andrew RT Davies eicon

Polisïau allweddol

  • Adeiladu Ffordd Liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 yng Ngogledd Cymru i leihau mannau cyfyng a'r A40 i hybu'r economi yng Ngorllewin Cymru
  • Dim pwerau newydd i Lywodraeth Cymru
  • Adeiladu 100,000 o dai yn ystod y degawd nesaf, gan gynnwys 40,000 o dai cymdeithasol, gyda phob cartref newydd yn garbon niwtral erbyn 2026

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Penodi Gweinidog penodol o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer y broses adfer ar ôl COVID-19 i oruchwylio'r holl feysydd adfer yn sgil y coronafeirws, gan gynnwys cyflwyno'r brechlyn ledled Cymru gyda phob oedolyn yn cael cynnig dau ddos erbyn diwedd mis Hydref, a chyflwyno unrhyw bigiadau atgyfnerthu
  • Sefydlu llwybrau i gefnogi pobl sy'n dioddef â phroblemau iechyd meddwl yn sgil y pandemig, yn enwedig staff y GIG, gweithwyr gofal a theuluoedd sydd wedi profi trawma oherwydd bod cleifion ar eu pennau eu hunain adeg eu marwolaeth
  • Adolygu a chyflwyno cyllid i fusnesau ar sail anghenion, gan ddod â chymorth ‘cyntaf i'r felin' Llywodraeth Cymru i ben ar gyfer busnesau yng Nghymru

Economi

Economi eicon
  • Creu siop-un-stop i fusnesau yng Nghymru drwy ddod â Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru ac ail-greu agweddau gorau Awdurdod Datblygu Cymru, at ei gilydd
  • Sefydlu Arloesi Cymru, wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, fel siop un-stop i gwmnïau gefnogi mentrau newydd, ac annog busnesau cyfredol i dyfu ac allforio
  • Cyflwyno toriad treth i fusnesau bach drwy ddileu ardrethi busnes
  • Cyflwyno pecyn ‘dychwelyd' er mwyn i drefi glan môr a threfi marchnad lefelu gyda Chronfa Trefi Twristaidd, gan alluogi cymunedau i wella eu heconomi leol drwy ddenu ymwelwyr newydd gyda WiFi am ddim neu gysylltiadau trafnidiaeth gwell
  • Sefydlu Cenhadaeth Genedlaethol i dyfu economi Cymru, gyda tharged clir i greu 65,000 o swyddi newydd. Ar ôl cyflawni hynny, byddwn yn torri cyfradd sylfaenol treth incwm i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio'n galed

Addysg

Addysg eicon
  • Rhoi'r gorau i dan-ariannu ein pobl ifanc a gwarantu bod mwy o gyllid yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth yn uniongyrchol
  • Cael gwared yn llwyr ar Fagloriaeth Cymru er mwyn caniatáu i ddisgyblion ganolbwyntio ar TGAU, Lefel Uwch a chyrsiau galwedigaethol
  • Cyflwyno gwahanol lwybrau i ragoriaeth wrth ehangu prentisiaethau, gan gynnwys prentisiaethau gradd

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Datblygu cynllun clir i alluogi GIG Cymru glirio'r rhestr aros sydd wedi gwaethygu ymhellach yn ystod y pandemig, drwy ddefnyddio cyfleusterau trawsffiniol ac annibynnol i gyflymu'r driniaeth
  • Sicrhau na ddylai unrhyw un aros dros flwyddyn am driniaeth yn y GIG gyda'n Gwarant i Gleifion
  • Darparu 1,200 yn fwy o feddygon, 3,000 yn fwy o nyrsys a gweithiwr iechyd proffesiynol eraill drwy ein rhaglen ‘Cadw, recriwtio a hyfforddi'
  • Trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl drwy roi'r un flaenoriaeth iddo ag iechyd corfforol

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Cefnogi busnesau i gael mynediad at gyfleoedd newydd ar ôl Brexit drwy ddefnyddio siop-un-stop i gael mynediad at fuddsoddiad
  • Gweithio gydag ysgolion a phrifysgolion i sicrhau bod y rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas yn gallu cael mynediad at y Cynllun Turing newydd
  • Sicrhau bod Llywodraeth Cymru, gyda Llywodraeth y DU, yn cydlynu'n agos â Gweriniaeth Iwerddon i sicrhau mewnforion ac allforion di-drafferth

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Cyflwyno Deddf Aer Clir i dorri llygredd a lleihau'r achosion o glefydau anadlol
  • Gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol fel weips gwlyb plastig, gwellt yfed, troellwyr diodydd, cwpanau untro a ffyn cotwm, yn ogystal â chreu cynllun dychwelyd ernes ar ddiodydd.
  • Mynd i'r afael â newid hinsawdd drwy sicrhau bod Cymru yn bodloni ein targed allyriadau carbon sero-net erbyn 2050

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Sefydlu un pwynt mynediad i fudd-daliadau a chynllun cymorth sy'n cael ei weinyddu yng Nghymru, gan archwilio'r posibilrwydd o drosglwyddo'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yn awtomatig i'r cynllun
  • Cyflwyno model ‘tai yn gyntaf' i gefnogi pobl sy'n ddigartref
  • Cefnogi ein cymunedau hŷn drwy gadw presgripsiynau am ddim, teithio am ddim ar fysiau a hyrwyddo mynediad am ddim i safleoedd CADW a chynllun peilot teithio am ddim ar drenau i bobl dros 75 oed

Tai

Tai eicon
  • Annog uchelgais drwy gael gwared ar Dreth Trafodiadau Tir (Land Transaction Tax) i'r rhai sy'n prynu am y tro cyntaf a chodi'r trothwy i £250,000
  • Adfer hawl diwygiedig i brynu fel y gall mwy o bobl elwa o'r sicrwydd o berchen ar eu cartrefi eu hunain
  • Adeiladu 100,000 o dai yn ystod y degawd nesaf, gan gynnwys 40,000 o dai cymdeithasol, gyda phob cartref newydd yn garbon niwtral erbyn 2026

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Adeiladu Ffordd Liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 yng Ngogledd Cymru i leihau mannau cyfyng a'r A40 i hybu'r economi yng Ngorllewin Cymru
  • Creu rhwydwaith gwefru cyflym o 20,000 o orsafoedd gwefru ceir trydan
  • Helpu pobl ifanc i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth gyda theithio am ddim ar fysiau a theithio rhatach ar drenau i bobl 16-24 oed

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Dim cynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd yn ystod y pum mlynedd nesaf heb gefnogaeth y cyhoedd
  • Dim pwerau newydd i Lywodraeth Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru symud yn ei flaen a defnyddio'r pŵer sydd ganddo yn hytrach na phwyso am fwy
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU, nid yn ei erbyn, i lefelu Cymru gyfan
Plaid Cymru party logo

Plaid Cymru

Arweinydd

Adam Price

Adam Price eicon

Polisïau allweddol

  • Buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cymorth ychwanegol
  • Swydd wedi'i gwarantu, ar Gyflog Byw Gwirioneddol o leiaf, neu hyfforddiant o ansawdd uchel i bawb rhwng 16 a 24 oed
  • Cynnal refferendwm Annibyniaeth erbyn 2026

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Adeiladu'r Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol gorau drwy leihau rhestrau aros, adeiladu canolfannau diagnosteg canser newydd a chodi cyflog gweithwyr gofal i £10 yr awr o leiaf
  • Creu Pecyn Ysgogi Economaidd Gwyrdd gwerth £6bn, a fydd, ynghyd â buddsoddiadau mewn gofal iechyd, addysg a'r economi leol, yn creu 60,000 o swyddi yn ystod tymor nesaf y Senedd
  • Blaenoriaethu'r broses adfer addysgol a llesiant drwy recriwtio 2,000 o athrawon ychwanegol a 2,000 o staff cymorth ychwanegol mewn ysgolion ledled Cymru

Economi

Economi eicon
  • Swydd wedi'i gwarantu, ar Gyflog Byw Gwirioneddol o leiaf, neu hyfforddiant o ansawdd uchel i bawb rhwng 16 a 24 oed
  • Benthyciadau di-log i gefnogi busnesau bach i adfer ar ôl Covid
  • Creu Ffyniant i Gymru, asiantaeth datblygu economaidd deinamig newydd, sy'n canolbwyntio ar dyfu busnesau bach a chanolig yng Nghymru, rhoi hwb i allforion a chreu swyddi ym mhob cymuned

Addysg

Addysg eicon
  • Buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cymorth ychwanegol, lleihau maint dosbarthiadau a gwerthfawrogi'r proffesiwn dysgu
  • Sefydlu addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar o'r radd flaenaf, drwy gynnig 30 awr yr wythnos, am ddim i bob plentyn o 24 mis i oed ysgol
  • Lleihau'r ffi ddysgu uchaf y gellir ei chodi ar fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru ym mhrifysgolion Cymru i £7,500

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Adeiladu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol lle mae gofal personol am ddim pryd mae ei angen
  • Darparu 6,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol i Gymru – 4,000 o nyrsys, 1,000 o feddygon a 1,000 o weithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig ag iechyd
  • Sicrhau bod gwella iechyd meddwl yn nod canolog, a sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Llesiant i Bobl Ifanc ar gyfer cymorth iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc ledled Cymru

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Archwilio ffyrdd i Gymru barhau i gymryd rhan yn rhaglen Erasmus yr UE
  • Datblygu strategaeth allforio newydd i fusnesau yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ranbarthau a chenhedloedd yr UE fel Iwerddon a Gwlad y Basg, lle mae perthynas yn bodoli'n barod
  • Dechrau cynllunio am Gymru annibynnol i ymuno â Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA)

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Sefydlu cenhadaeth ar draws Cymru i gynhyrchu 100% o'n trydan a chyrraedd dim allyriadau erbyn 2035
  • Cyflwyno Deddf Natur gyda thargedau statudol i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050
  • Ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd diogel o ansawdd da o fewn pum munud ar droed o bob aelwyd yng Nghymru

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Taliad atodol wythnosol o £35 y plentyn i deuluoedd sy'n byw o dan y trothwy tlodi
  • Rhoi hawl i ddysgu gydol oes ar gyfer ailhyfforddi gwerth £5,000 i bawb dros 25 oed
  • Treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru

Tai

Tai eicon
  • Lansio'r rhaglen tai cyhoeddus fwyaf uchelgeisiol ers yr 1970au, gan greu 50,000 o dai sy'n wirioneddol fforddiadwy i'w rhentu a'u prynu yn ystod y pum mlynedd nesaf
  • Dod â chysgu allan ar ein strydoedd i ben yn barhaol drwy bolisi ailgartrefu cyflym
  • Stopio troi allan heb fai, a chreu system newydd o renti teg i bobl mewn llety rhent preifat
  • Gostwng biliau ar gyfartaledd i'r rhai sy'n talu'r Dreth Gyngor, a defnyddio pwerau cynllunio a threthi i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Anelu at haneru cyfran y teithiau a wneir mewn ceir erbyn 2030,
  • Clustnodi o leiaf 50 y cant o'r holl wariant ar gludiant cyfalaf i wella gwasanaethau bysiau a threnau
  • Creu rheilffordd newydd ar arfordir y gorllewin, i gysylltu'r gogledd a'r de
  • Adeiladu CrossRail y Cymoedd, i gysylltu'r dwyrain a'r gorllewin

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Rhoi llais i bobl Cymru ar eu dyfodol drwy gynnal refferendwm annibyniaeth erbyn 2026
  • Creu Comisiwn Cenedlaethol statudol i oruchwylio'r broses sy'n arwain at y refferendwm, gan gynnwys drafftio Cyfansoddiad Cymreig, a fydd yn destun proses ymgynghori eang
  • Datganoli pŵer ar unwaith dros faterion sy'n cael eu cadw'n ôl, gan gynnwys plismona a chyfiawnder troseddol, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni mawr ac Ystâd y Goron
Diwygio UK party logo

Diwygio UK

Arweinydd

Nathan Gill

Nathan Gill eicon

Polisïau allweddol

  • Sicrhau nad oes mwy o gyfnodau clo
  • Clirio achosion sydd wedi cronni yn y GIG yn sgil Covid
  • Rhoi'r hawl i rieni fynd â'u plant ar wyliau am hyd at ddeg diwrnod

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Peidio byth â chael cyfnod clo llawn yng Nghymru neu unrhyw ran o Gymru
  • Sefydlu grŵp ymgynghorol arbenigol sy'n edrych ar effaith ehangach polisïau ar y system iechyd a'r economi
  • Cadw ysgolion a chyfleusterau hamdden a ffitrwydd ar agor
  • Peidio byth â chyflwyno pasbortau brechu a chael gwared ar y canllawiau i wisgo masgiau yn y dosbarth

Economi

Economi eicon
  • Rhyddhau 1.2 miliwn o fusnesau bach a'r hunan-gyflogedig rhag talu treth gorfforaethol
  • Creu treth gwerthu ar y we a chael gwared ar ardrethi busnes yng Nghymru
  • Rhoi hwb i economi gogledd Cymru drwy gefnogi Wylfa Newydd

Addysg

Addysg eicon
  • Gwneud addysg ariannol yn bwnc gorfodol i bobl plentyn ysgol ar lefel TGAU
  • Caniatáu rhieni (plant na sydd ym mlynyddoedd TGAU) i fynd â'u plant o'r ystafell ddosbarth am hyd at 10 diwrnod
  • Diwygio dyddiadau tymhorau a chael gwared ar wyliau chwe wythnos ym mis Gorffennaf/Awst

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Buddsoddi i glirio'r rhestrau aros sydd wedi cronni o fewn y GIG yn ystod y pedair blynedd nesa
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol i sicrhau bod pawb yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw gydag iechyd meddwl a normaleiddio afiechydon meddwl gydag ymgyrchoedd hybu iechyd pwerus
  • Datblygu model meddygol sy'n canolbwyntio ar atal, adfer a chyd-gynhyrchu yn ogystal ag iachau
  • Datblygu polisi gweithlu sy'n sicrhau bod niferoedd digonol o staff sy'n uchel eu cymhelliant yn cael eu cadw a'u recriwtio

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Gweithio gyda'n partneriaid yn yr UE yn ogystal â gweddill y byd i ddatblygu cytundebau masnach sydd o fudd i'r ddwy ochr

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Cefnogi a buddsoddi mewn ynni llanw er mwyn i Gymru arwain y ffordd gyda'r dechnoleg hon ar draws y byd
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i greu model rhwydwaith gwefru cerbydau trydan sy'n cyllido gwasanaethau cyhoeddus
  • Creu coedwig genedlaethol i Gymru gyda mynediad agored i bob dinesydd

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Cadw presgripsiynau am ddim
  • Gwrthwynebu Cymru yn cyflwyno cyfraddau uwch o dreth incwm na rhannau eraill o'r DU
  • Yn genedlaethol, byddai'n lleihau nifer y bobl sy'n talu treth incwm drwy gynyddu'r trothwy isaf i £20,000, o £12,500 y flwyddyn

Tai

Tai eicon
  • Cadw'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi hyd at 100% yn ychwanegol ar gartrefi gwag ac ail gartrefi, ond cyflwyno polisi i sicrhau bod yr arian sy'n cael ei godi yn mynd yn uniongyrchol i'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio
  • Cyflwyno caniatâd cynllunio i berchnogion tai sy'n dymuno ceisio newid pwrpas y cartref hwnnw i fod yn fusnes rhentu gwyliau
  • Ei gwneud hi'n haws i bobl leol adeiladu cartref yn eu pentref neu dref leol

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Adeiladu ffordd liniaru'r M4
  • Adeiladu seilwaith rheilffordd newydd yn Ne Cymru, gan gynnwys argymhelliad Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru am chwe gorsaf reilffordd newydd ac uwchraddio cledrau'r Cymoedd
  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng De a Gogledd Cymru
  • Buddsoddi mewn gwella'r cysylltiadau ffyrdd yng Ngogledd Cymru

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Byddwn yn ymgyrchu'n frwd dros aros yn aelodau cadarn o'r Deyrnas Unedig
  • Gwrthwynebu unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd
  • Cynnal etholiad ar wahân ar gyfer y Prif Weinidog
  • Ceisio datganoli rhai o bwerau Llywodraeth Cymru i gynghorau
Plaid Diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol party logo

Plaid Diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol

Arweinydd

Richard Suchorzewski

Richard Suchorzewski eicon

Polisïau allweddol

  • Cael gwared ar Gynulliad/Senedd Cymru drwy refferendwm
  • Adfer un GIG
  • Cael gwared ar y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Ymateb sy'n cael ei arwain ar lefel y DU yn hytrach nag ymateb tameidiog ar draws y pedair cenedl

Economi

Economi eicon
  • Dylai pwerau dros ddatblygu economaidd gael eu datganoli o Fae Caerdydd i ardaloedd lleol ar draws Cymru mewn Partneriaethau Menter Lleol
  • Yna dylai cynghorau weithio mewn partneriaeth â busnesau a chyflogwyr, sy'n adnabod eu hardaloedd, mewn Partneriaethau Menter Lleol
  • Gallai treth gyngor is helpu ardaloedd tlawd yn fwy na grantiau'r trydydd sector

Addysg

Addysg eicon
  • Cadw cwricwlwm y DU
  • Adfer cysondeb arholiadau a graddio yn unol â Lloegr
  • Datganoli a ddylai'r Gymraeg fod yn orfodol mewn ysgolion sydd ddim yn rhai cyfrwng Cymraeg i gynghorau
  • Cefnogi academïau ac ysgolion rhydd
  • Cael gwared ar y targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Adfer un Gwasanaeth Iechyd Gwladol y DU sy'n unedig i bawb
  • Rhoi meddygon ar yr un raddfa dâl â chydweithwyr yn Lloegr
  • Cadw presgripsiynau am ddim ar gyfer y rhai sy'n llai cefnog, plant, menywod beichiog a'r rheini sydd wedi ymddeol, ond defnyddio'r arian sy'n cael ei dalu gan eraill am bresgripsiynau i fynd i'r afael â'r rhestrau aros enfawr yn y GIG yn dilyn argyfwng COVID

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Cefnogi Brexit ar y sail a bennir gan lywodraeth y DU yn dilyn y bleidlais gan Gymru ac anelu at adael yr UE

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Cael gwared ar Gyfoeth Naturiol Cymru
  • Cefnogi'r broses o symud i dechnolegau newydd mewn amaethyddiaeth a allai leihau effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd
  • Blaenoriaethu cymorth i ffermio mynydd traddodiadol yng Nghymru

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Gwrthwynebu datganoli gweinyddu budd-daliadau er mwyn osgoi peryglu tua 15% o drosglwyddiad cyllidol GDP o weddill y DU i Gymru

Tai

Tai eicon
  • Dod â datganoli Treth Trafodiadau Tir (Land Transaction Tax) i ben, a'i ddisodli gyda Threth Dir Treth Stamp y DU
  • Adfer hawl i brynu

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Gwerthu Maes Awyr Caerdydd
  • Adeiladu Ffordd Liniaru'r M4 fel y cefnogwyd gan Ymchwiliad Cyhoeddus a gweithio gyda chyngor dinas Casnewydd gyda chefnogaeth llywodraeth y DU
  • System reilffordd fwy integredig dan arweiniad y DU

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Cynnal refferendwm ar gael gwared ar Senedd Cymru
  • Rhoi pwerau trethu nôl i San Steffan yn unol â'r datganiad ar bapur pleidleisio refferendwm 2011, sef "Ni all y Cynulliad wneud cyfreithiau ar...drethu beth bynnag bo canlyniad y bleidlais hon."
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru party logo

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Arweinydd

Jane Dodds

Jane Dodds eicon

Polisïau allweddol

  • £500m i helpu ein stryd fawr, canol trefi a dinasoedd, a chymorth i fusnesau bach ffynnu ac addasu
  • Buddsoddiad o £1bn y flwyddyn i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, creu swyddi gwyrdd newydd a thorri biliau ynni yn y cartrefi
  • Creu gwasanaeth iechyd meddwl mewn argyfwng 24/7 i sicrhau y gall pobl dderbyn gofal pan fydd ei angen arnyn nhw

Covid-19

Covid-19 eicon
  • £500m i helpu ein stryd fawr, canol trefi a dinasoedd, a chymorth i fusnesau bach ffynnu ac addasu
  • Rhewi ardrethi busnes am y 5 mlynedd nesaf a chreu cronfa gymorth fuddsoddi i alluogi busnesau i fuddsoddi
  • Gweithio tuag at ail-ymuno â'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau, fel rhan o'r broses o ail-drafod gyda'r UE yn 2025, neu'n gynharach pe bai'r cyfle'n codi

Economi

Economi eicon
  • Mynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau drwy ddarparu prydau ysgol am ddim drwy gydol gwyliau'r ysgol am y 5 mlynedd nesaf a buddsoddi mewn rhaglenni Bwyd a Hwyl yn ystod gwyliau'r haf
  • Ehangu prentisiaethau gradd, gan gynnwys ar lefel ôl-raddedig, amrywio'r pynciau sydd ar gael, a chreu mwy o lwybrau i gyflogaeth
  • Cyfrifon Dysgu Personol i wireddu hawl i ddysgu gydol oes, gan ganiatáu i bobl uwchsgilio ac ail-hyfforddi

Addysg

Addysg eicon
  • Gweithredu'r Cwricwlwm newydd i Gymru a sicrhau bod ganddo'r adnoddau angenrheidiol er mwyn iddo fod yn llwyddiannus
  • Gwella cyfleoedd i ddysgwyr difreintiedig i ddysgu yn ystod gwyliau ysgol a sicrhau eu bod yn cael pryd da o fwyd
  • Dod â gwahaniaethu digidol i ben ar bob lefel o addysg, drwy fuddsoddi mewn dyfeisiau a sgiliau digidol

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Creu gwasanaeth iechyd meddwl mewn argyfwng 24/7 i sicrhau y gall pobl dderbyn gofal pan fydd ei angen arnyn nhw
  • Cefnogi ein gofalwyr drwy dalu cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol
  • Rhoi cynlluniau dal i fyny ar waith sydd wedi'u hariannu'n iawn ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a gofal fel bod gan weithwyr iechyd a chleifion sicrwydd ynglŷn â'u gofal, er enghraifft, gwasanaethau canser a strôc

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Pwyso am fasnach ddi-dariff fel rhan o'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau
  • Hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd am gydweithio rhyngwladol mewn ymchwil ac addysg
  • Sicrhau nad yw Cymru yn colli ceiniog o fuddsoddiad drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Buddsoddiad o £1bn y flwyddyn i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, creu swyddi gwyrdd newydd a thorri biliau ynni yn y cartrefi
  • Pasio Deddf Cartrefi Gwyrdd i greu safon gwyrdd newydd i gartrefi yng Nghymru a thorri biliau cartrefi hyd at £500 y flwyddyn ar gyfartaledd
  • Mynd i'r afael â llygredd a glanhau'r aer rydyn ni'n ei anadlu gyda Deddf Aer Clir yn y 100 diwrnod cyntaf

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Cymryd camau ystyriol tuag at ddod yn genedl Cyflog Byw ac Oriau Byw
  • Cyflwyno mynediad cyffredinol at ofal plant rhad ac am ddim i bawb o 9 mis oed, gan gynnwys gofal cyn ac ar ôl oriau ysgol i blant mewn ysgolion
  • Treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru i ddarparu isafswm safon byw i bawb

Tai

Tai eicon
  • Adeiladu 30,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w rhentu yn ystod y 5 mlynedd nesaf i sicrhau bod gan bawb fynediad at le diogel i'w alw'n gartref
  • Cyflwyno cynllun i ddod â digartrefedd i ben, a buddsoddi mewn gwasanaethau i helpu i atal pobl rhag cael eu gwthio i fod yn ddigartref a helpu i gynnal cartref
  • Parhau i fuddsoddi yn y cynllun Rhentu i Brynu sydd wedi helpu pobl i berchen ar eu cartref eu hunain am y tro cyntaf

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Cyflwyno trafnidiaeth am ddim ar fysys i bob person ifanc o dan 25 oed erbyn 2025
  • Buddsoddi mewn llwybrau diogel i gerdded a seiclo, drwy glustnodi 10% o'r gyllideb drafnidiaeth yn y maes hwn, i leihau llygredd ac annog arferion iachach
  • Sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio i bawb. Bydd ein Bil Bysiau yn sicrhau bod llwybrau bysiau yn bodloni anghenion y gymuned, bod tocynnau yn fforddiadwy a hyblyg, bod amserlenni yn bodloni anghenion gwahanol, a bod safleoedd bysiau a gorsafoedd trên yn hygyrch

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud agosaf at y bobl maen nhw'n effeithio arnyn nhw o fewn DU Ffederal sy'n seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr
  • Datganoli cyfiawnder a phlismona, tra'n cael gwared ar y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru. Symud tuag at awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, er mwyn caniatáu i Gymru symud tuag at system mwy cyfiawn ac atebol sy'n blaenoriaethu adsefydlu effeithiol
  • Cyflwyno system bleidleisio decach ar gyfer y Senedd a phob cyngor, drwy sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif
UKIP Cymru party logo

UKIP Cymru

Arweinydd

Neil Hamilton

Neil Hamilton eicon

Polisïau allweddol

  • Dod â mesurau'r cyfnod clo i ben ar unwaith
  • Refferendwm ar gael gwared ar y Senedd a Llywodraeth Cymru
  • Cael gwared ar bolisi ‘Cenedl Noddfa' Llywodraeth Cymru ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Dod â chyfnodau clo llym i ben ar unwaith, gan alluogi pob busnes i ail-agor, a dychwelyd at ryddid yr unigolyn a dychwelyd i deithio
  • Rhoi'r gorau ar unwaith i'r cynigion a'r adolygiadau am ‘Basbort Brechu', sy'n ceisio gwneud brechu yn orfodol tra'n bygwth i wthio pobl i gyrion cymdeithas
  • Adfer rhyddid sifil ar unwaith, fel rhyddid i deithio, rhyddid i ymgysylltu a rhyddid i fynychu digwyddiadau sydd wedi'u tynnu oddi wrthom yn ystod y pandemig

Economi

Economi eicon
  • Gostwng prisiau alcohol i adfywio'r sector lletygarwch yng Nghymru drwy dorri TAW ar alcohol mewn llefydd trwyddedig
  • Sbarduno'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru drwy ddarparu cronfa adfer ac adnewyddu gwerth £100m ar gyfer atyniadau twristaidd a gwestai/tai llety yng Nghymru
  • Denu mentrau a buddsoddiadau i Gymru drwy gefnogi porthladdoedd rhydd yng Nghymru a pharthau di-dreth eraill ar hyd gwaith adeiladu ffyrdd newydd ac mewn ardaloedd arfordirol

Addysg

Addysg eicon
  • Cael gwared ar Fagloriaeth Cymru a gwneud dysgu Cymraeg yn ddewisol drwy'r cwricwlwm cyfan
  • Datgymalu'r pedwar consortia gwella ysgolion yng Nghymru ac ail-gyfeirio eu cyllideb £150m blynyddol yn uniongyrchol i ysgolion
  • Cael gwared ar ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy'n astudio graddau mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg yn y brifysgol ar yr amod eu bod, ar ôl graddio, yn aros yn y DU ac yn gweithio yn y meysydd hynny yn ystod rhan o'u cyfnod o ad-dalu'r benthyciad i fyfyrwyr
  • Rhoi pŵer yn ôl yn nwylo rhieni drwy adfer a pharchu'r hawl i dynnu eu plentyn o wersi addysg rhyw a chydberthynas ac atal gwersi o'r fath yn gyfan gwbl mewn ysgolion cynradd

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Cyflwyno byrddau iechyd sydd wedi'u hethol yn lleol, gan roi cleifion a theuluoedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yn y GIG
  • Cynyddu'n sylweddol nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon, nyrsys a pharafeddygon Prydeinig a sicrhau bod y nifer gofynnol o nyrsys a meddygon yn cael eu hyfforddi yng Nghymru a'r DU yn hytrach na'u mewnforio o dramor
  • Aduno teuluoedd gydag anwyliaid mewn cartrefi gofal ar unwaith
  • Sicrhau na fydd y rheini sydd wedi talu treth ac yswiriant gwladol digonol yn cael eu gorfodi i ddefnyddio eu cynilion a'u cartref i dalu am ofal cymdeithasol

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Adeiladu ar botensial di-gyffwrdd y diwydiant pysgota yng Nghymru drwy ymgyrchu i gymryd rheolaeth lwyr o'n dyfroedd
  • Allgludo ceiswyr lloches ffug nad ydynt yn gallu cael eu hallgludo ar hyn o bryd oherwydd y bylchau yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
  • Gwarchod agosatrwydd ac uniondeb y Deyrnas Unedig drwy roi'r gorau i'r ffin ym Môr Iwerddon a Phrotocol niweidiol Gogledd Iwerddon

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Lobio Llywodraeth y DU i gael gwared ar y Ddeddf Newid Hinsawdd (2008)
  • Cael gwared ar yr holl gymorthdaliadau ar gyfer y prosiectau ynni "gwyrdd" fel y'u gelwir sy'n trosglwyddo arian oddi wrth trethdalwyr, gan gynnwys y tlotaf mewn cymdeithas, i'r mentrwyr amgylcheddol hynny sydd eisoes yn gyfoethog
  • Gwrthwynebu pob fferm wynt a solar gan eu bod yn anharddu tirlun Cymru yn ogystal â bod yn gostus ac annibynadwy
  • Hyrwyddo'r twf mewn safonau ffermio, pysgota, diogelwch bwyd a lles anifeiliaid ym Mhrydain
  • Bwrw ymlaen gyda gwaharddiad ôl-Brexit ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Ceisio lleihau'r defnydd o gontractau dim oriau ac eithrio pan fyddant o fudd i'r gweithiwr a'r cyflogwr fel ei gilydd, a sicrhau bod pawb yn gallu ennill cyflog byw
  • Gwrthwynebu datganoli unrhyw fudd-daliadau pellach i Senedd Cymru
  • Presgripsiynau am ddim, Treth Gyngor a budd-daliadau cymorth dewisol (Nawdd Cymdeithasol) yn parhau o dan UKIP
  • Dod â'r gwahaniaethu o ran swyddi i ben a sicrhau bod ymgeiswyr yn cael swyddi ar sail teilyngdod, yn hytrach na'u gallu i siarad Cymraeg

Tai

Tai eicon
  • Dod â'r galw am dai o ran reolaeth drwy weithredu rheolaethau mewnfudo cadarn a theg
  • Rhoi mwy o lais i bobl leol ar benderfyniadau cynllunio mawr yn eu cymunedau drwy refferenda lleol sy'n gyfreithiol rwymol
  • Lle bo'n bosib, cymell datblygiadau lleol gan gwmnïau Prydeinig er mwyn defnyddio safleoedd tir llwyd a chartrefi diffaith unwaith eto, fel y gellir eu cynnig fel tai fforddiadwy i bobl leol

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Cefnogi adeiladu ffordd liniaru'r M4
  • Gwerthu maes awyr Caerdydd ar unwaith i liniaru unrhyw golled bellach i drethdalwyr yng Nghymru, fel y gall perchennog newydd ei weithredu ar sail fasnachol go iawn
  • Ail-agor gorsafoedd trenau a llinellau rheilffyrdd i wella cysylltiadau ar draws Cymru, lle bo'n briodol, drwy adolygu Toriadau Beeching

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Cynnal refferendwm hir ddisgwyliedig ar gael gwared ar y Senedd a Llywodraeth Cymru ar y cyfle cynharaf
  • Ymgyrchu i gael gwared ar y Senedd ac yn gwrthwynebu unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Senedd
  • Diddymu hawl Llafur Cymru a Phlaid Cymru i roi'r bleidlais i dramorwyr
  • Sicrhau bod yr oedran pleidleisio yng Nghymru a'r DU yn 18 oed
Propel party logo

Propel

Arweinydd

Neil McEvoy

Neil McEvoy eicon

Polisïau allweddol

  • Dod â'r holl gyfnodau clo i ben yn ffurfiol, ymrwymo i beidio â dychwelyd atynt, a diddymu'r holl bwerau plismona 'llym'
  • Sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru i gloddio cronfeydd nwy mewn hen byllau glo er mwyn disodli'r defnydd o nwy a fewnforiwyd
  • Deddf Democratiaeth Fodern i greu cyfansoddiad Cymreig a bil hawliau - gan roi'r hawl i'r cyhoedd alw refferenda cenedlaethol a lleol

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Sefydlu ymchwiliad annibynnol a thryloyw i ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig coronafeirws
  • Cyflwyno Deddf Adfer Coronafeirws i ddod â'r holl gyfnodau clo i ben yng Nghymru, diddymu'r holl bwerau plismona "llym", mynd i'r afael â'r coronafeirws drwy fesurau ymbellhau cymdeithasol a gwarchod y rheini sy'n agored i niwed,
    ail-ystyried campfeydd fel gwasanaethau allweddol a'u cadw ar agor, fel ysgolion, a pholisi o dryloywder llawn gyda'r holl ddata a'r penderfyniadau a gymerir
  • Ail-drafod y cynllun ffyrlo i dalu pobl sydd wedi'u heffeithio gan gyfyngiadau COVID i weithio'n ddiogel, tra'n parhau i gefnogi'r broses o warchod y rheini sy'n agored i niwed

Economi

Economi eicon
  • Sefydlu Cyfnewidfa Stoc i Gymru er mwyn rhestru cwmnïau o Gymru sydd eisiau masnachu cyfranddaliadau'r cwmni yn gyhoeddus
  • Creu Cronfa Gyfoeth Sofren i Gymru i ddatblygu portffolio hirdymor, cynaliadwy o fuddsoddiadau, o dan Egwyddorion Santiago
  • Creu wyth banc cymunedol cydweithredol, gyda'r prif bwyslais ar fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig lleol sy'n bodoli'n barod a rhai newydd.
  • Ail-ddiwydiannu Cymru ar gyfer yr 21ain ganrif drwy roi pwyslais ar ddatblygu gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg, cynaliadwy i'w allforio
  • Datblygu strategaeth gaffael gyhoeddus newydd i symud tuag at 100% o wariant cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu i gwmnïau o Gymru

Addysg

Addysg eicon
  • Bydd ysgolion yn aros yn agored a ddim yn cau mewn cyfnod clo
  • Pasio Deddf Addysg Gymraeg newydd i ddod â'r holl elfennau deddfwriaethol presennol at ei gilydd i roi eglurder cyfreithiol diamwys yn y dyfodol

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Gweithredu Cyfraith Robbie i wneud dyletswydd gonestrwydd (duty of candour) yn gyfreithiol rwymol ar ymarferwyr meddygol ac ar draws y sector cyhoeddus, sy'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw fod yn onest os bydd camgymeriadau neu esgeulustod
  • Sefydlu Archwilwyr Gwasanaethau Cyhoeddus annibynnol, anwleidyddol sydd wedi'u hethol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
  • Lansio archwiliad annibynnol o wastraff, twyll neu lygredd yn Llywodraeth Cymru. Bydd yr arbedion yn cael eu hail-gyfeirio i'r GIG

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Parchu canlyniad refferendwm yr UE, lle pleidleisiodd y mwyafrif o bobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru gyda'r rhan fwyaf ohono yn eiddo i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, i gloddio cronfeydd nwy Cymru er mwyn disodli'r defnydd o nwy a fewnforiwyd
  • Defnyddio cyflenwad ynni rhatach i gefnogi cyflogaeth lleol yn ein diwydiannau strategol allweddol, gan gynnwys dur a gweithgynhyrchu
  • Creu Cronfa Gyfoeth Sofren gyda'r refeniw a grëwyd i gyflawni annibyniaeth ynni hirdymor drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy
  • Defnyddio prifysgolion yng Nghymru i ddod yn arweinydd byd mewn technoleg dal a storio carbon
  • Gwrthwynebu adeiladu unrhyw adweithyddion niwclear ac yn rhoi feto ar unrhyw ymgais i ddeunydd niwclear a gynhyrchir y tu allan i Gymru gael ei storio neu ei ollwng yn y wlad

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Strategaeth gaffael gyhoeddus newydd yn cael ei mabwysiadu i symud tuag at 100% o wariant cyhoeddus yn cael ei ddyfarnu i gwmnïau o Gymru

Tai

Tai eicon
  • Polisi ‘tai yn gyntaf' i ddod â digartrefedd i ben a chau'r bwlch ail gartrefi, lle mae ail gartrefi yn cael eu hystyried fel busnesau i osgoi trethiant lleol
  • Cyflwyno cap ar dâl gwasanaeth blynyddol i lesddeiliaid, wedi'i gysylltu â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr
  • Peidio â dyfarnu contractau adeiladu i ddatblygwyr cyfredol nes eu bod wedi unioni'r cladin tân peryglus mewn datblygiadau yn y gorffennol
  • Cyflwyno cynllun Hawl i Brynu newydd i denantiaid tai cymdeithasol, gyda'r holl refeniw yn cael ei gyfeirio at adeiladu mwy o dai cymdeithasol o safon
  • Gosod targedau gorfodol ar awdurdodau lleol i ail-ddefnyddio adeiladau sy'n wag yn yr hirdymor
  • Gwahardd ail enwi adeiladau sydd ag enwau Cymraeg i warchod diwylliant Cymru
  • Gwarantu y bydd pob cyn-filwr sydd wedi bod ar wasanaeth gweithredol yn cael eu blaenoriaethu am dai cyhoeddus a gofal iechyd

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Uwchraddio rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru i safon gwibffordd (expressway), gan gynnwys Gwibffordd Genedlaethol o'r Gogledd i'r De
  • Ail-osod llinellau rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin ac Afon Wen i Fangor
  • Un system docynnau ar gyfer teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Creu cyfansoddiad Cymreig a deddf hawliau. Bydd y cyfansoddiad yn deddfu egwyddor ‘democratiaeth uniongyrchol fodern', sy'n golygu y bydd gan y cyhoedd hawl i gynnal refferenda cenedlaethol a lleol drwy gasglu llofnodion
  • Bydd system gyfrannol y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn etholiadau yn cael ei mabwysiadu ar gyfer etholiadau cenedlaethol a lleol
  • Bydd dau ar hugain o awdurdodau lleol Cymru yn cael eu disodli gan wyth sir, sy'n bennaf seiliedig ar hen ffiniau siroedd Cymru. Bydd gan bob sir ei phrifddinas, llywodraethwr sydd wedi'i ethol yn uniongyrchol a banc cydweithredol cymunedol. Bydd pob sir yn cael ei hystyried yn sofren, ac eithrio pan fydd pŵer deddfu wedi'i gadw i Senedd Cymru
  • Dylai Llywydd y Senedd sefyll fel aelod annibynnol i atal rhagfarn neu duedd wleidyddol
  • Bydd Prif Weinidog Cymru yn cael ei ethol yn uniongyrchol
  • Comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ynglŷn â chreu tŷ uchaf ar gyfer Senedd Cymru yng Ngogledd Cymru
  • Cefnogi newyddiaduraeth y dinesydd i gynnig darlun mwy amrywiol a manwl o wleidyddiaeth a materion cyfoes
Plaid Gomiwnyddol Prydain party logo

Plaid Gomiwnyddol Prydain

Arweinydd

Robert Griffiths

Robert Griffiths eicon

Polisïau allweddol

  • Hunan-lywodraeth i Gymru o fewn Prydain ffederal
  • Dod â'r rheilffyrdd a'r gwasanaethau bysiau i berchnogaeth y cyhoedd
  • Adeiladu 10,000 o dai cyngor y flwyddyn

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Cymeradwyo gwaith staff y GIG yn ystod y pandemig
  • Dod â chwmnïau fferyllol i berchnogaeth y cyhoedd
  • Buddsoddi mewn band eang tra chyflym i annog mwy o weithio gartref

Economi

Economi eicon
  • Gosod cwmnïau sy'n methu dan ‘berchnogaeth ddemocrataidd y cyhoedd'
  • Creu Awdurdod Datblygiad Economaidd Cymreig sydd â'r pŵer i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn cyfalaf preifa
  • Sefydlu treth incwm lleol yn lle'r dreth gyngor

Addysg

Addysg eicon
  • Diddymu addysg breifat
  • Creu system asesu amgen i ddisodli'r ‘ffatri arholi'
  • Ysgolion a meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg ar gael ym mhob cwr o Gymru

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Creu ‘partneriaethau iechyd sylfaenol' o feddygon teulu, cynghorau, trigolion, cymdeithasau tai, ysgolion a gweithwyr iechyd proffesiynol i asesu anghenion iechyd hirdymor cymunedau
  • Gwasanaeth Gofal Gwladol gyda gwasanaethau preswyl a nyrsio am ddim pan fydd eu hangen
  • Cytundeb cyflogaeth safonol i weithwyr gofal

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Pleidleisiodd Cymru i adael UE y "busnesau mawr cyfalafol" ac mae Brexit yn golygu "cyfleoedd newydd" i Gymru

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Mwy o fuddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni llanw a ffermydd gwynt ar y môr
  • Cefnogi glo glân drwy ddal carbon o fwyngloddio dwfn
  • Gwrthwynebu pŵer niwclear "nes y gellir arddangos bod ymasiad niwclear diogel ar gael"

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Gwahardd arferion godro asedion, diswyddo torfol a chynlluniau "diswyddo ac ail-gyflogi"
  • Ymestyn absenoldeb mamolaeth a thadolaeth
  • Gofal plant di-dâl o adeg yr enedigaeth i rieni sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith

Tai

Tai eicon
  • Adeiladu 10,000 o dai cyngor y flwyddyn
  • Treth uwch ar dir gwag
  • Tai cymdeithasol i ddychwelyd o dan reolaeth uniongyrchol yr awdurdodau lleol

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Dod â'r rheilffyrdd a'r gwasanaethau bysiau i berchnogaeth y cyhoedd
  • Gosod cap ar gostau teithio i bobl ifanc

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Hunan-lywodraeth i Gymru o fewn Prydain ffederal
  • Treth ar gyfoeth i ail-ddosbarthu cyfoeth ar draws gwledydd a rhanbarthau Prydain
Gwlad party logo

Gwlad

Arweinydd

Gwyn Wigley Evans

Gwyn Wigley Evans eicon

Polisïau allweddol

  • Cymru i fod yn annibynnol yn y tymor hir, gyda'i arian ei hun
  • Codi tâl am dagfeydd oriau brig ar hyd yr M4 i'r dwyrain o Gasnewydd
  • Ehangu addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg i'r pwynt lle mae'n dod "yn normal ym mhob rhan o Gymru"

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Rhoi opsiynau i bobl ifanc mewn sefyllfaoedd ‘gweithio o gartref' lle gallent ddod o hyd i weithleoedd addas ynghyd â chymorth a mentora priodol
  • Cyflymu ceisiadau cynllunio ar gyfer newid defnydd sy'n golygu trosi eiddo masnachol i ddefnydd preswyl

Economi

Economi eicon
  • Dylai pob cytundeb sy'n cael ei dalu gan arian y cyhoedd gynnwys darpariaeth ar gyfer cynnwys lleol cynaliadwy i sicrhau bod arian a werir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cael ei wario yng Nghymru lle bynnag y bo modd
  • Blaenoriaethu anghenion busnesau y mae eu prif swyddfeydd wedi'u lleoli yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth priodol gan gynghorau, darparwyr seilwaith, sefydliadau addysgol a chyrff ariannu

Addysg

Addysg eicon
  • Ehangu addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg i'r pwynt lle mae'n dod "yn normal ym mhob rhan o Gymru"
  • Cwricwlwm Dyniaethau mewn ysgolion i flaenoriaethu dysgu am hanes, traddodiadau, diwylliant a gwerthoedd Cymru
  • Dim ond ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau yng Nghymru y dylid rhoi cyllid myfyrwyr, ac eithrio ar gyfer pynciau sydd ddim yn cael eu cynnig yng Nghymru

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Cyfuno clinigau meddygon teulu llai yn ‘polyclinics', yn ogystal â darparu gwasanaethau i gleifion allanol
  • Lleihau ffioedd i fyfyrwyr sy'n astudio meddygaeth yng Nghymru ac yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am gyfnod penodol ar ôl graddio

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Cadw'r opsiwn o refferendwm ‘ail-ymuno' ar agor os yw amgylchiadau yn newid
  • Ceisio efelychu Seland Newydd wrth ehangu masnach fyd-eang
  • Statws porthladd rhydd i Gaergybi, Abergwaun a Phenfro

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Cefnogi buddsoddi mewn technolegau amgen fel technoleg hydrogen fel ffordd o storio, cludo a defnyddio ynni a gynhyrchir gan ddulliau adnewyddadwy
  • Ddim yn wrth-niwclear mewn egwyddor, ond gwrthwynebu prosiectau mawr fel Wylfa B
  • Cymryd yr holl asedau dwr yng Nghymru i berchnogaeth gyhoeddus a'u gosod o dan reolaeth cwmni ‘nid-er-elw' Dŵr Cymru sy'n bodoli eisoes

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Awdurdod Cyllid Cymru i gymryd cyfrifoldeb am roi cyfrif cywir am yr holl refeniw trethiant a gynhyrchir yng Nghymru
  • Ar ôl annibyniaeth – disodli'r system fudd-daliadau a threthiant bresennol gydag Incwm Dinasyddion a Threth Fflat

Tai

Tai eicon
  • Gorfod cael trwydded i brynu ail gartref, gyda gordal (surchage) treth gyngor o 500%
  • Os yw landlord yn dymuno gwerthu eiddo, yna dylai tenantiaid gael y cynnig cyntaf i wrthod
  • Asiantaeth Dai Genedlaethol newydd i Gymru

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • ‘Ffordd Prifwythiennol Powys' ar hyd coridorau'r A470 a'r A483 i ddarparu ffordd 2/3
  • Codi tâl am dagfeydd oriau brig ar hyd yr M4 i'r dwyrain o Gasnewydd
  • Adfer rheilffordd Caerfyrddin- Aberystwyth ac ymestyn rheilffordd Arfordir Cambria tua'r gogledd

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Cymru i fod yn annibynnol yn y tymor hir, gyda'i arian ei hun
  • Refferendwm ar gynnal y frenhiniaeth
  • Defnyddio'r system Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) mewn etholiadau
Plaid Werdd Cymru party logo

Plaid Werdd Cymru

Arweinydd

Anthony Slaughter

Anthony Slaughter eicon

Polisïau allweddol

  • Cronfa Trawsnewid Gwyrdd i godi a chyfeirio arian yn lleol i gymunedau er mwyn creu 10,000 o swyddi yn yr economi werdd ac adeiladu cartrefi
  • Diogelu dyfodol y GIG drwy ddod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd, a buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd lleol llawer gwell
  • Datrys yr argyfwng hinsawdd, bod yn ddi-garbon erbyn 2030 a gweithio i adfer natur

Covid-19

Covid-19 eicon
  • Sicrhau bod adferiad Cymru o'r pandemig yn deg ac yn wyrdd
  • Sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig
  • Darparu dulliau amddiffyn pellach o ran trosglwyddiad mewn ysgolion drwy gyflwyno dulliau amddiffyn effeithiol i'w gwneud yn fwy diogel

Economi

Economi eicon
  • Sicrhau Cymru gynaliadwy gyda Bargen Werdd Newydd , gan greu degau o filoedd o swyddi newydd
  • Sicrhau rhenti ac ardollau isel i fusnesau bach sy'n bodoli'n barod, mentrau creadigol a chwmnïau cymdeithasol ac amgylcheddol newydd i lenwi'r siopau gwag a dod â bywyd yn ôl i'r stryd fawr
  • Galw am gyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol ar unwaith, sy'n rhannu ffyniant ar draws cymdeithas

Addysg

Addysg eicon
  • Rhoi'r gorau i gau ysgolion bach gwledig yn barhaus
  • Rhoi mynediad i ddyfeisiau electronig i bob plentyn sydd angen dysgu gartref, a mynediad i raglenni gwaith sydd wedi'u strwythuro os nad ydyn nhw'n gallu mynd i'r ysgol
  • Ehangu mynediad at addysg uwch ac addysg bellach, gan sicrhau nad oes unrhyw ffioedd yn cael eu talu am raddau cychwynnol

Iechyd a gofal

Iechyd a gofal eicon
  • Diogelu'r GIG fel corff sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus, adeg ei ddarparu
  • Sicrhau bod gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol y cyllid angenrheidiol i gynyddu capasiti ar draws holl feysydd y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol
  • Sicrhau mynediad cymdogol i bob triniaeth fel y gallant gael eu cynnig yn lleol
  • Darparu cymorth nawdd cymdeithasol i bobl anabl, pobl hŷn a'u gofalwyr yn gynnar ac yn gyflym, gan alluogi pawb i fyw bywydau cyflawn

Perthynas â'r UE

Perthynas â'r UE eicon eu_relations_v2
  • Gweithio i gryfhau ein cysylltiadau â'n cymdogion a'n cynghreiriaid Ewropeaidd ar bob lefel, gan hyrwyddo cyfleoedd positif yn y dyfodol a mynd i'r afael â'r niwed a wnaed i Gymru ar ôl Brexit
  • Pwyso ar Lywodraeth y DU i chwilio am ffyrdd o ail-ymuno ag undeb tollau'r UE ar fyrder
  • Cefnogi ymdrechion i ail-ymuno â rhaglen Erasmus+ a gweithio gyda phob plaid i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd addysgol a chelfyddydol sydd ar gael i'n pobl ifanc ar draws Ewrop

Amgylchedd

Amgylchedd eicon
  • Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy sicrhau bod targedau lleihau allyriadau carbon yn cael eu gwireddu ar y raddfa a'r cyflymder sydd ei angen, fel sy'n ofynnol gan wyddoniaeth
  • Cyflwyno gweledigaeth Werdd ar gyfer sero-net erbyn 2030, gan ddisodli tanwyddau ffosil gydag ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr a gwneud gwaith uwchraddio angenrheidiol i'r grid trydan
  • Penodi Comisiynydd newydd o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer Bioamrywiaeth a Diogelu Anifeiliaid i ddadwneud y gostyngiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru.
  • Cynnig bil i wahardd plastig untro a deddfwriaeth i leihau'n raddol yr holl wastraff pecynnu na ellir ei ailgylchu, gyda'r nod o gael gostyngiad cyffredinol ar ddeunydd pacio

Gwaith a budd-daliadau

Gwaith a budd-daliadau eicon
  • Cefnogi wythnos 4 diwrnod i rannu cyfleoedd gwaith ac ymateb i awtomeiddio a digideiddio cynyddol gweithgynhyrchu a gwasanaethau
  • Cynnwys undebau wrth gynllunio'r economi leol a rhoi cefnogaeth i weithwyr i gychwyn busnesau cymdeithasol ac amgylcheddol
  • Gwella cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr rheng flaen, yn rhannol drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol, ond hefyd drwy setliadau cyflog gwell i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gofal, hawliau gweithwyr mewn cyd-fargeinio, hawliau cyflogaeth ac iechyd a diogelwch
  • Dod â'r economi ‘gig' yng Nghymru i ben a chontractau dim oriau ecsbloetiol drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol ac ymestyn hawliau gweithwyr

Tai

Tai eicon
  • Adeiladu 12,000 o dai newydd bob blwyddyn, wedi'u hadeiladu i'r safonau amgylcheddol uchaf sy'n effeithlon o ran ynni
  • Sicrhau buddsoddiad digonol, parhaus i alluogi ôl-osod stoc tai cyfredol i'r safonau ynni effeithlon uchaf, gan godi miloedd o bobl rhag tlodi tanwydd
  • Rhoi mwy o ddiogelwch i denantiaid drwy gael gwared yn raddol ar Denantiaethau Byrddaliadol Sicr (Assured Shorthold Tenancies) yn y sector preifat a rhoi sicrwydd deiliadaeth i'r rhai sy'n cael trafferth gydag ôl-ddyledion morgais drwy gynllun ‘Hawl i Rentu'

Trafnidiaeth

Trafnidiaeth eicon
  • Creu opsiynau trafnidiaeth gwell, glanach, mwy cynaliadwy i bawb, gan gynnwys mynediad at well opsiynau cerdded, beicio/teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy
  • Cyflwyno strategaeth drafnidiaeth genedlaethol sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd drwy leihau traffig ac allyriadau carbon, tra'n gwella iechyd a llesiant ac ansawdd aer
  • Byddwn yn cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar siwrneiau lleol i'r rhai o dan 21 oed i feithrin y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Gwrthwynebu unrhyw ymdrechion i ailagor y cynigion ar gyfer ffordd liniaru'r M4, a gafodd ei ganslo

Democratiaeth

Democratiaeth eicon
  • Cefnogi'r dyhead am Gymru annibynnol sy'n gwbl ddemocrataidd, gan ddod â'r broses o wneud penderfyniadau i'r bobl yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan y penderfyniadau hynny
  • Ymgyrchu i Gymru ymwahanu o'r Deyrnas Unedig mewn unrhyw refferendwm yn y dyfodol
  • Cryfhau democratiaeth leol drwy gynyddu'r broses o ymgysylltu â dinasyddion drwy reithgorau dinasyddion, cynulliad y bobl a chyrff tebyg